Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru

Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru (Saesneg: Wales national football team) yw'r tîm sy'n cynrychioli Cymru mewn pêl-droed dynion ar lefel ryngwladol. Rheolir y tîm gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru.

Cymru
Shirt badge/Association crest
Conffederasiwn UEFA (Ewrop)
Hyfforddwr Robert Page[a]
Capten Aaron Ramsey
Mwyaf o Gapiau Gareth Bale (111)
Prif sgoriwr Gareth Bale (41)
Cod FIFA WAL
Safle FIFA 24 (24 Hydref 2019)[4]
Safle FIFA uchaf 8 (Hydref 2015)
Safle FIFA isaf 117 (Awst 2011)
Safle Elo 30 (18 Hydref 2019) [5]
Safle Elo uchaf 3 (1876~1885)
Safle Elo isaf 88 (Mawrth 2011)
Lliwiau Cartref
Lliwiau
Oddi Cartref
Gêm ryngwladol gynaf
 yr Alban 4–0  Cymru
(Glasgow; 26 Mawrth 1876)
Y fuddugoliaeth fwyaf
 Cymru 11–0  Iwerddon
(Wrecsam; 3 Mawrth 1888)
Colled fwyaf
 yr Alban 9–0  Cymru
(Glasgow; 23 Mawrth 1878)
Cwpan FIFA y Byd
Ymddangosiadau 2 (Cyntaf yn 1958)
Canlyniad gorau Rownd Go-gynderfynol, 1958
Pencampwriaeth Pêl-droed Ewrop
Ymddangosiadau 2 (Cyntaf yn 2016)
Canlyniad gorau Rownd Gyn-derfynol, 2016
Gwefan faw.cymru/cy/


Cymru yn erbyn Gwlad Belg, Stadiwm Dinas Caerdydd, 12 Mehefin 2015

Tîm Cymru yw'r trydydd hynaf o holl dimau pêl-droed cenedlaethol y byd. Chwaraeodd ei gêm ryngwladol gyntaf yn erbyn yr Alban ar 25 Mawrth 1876 yn Glasgow. Chwaraewyd y gêm ryngwladol gyntaf yng Nghymru ar y Cae Ras, Wrecsam ar 5 Mawrth 1877, eto yn erbyn yr Alban.

Mae Cymru wedi llwyddo i gyrraedd rowndiau terfynol prif bencampwriaethau'r byd pêl-droed ddwywaith, sef Cwpan y Byd Pêl-droed 1958 a phencampwriaeth Ewro 2016. Llwyddodd Cymru hefyd i gyrraedd rownd yr wyth olaf o Bencampwriaethau Ewrop 1976, sef y flwyddyn olaf y cafodd y gystadleuaeth honno ei chynnal dros ddau gymal. Yn 2022, curodd Cymru dîm Wcráin, gan gyrraedd Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, cyfnod o 64 o flynyddoedd.

Yn Ebrill 2013, agorodd Parc y Ddraig, Canolfan Datblygu Pêl-droed Cenedlaethol Cymru, yng Nghasnewydd.

Hanes golygu

Y Blynyddoedd Cynnar golygu

Chwaraeodd Cymru ei gêm gystadleuol gyntaf ar 25 Mawrth 1876 yn erbyn yr Alban yn Glasgow gan ei gwneud y trydydd tîm pêl-droed rhyngwladol hyna'n y byd. Yr Alban enillodd y gêm gyntaf 4-0. Trefnwyd gêm gyfatebol yng Nghymru y flwyddyn ganlynol ac felly y cafwyd y gêm bêl-droed ryngwladol gyntaf ar dir Cymru, ar Gae Ras Wrecsam ar 5 Mawrth 1882. Enillodd yr Alban eto, 2-0 y tro hwn. Roedd y gêm gyntaf yn erbyn Lloegr yn 1879 pan welwyd Cymru'n colli 2-1 yn Kennington Oval, Llundain ac yn 1882 wynebodd Cymru Iwerddon am y tro cyntaf gan ennill 7-1 yn Wrecsam.

Cyfarfu cynrychiolwyr y pedair gwlad ym Manceinion ar 6 Ragfyr 1882 i greu rheolau a thrwy hyn sefydlwyd Bwrdd y Cymdeithasau Pêl-droed Rhyngwladol. Yn 1883-84 ffurfiwyd Pencampwriaeth Cartref Prydain, twrnameint a chwaraewyd yn flynyddol rhwng Lloegr, yr Alban, Iwerddon a Chymru hyd 1983-84. Bu Cymru'n bencampwr 12 gwaith.

Gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd Pêl-droed 2014 golygu

Gosodwyd Cymru yng Ngrŵp A ar gyfer gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 ynghyd â Croatia, Serbia, Gwlad Belg, yr Alban a Macedonia. Ni lwyddodd Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd, gan orffen yn bumed yn y grŵp rhagbrofol.

Gemau Rhagbrofol Ewro 2016 golygu

Gosodwyd Cymru yng Ngrŵp B ar gyfer gemau Rhagbrofol Ewro 2016 ynghyd ag Andorra, Gwlad Belg, Bosnia-Hertsegofina, Cyprus ac Israel. Ar 10 Hydref 2015, er colli yn erbyn Bosnia-Hertsegofina, llwyddodd Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2016, gan fod Cyprus wedi curo Israel. Dyma'r tro cyntaf i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol twrnamaint pêl-droed rhyngwladol ers Cwpan y Byd Pêl-droed 1958.[6] Gorffennodd Cymru yn ail yn y grŵp ar ôl curo Andorra o 2-0 yng Nghaerdydd ar 13 Hydref 2015.[7]

Tîm Ch E Cyf Coll Dros Y/e +/- P
  Gwlad Belg 10 7 2 1 24 5 +19 23
  Cymru 10 6 3 1 11 4 +7 21
  Bosnia-Hertsegofina 10 5 2 3 17 12 +5 17
  Israel 10 4 1 5 16 14 +2 13
  Cyprus 10 4 0 6 16 17 -1 12
  Andorra 10 0 0 10 4 36 -32 0
Allwedd i'r lliwiau yn y tabl
Symud ymlaen i brif gemau Ewro 2016
Symud ymlaen i'r gemau ail-gyfle

Rowndiau Terfynol Ewro 2016 golygu

Ar 12 Rhagfyr 2015, tynnwyd enwau y timau i chwarae yn rowndiau terfynol Ewro 2016. Gosodwyd Cymru yng ngrŵp B, ynghyd â Lloegr, Rwsia a Slofacia.[8]

Ar 20 Mehefin 2016, llwyddodd Cymru i ennill Grŵp B, a chyrraedd rownd yr 16 olaf yng nghystadleuaeth Ewro 2016 wedi iddynt guro Rwsia o dair gôl i ddim.[9]

Tîm Ch E Cyf Coll Dros Y/E +/- P
  Cymru 3 2 0 1 6 3 +3 6
  Lloegr 3 1 2 0 3 2 +1 5
  Slofacia 3 1 1 1 3 3 0 4
  Rwsia 3 0 1 2 2 6 -4 1
Allwedd i'r lliwiau yn y tabl
Symud ymlaen i'r 16 olaf
Posibilrwydd o gyrraedd yr 16 olaf (os yn un o'r pedwar tîm trydydd safle gorau)
 
Ar ôl cyrraedd rownd gyn-derfynol pencampwriaeth UEFA Euro 2016, dychwelodd Tîm Pêl-droed Cymru i Gymru gan fynd ar daith bws agored drwy ganol dinas Caerdydd.

Ar 22 Mehefin, cyhoeddwyd y byddai Cymru yn wynebu Gogledd Iwerddon ym Mharis ar 25 Mehefin 2016 yn rownd yr 16 olaf. Enillodd Cymru y gêm 1-0, gan sicrhau eu lle yn y rownd go-gynderfynol.[10] Enillodd Cymru'r rownd honno o 3-1 yn erbyn Gwlad Belg[11], gan sicrhau eu lle yn rownd gynderfynol cystadleuaeth bêl-droed ryngwladol am y tro cyntaf erioed. Portiwgal oedd gwrthwynebwyr Cymru yn y rownd gynderfynol. Nid oedd Ben Davies nac Aaron Ramsey yn gallu chwarae oherwydd gwaharddiad, wedi iddynt dderbyn dau gerdyn melyn yr un yn ystod y gystadleuaeth. Cafwyd gêm agos, ond colli 2-0 fu hanes Cymru, gan roi terfyn ar y freuddwyd o gyrraedd y rownd derfynol.[12]

Dychwelodd carfan Cymru a'r tîm hyfforddi i Gymru ar 8 Gorffennaf 2016. Ar ôl glanio ym Maes Awyr Caerdydd, teithiodd y garfan i Gastell Caerdydd, lle roedd torfeydd o filoedd yn aros i'w croesawu. Teithiodd y chwaraewyr ar fws to agored drwy ganol y brifddinas, gan orffen yn Stadiwm Dinas Caerdydd, lle cynhaliwyd cyngerdd gan amrywiol artistiaid, gan gynnwys y Manic Street Preachers a Kizzy Crawford.[13]

Gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd Pêl-droed 2018 golygu

Yn dilyn eu llwyddiant yng Ngemau Rhagbrofol Ewro 2016, gosodwyd Cymru ymhlith y deg tîm gorau yn y Byd yn rhestr safleoedd FIFA am y tro cyntaf erioed ym mis Gorffennaf 2015. Golygodd hynny fod Cymru ymhlith y detholion uchaf ar gyfer dewis y grwpiau ar gyfer Gemau Rhagbrofol Cwpan y Byd Pêl-droed 2018. Fe dynnwyd enwau'r timau ar 25 Gorffennaf 2015 yn St Petersburg, Rwsia. Gosodwyd Cymru yng Ngrŵp D ynghyd ag Awstria, Serbia, Gweriniaeth Iwerddon, Moldofa a Georgia.[14]

Tîm Ch E Cyf Coll Dros Y/E +/- P
  Serbia 10 6 3 1 20 10 +10 21
  Iwerddon 10 5 4 1 12 6 +6 19
  Cymru 10 4 5 1 13 6 +7 17
  Awstria 10 4 3 3 14 12 +2 15
  Georgia 10 0 5 5 8 14 -6 5
  Moldofa 10 0 2 8 4 23 -19 2
Allwedd i'r lliwiau yn y tabl
Symud ymlaen i brif gemau Cwpan y Byd Pêl-droed 2018
Symud ymlaen i'r gemau ail-gyfle

Cynghrair y Cenhedloedd UEFA 2018-19 golygu

Fe osodwyd Tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yng Ngrŵp 4, Cynghrair B y gystadleuaeth gychwynnol Cynghrair y Cenhedloedd UEFA yn 2018-19. Ynghyd ag Gweriniaeth Iwerddon a Denmarc.[15]

Tîm Ch E Cyf Coll Dros Y/E +/- P
  Denmarc 4 2 2 0 4 1 +3 8
  Cymru 4 2 0 2 6 5 +1 6
  Iwerddon 4 0 2 2 1 5 -4 2
Allwedd i'r lliwiau yn y tabl
Dyrchafiad i Gynghrair A Cynghrair y Cenhedloedd UEFA
Gostwng i Gynghrair C Cynghrair y Cenhedloedd UEFA

Gemau Rhagbrofol Ewro 2020 golygu

Gosodwyd Cymru yng Ngrŵp E ar gyfer gemau Rhagbrofol Ewro 2020 ynghyd ag Aserbaijan, Croatia, Hwngari a Slofacia. Fe fydd y ddau dîm fydd ar frîg y tabl ar ddiwedd y rowndiau rhagbrofol yn symud yn uniongyrchol i rowndiau terfynol Ewro 2020.

Tîm Ch E Cyf Coll Dros Y/e +/- P
  Croasia 8 5 2 1 17 7 +10 17
  Cymru 8 4 2 2 10 6 +4 14
  Slofacia 8 4 1 3 13 11 +2 13
  Hwngari 8 4 0 4 8 11 -3 12
  Aserbaijan 8 0 1 7 5 18 -13 1

Cywir ar 19 Tachwedd 2019

Allwedd i liwiau'r tabl
Symud ymlaen i brif gemau Ewro 2020

Canlyniadau Diweddar a Gornestau'r Dyfodol golygu

Dyddiad Cystadleuaeth Canlyniad
15 Hydref 2013 Rhagbrofol Cwpan y Byd 2014   Gwlad Belg 1 - 1   Cymru
16 Tachwedd 2013 Cyfeillgar   Cymru 1 - 1   Y Ffindir
5 Mawrth 2014 Cyfeillgar   Cymru 3 - 1   Gwlad yr Iâ
4 Mehefin 2014 Cyfeillgar   Yr Iseldiroedd 2 - 0   Cymru
9 Medi 2014 Rhagbrofol Ewro 2016   Andorra 1 - 2   Cymru
10 Hydref 2014 Rhagbrofol Ewro 2016   Cymru 0 - 0   Bosnia-Hertsegofina
13 Hydref 2014 Rhagbrofol Ewro 2016   Cymru 2 - 1   Cyprus
16 Tachwedd 2014 Rhagbrofol Ewro 2016   Gwlad Belg 0 - 0   Cymru
28 Mawrth 2015 Rhagbrofol Ewro 2016   Israel 0 - 3   Cymru
12 Mehefin 2015 Rhagbrofol Ewro 2016   Cymru 1 - 0   Gwlad Belg
3 Medi 2015 Rhagbrofol Ewro 2016   Cyprus 0 - 1   Cymru
6 Medi 2015 Rhagbrofol Ewro 2016   Cymru 0 - 0   Israel
10 Hydref 2015 Rhagbrofol Ewro 2016   Bosnia-Hertsegofina 2 - 0   Cymru
13 Hydref 2015 Rhagbrofol Ewro 2016   Cymru 2 - 0   Andorra
13 Tachwedd 2015 Cyfeillgar   Cymru 2 - 3   Yr Iseldiroedd
24 Mawrth 2016 Cyfeillgar   Cymru 1 - 1   Gogledd Iwerddon
28 Mawrth 2016 Cyfeillgar   Wcrain 1 - 0   Cymru
5 Mehefin 2016 Cyfeillgar   Sweden 3 - 0   Cymru
11 Mehefin 2016 Ewro 2016   Cymru 2 - 1   Slofacia
16 Mehefin 2016 Ewro 2016   Lloegr 2 - 1   Cymru
20 Mehefin 2016 Ewro 2016   Rwsia 0 - 3   Cymru
25 Mehefin 2016 Ewro 2016 (Rownd yr 16 Olaf)   Cymru 1 - 0   Gogledd Iwerddon
1 Gorffennaf 2016 Ewro 2016 (Rownd Gogynderfynol)   Cymru 3 - 1   Gwlad Belg
6 Gorffennaf 2016 Ewro 2016 (Rownd Gynderfynol)   Portiwgal 2 - 0   Cymru
5 Medi 2016 Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018   Cymru 4 - 0   Moldofa
6 Hydref 2016 Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018   Awstria 2 - 2   Cymru
9 Hydref 2016 Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018   Cymru 1 - 1   Georgia
12 Tachwedd 2016 Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018   Cymru 1 - 1   Serbia
24 Mawrth 2017 Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018   Iwerddon 0 - 0   Cymru
11 Mehefin 2017 Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018   Serbia 1 - 1   Cymru
2 Medi 2017 Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018   Cymru 1 - 0   Awstria
5 Medi 2017 Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018   Moldofa 0 - 2   Cymru
6 Hydref 2017 Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018   Georgia 0 - 1   Cymru
9 Hydref 2017 Rhagbrofol Cwpan y Byd 2018   Cymru 0 - 1   Iwerddon
10 Tachwedd 2017 Cyfeillgar   Ffrainc 2 - 0   Cymru
14 Tachwedd 2017 Cyfeillgar   Cymru 1 - 1   Panama
22 Mawrth 2018 Cwpan Tsiena 2018   Gweriniaeth Pobl Tsieina 0 - 6   Cymru
26 Mawrth 2018 Cwpan Tsiena 2018   Wrwgwái 1 - 0   Cymru
29 Mai 2018 Cyfeillgar   Mecsico 0 - 0   Cymru
6 Medi 2018 Cynghrair y Cenhedloedd UEFA   Cymru 4 - 1   Iwerddon
9 Medi 2018 Cynghrair y Cenhedloedd UEFA   Denmarc 2 - 0   Cymru
11 Hydref 2018 Cyfeillgar   Cymru 1 - 4   Sbaen
16 Hydref 2018 Cynghrair y Cenhedloedd UEFA   Iwerddon 0 - 1   Cymru
16 Tachwedd 2018 Cynghrair y Cenhedloedd UEFA   Cymru 1 - 2   Denmarc
20 Tachwedd 2018 Cyfeillgar   Albania 1 - 0   Cymru
20 Mawrth 2019 Cyfeillgar   Cymru 1 - 0   Trinidad a Thobago
24 Mawrth 2019 Rhagbrofol Ewro 2020   Cymru 1 - 0   Slofacia
8 Mehefin 2019 Rhagbrofol Ewro 2020   Croasia 2 - 1   Cymru
11 Mehefin 2019 Rhagbrofol Ewro 2020   Hwngari 1 - 0   Cymru
6 Medi 2019 Rhagbrofol Ewro 2020   Cymru 2 - 1   Aserbaijan
10 Medi 2019 Cyfeillgar   Cymru 1 - 0   Belarws
10 Hydref 2019 Rhagbrofol Ewro 2020   Slofacia 1 - 1   Cymru
13 Hydref 2019 Rhagbrofol Ewro 2020   Cymru 1 - 1   Croasia
16 Tachwedd 2019 Rhagbrofol Ewro 2020   Aserbaijan 0 - 2   Cymru
19 Tachwedd 2019 Rhagbrofol Ewro 2020   Cymru 2 - 0   Hwngari

Chwaraewyr golygu

Carfan ddiweddaraf golygu

Enwodd Rob Page y tîm 26-dyn ar y gêmau yn erbyn De Corea a Latfia ym mis Medi 2023.

Capiau a goliau yn dilyn 3 Medi 2023

0#0 Safle Chwaraewr Dyddiad geni (oed) Capiau Goliau Clybiau
1G Wayne Hennessey (1987-01-24) 24 Ionawr 1987 (37 oed) 108 0   Nottingham Forest
1G Danny Ward (1993-06-22) 22 Mehefin 1993 (30 oed) 32 0   Leicester City
1G Adam Davies (1992-07-17) 17 Gorffennaf 1992 (31 oed) 4 0   Sheffield United
1G Tom King (1995-03-09) 9 Mawrth 1995 (29 oed) 0 0   Wolverhampton Wanderers
2AM Ben Davies (1993-04-24) 24 Ebrill 1993 (30 oed) 78 1   Tottenham Hotspur
2AM Connor Roberts (1995-09-23) 23 Medi 1995 (28 oed) 48 3   Burnley
2AM Chris Mepham (1997-11-05) 5 Tachwedd 1997 (26 oed) 40 0   Bournemouth
2AM Joe Rodon (1997-10-22) 22 Hydref 1997 (26 oed) 37 0   Leeds United
2AM Neco Williams (2001-04-13) 13 Ebrill 2001 (22 oed) 30 2   Nottingham Forest
2AM Tom Lockyer (1994-12-03) 3 Rhagfyr 1994 (29 oed) 14 0   Luton Town
2AM Ben Cabango (2000-05-30) 30 Mai 2000 (23 oed) 7 0   Dinas Abertawe
2AM Morgan Fox (1993-09-21) 21 Medi 1993 (30 oed) 0 0   Queens Park Rangers
3CC Aaron Ramsey (capten) (1990-12-26) 26 Rhagfyr 1990 (33 oed) 82 20   Dinas Caerdydd
3CC Harry Wilson (1997-03-22) 22 Mawrth 1997 (26 oed) 46 6   Fulham
3CC Ethan Ampadu (2000-09-14) 14 Medi 2000 (23 oed) 44 0   Leeds United
3CC Joe Morrell (1997-01-03) 3 Ionawr 1997 (27 oed) 36 0   Portsmouth
3CC David Brooks (1997-07-08) 8 Gorffennaf 1997 (26 oed) 22 2   Bournemouth
3CC Wes Burns (1994-11-23) 23 Tachwedd 1994 (29 oed) 4 0   Ipswich Town
3CC Josh Sheehan (1995-03-30) 30 Mawrth 1995 (28 oed) 3 0   Bolton Wanderers
3CC Jordan James (2004-07-02) 2 Gorffennaf 2004 (19 oed) 2 0   Birmingham City
4YM Kieffer Moore (1992-08-08) 8 Awst 1992 (31 oed) 34 10   Bournemouth
4YM Brennan Johnson (2001-05-23) 23 Mai 2001 (22 oed) 20 2   Tottenham Hotspur
4YM Rabbi Matondo (2000-09-09) 9 Medi 2000 (23 oed) 11   Rangers
4YM Tom Bradshaw (1992-07-27) 27 Gorffennaf 1992 (31 oed) 6 0   Millwall
4YM Nathan Broadhead (1998-04-05) 5 Ebrill 1998 (25 oed) 4 1   Ipswich Town F.C.
4YM Liam Cullen (1999-04-03) 3 Ebrill 1999 (24 oed) 0 0   Dinas Abertawe

Chwaraewyr eraill a alwyd i'r garfan yn ddiweddar golygu

0#0 Safle Chwaraewr Dyddiad geni (oed) Capiau Goliau Clybiau
2AM Adam Henley (1994-06-14) 14 Mehefin 1994 (29 oed) 2 0   Blackburn Rovers
2AM Adam Matthews (1992-01-13) 13 Ionawr 1992 (32 oed) 13 0   Sunderland
2AM Morgan Fox (1993-09-21) 21 Medi 1993 (30 oed) 0 0   Charlton Athletic
2AM Sam Ricketts (1981-10-11) 11 Hydref 1981 (42 oed) 52 0   Coventry City
2AM James Lawrence (1992-08-22) 22 Awst 1992 (31 oed) 3 0   Anderlecht
2AM Paul Dummett (1991-09-26) 26 Medi 1991 (32 oed) 5 0   Newcastle United
2AM Declan John (1995-06-30) 30 Mehefin 1995 (28 oed) 7 0   Dinas Abertawe
2AM Jazz Richards (1991-04-12) 12 Ebrill 1991 (32 oed) 14 0   Dinas Caerdydd
2AM James Chester (1989-01-23) 23 Ionawr 1989 (35 oed) 34 0   Aston Villa F.C.
3 2AM Neil Taylor (1989-02-07) 7 Chwefror 1989 (35 oed) 39 1   Aston Villa
6 2AM Joe Walsh (1989-05-13) 13 Mai 1989 (34 oed) 0 0   MK Dons
14 3CC David Edwards (1986-02-03) 3 Chwefror 1986 (38 oed) 38 3   Wolverhampton Wanderers
3CC Emyr Huws (1993-09-30) 30 Medi 1993 (30 oed) 9 1   Dinas Caerdydd
16 3CC Joe Ledley (1987-01-23) 23 Ionawr 1987 (37 oed) 72 4   Crystal Palace
8 3CC Andy King (1988-10-29) 29 Hydref 1988 (35 oed) 49 2   Caerlyr
3CC David Brooks (1997-07-08) 8 Gorffennaf 1997 (26 oed) 10 0   Bournemouth
3CC Shaun MacDonald (1988-06-17) 17 Mehefin 1988 (35 oed) 4 0   Wigan Athletic
3CC Lloyd Isgrove (1993-12-01) 1 Rhagfyr 1993 (30 oed) 1 0   Barnsley
22 3CC David Vaughan (1983-02-18) 18 Chwefror 1983 (41 oed) 43 1   Nottingham Forest
3CC Jordan Williams (1995-11-06) 6 Tachwedd 1995 (28 oed) 0 0   Swindon Town
4YM Tom Bradshaw (1992-07-27) 27 Gorffennaf 1992 (31 oed) 1 0   Walsall
4YM Wes Burns (1994-11-23) 23 Tachwedd 1994 (29 oed) 0 0   Fleetwood Town
23 4YM Simon Church (1988-12-10) 10 Rhagfyr 1988 (35 oed) 38 3   MK Dons
17 3CC David Cotterill (1987-12-04) 4 Rhagfyr 1987 (36 oed) 23 2   Birmingham City
9 4YM Hal Robson-Kanu (1989-05-21) 21 Mai 1989 (34 oed) 40 4   West Bromwich Albion
4YM Tom Lawrence (1994-01-13) 13 Ionawr 1994 (30 oed) 17 3   Derby County
4YM Sam Vokes (1989-10-21) 21 Hydref 1989 (34 oed) 60 11   Burnley F.C.
13 4YM George Williams (1995-09-07) 7 Medi 1995 (28 oed) 7 0   MK Dons
20 3CC Jonathan Williams (1993-10-09) 9 Hydref 1993 (30 oed) 17 0   Crystal Palace

Prif sgorwyr golygu

Cywir ar 19 Tachwedd 2019 (Mae'r chwaraewyr sy'n dal i chwarae mewn print trwm):

# Enw Goliau Capiau Cyfartaledd
1 Gareth Bale 33 83 0.4
2 Ian Rush 28 73 0.38
3 Trevor Ford 23 38 0.61
Ivor Allchurch 23 68 0.34
5 Dean Saunders 22 75 0.29
6 Craig Bellamy 19 78 0.24
7 Robert Earnshaw 16 59 0.27
Cliff Jones 16 59 0.27
Mark Hughes 16 72 0.22
Aaron Ramsey 16 60 0.27


Mwyaf o Gapiau golygu

Cywir ar 19 Tachwedd 2019 (Mae'r chwaraewyr sy'n parhau i chwarae mewn print trwm):

# Name First/Latest Cap Caps Goals
1 Chris Gunter 2007– 96 0
2 Neville Southall 1982–1997 92 0
3 Wayne Hennessey 2007– 89 0
4 Ashley Williams 2007– 86 2
5 Gary Speed 1990–2004 85 7
6 Gareth Bale 2006– 83 33
7 Craig Bellamy 1998–2013 78 19
8 Joe Ledley 2007– 77 4
9 Dean Saunders 1986–2001 75 22
10 Peter Nicholas 1979–1991 73 2
Ian Rush 1980–1996 73 28

Chwaraewyr Eraill gyda 50 neu fwy o gapiau golygu

Cywir ar 19 Tachwedd 2019 (Mae'r chwaraewyr sy'n parhau i chwarae mewn print trwm):

Rheolwyr golygu

Rhestrir rheolwyr dros dro yn italig.

Cyn 1954 roedd tîm Cymru yn cael ei ddewis gan banel o ddewiswyr, gyda'r capten yn chwarae rôl hyforddwr.

Nodiadau

  1. 1.0 1.1 Mae Page wedi bod rheolwr Cymru ers 3 Tachwedd 2020, ar ôl i Ryan Giggs gael ei arestio am drais domestig. Roedd Giggs y rheolwr swyddogol tan ei ymddiswyddiad yn 2022.[1][2][3]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rob Page yn debygol o arwain Cymru yn Ewro 2020 os na fydd Ryan Giggs ar gael". Golwg360. Cyrchwyd 2 Awst 2022.
  2. "FAW Statement". Cymdeithas Bêl-droed Cymru. Cyrchwyd 2 Awst 2022.
  3. "Ryan Giggs wedi ymddiswyddo". Golwg360. 20 Mehefin 2022. Cyrchwyd 2 Awst 2022.
  4. "Safleoedd FIFA". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-06-26. Cyrchwyd 2015-07-04.
  5. Safleoedd ELO
  6. BBC Cymru
  7. Golwg360
  8. BBC Cymru
  9. "Cymru ar y ffordd i Baris". BBC Cymru. 2016-06-20. Cyrchwyd Mehefin 2016. Check date values in: |accessdate= (help)
  10. "Cymru 1-0 Gogledd Iwerddon: Cyrraedd yr 8 olaf". BBC Cymru. 2016-06-26. Cyrchwyd Mehefin 2016. Check date values in: |accessdate= (help)
  11. "Cymru v Gwlad Belg – fel digwyddodd". The Guardian. 2016-07-01. Cyrchwyd Gorffennaf 2016. Check date values in: |accessdate= (help)
  12. "Cymru allan o Euro 2016 wedi colled yn erbyn Portiwgal". BBC Cymru. 2016-07-06. Cyrchwyd Gorffennaf 2016. Check date values in: |accessdate= (help)
  13. "Croeso'n ôl i Garfan Cymru". BBC Cymru. 2016-07-08. Cyrchwyd Gorffennaf 2016. Check date values in: |accessdate= (help)
  14. "Cwpan y Byd 2018: Cymru'n dechrau'r ymgyrch yn erbyn Moldofa". Golwg360. 2015-07-26. Cyrchwyd Awst 2015. Check date values in: |accessdate= (help)
  15. . BBC Cymru. 2017-10-11 Cynghrair y Cenhedloedd: Ail haen i Gymru https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/41580531: Cynghrair y Cenhedloedd: Ail haen i Gymru Check |url= value (help). Cyrchwyd Hydref 2018. Check date values in: |accessdate= (help); Missing or empty |title= (help)[dolen marw]
  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.