David Evans (Dewi Dawel)
Roedd David Evans (Dewi Dawel) (16 Medi, 1814 -27 Awst, 1871) yn deiliwr, tafarnwr, bardd a chasglwr trethi Cymreig.[1]
David Evans | |
---|---|
Ffugenw | Dewi Dawel |
Ganwyd | 16 Medi 1814 Llanfynydd |
Bu farw | 20 Rhagfyr 1891 Cwm-du, Sir Gaerfyrddin |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | Teiliwr, tafarnwr, bardd |
Plant | William Caradog Evans |
Cefndir
golyguGanwyd Dewi Dawel yn y Gefnffordd, Penygarn, plwyf Llanfynydd, Sir Gaerfyrddin yn blentyn i Thomas Evans, oedd yn deiliwr wrth ei alwedigaeth. Bu farw ei dad trwy foddi yn Afon Cothi.
Gyrfa
golyguDilynodd yn ôl traed ei dad, gan ddechrau gweithio fel teiliwr yn gweithio o ddrws i ddrws. Wedi cael llwyddiant yn y fenter, agorodd weithdy teilwra, siop a thŷ tafarn, y Cwm Du Inn. Yn ogystal â'i fusnesau bu hefyd yn gweithio fel casglwr trethi ac fel clerc i bwyllgor yr ysgolion lleol.
Gyrfa lenyddol
golyguMeistrolodd reolau cerdd dafod gan fabwysiadu'r enw barddol "Dewi Dawel" a bu'n cystadlu ac yn beirniadu mewn eisteddfodau a chyrddau llenyddol yn yr ardal. Bu hefyd yn cystadlu ar ysgrifennu traethodau. Enillodd yn eisteddfod Llandeilo gyda thraethawd "Dyletswyddau rhieni i roi addysg dda i'w merched", syniad oedd braidd yn ddieithr yn y cyfnod hwnnw. Argraffwyd y traethawd yn ddiweddarach.
Roedd Dewi Dawel yn aelod o enwad yr Undodiaid, a byddai'n cerdded y 9 milltir o'i dŷ i'r capel undodaidd agosaf ger Llandeilo. Byddai'n cyfrannu'n aml i golofn farddonol cylchgrawn ei enwad Yr Ymofynydd. Un o'i gerddi mwyaf nodedig i'w chyhoeddi yn y cylchgrawn oedd Addysgiaeth yng Nghymru, sef ei ymateb i Frad y Llyfrau Gleision. Roedd yr un mor siomedig ag eraill yng Nghymru am gynnwys yr adroddiad. Fe'i siomwyd hefyd gan ymateb y mwyafrif i'r adroddiad. Roedd yn ymwybodol bod diffygion yn narpariaeth addysg yng Nghymru ac yn credu bod y cyfle i gael trafodaeth am addysg wedi ei golli trwy droi'r ymateb yn un Capel yn erbyn Eglwys.[2]
Dyma'r gerdd:[3]
Yn ogystal â bod yn fardd roedd Dewi Dawel yn gerddor hefyd. Canai nifer o offerynnau a fu'n sarsiant bandfeistr ar seindorf bres fach oedd yn gysylltiedig â chatrawd wirfoddolwyr y cylch. Dewi a'i feibion oedd bron y cyfan o aelodau'r band.[2]
Mae llawer o'i waith wedi ei gadw gan y Llyfrgell Genedlaethol.[4]
Teulu
golyguPriododd Mary Davies, Maes yr Haidd, Llanfynydd ym 1837 a bu iddynt ddeg o blant. Bu dau o'i feibion yn ysgolfeistri Thomas Morgan Evans (1838-92) yng Nghwmdu a Dafydd Evans (1842-93) yn Nhalyllychau. Mab arall iddo oedd y bardd Gwilym Caradog, William Caradog Evans (1848-78).[5]
Marwolaeth
golyguBu farw yn ei gartref, Tafarn Cwm-du yn 77 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent y Plwyf, Llanfynydd.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "EVANS, DAVID ('Dewi Dawel'; 1814 - 1891), teiliwr, tafarnwr, bardd, etc. | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-11-09.
- ↑ 2.0 2.1 "Dewi Dawel". Yr Ymofynydd 51: 70. Mawrth 1892. https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2555083/2568603/23#?xywh=-24%2C-185%2C2013%2C1785.
- ↑ "Addysgiaeth yng Nghymru". Yr Ymofynydd 51: 119. Mai 1849. https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/2555083/2555710/24#?xywh=-347%2C-74%2C3679%2C2392. Adalwyd 9 Tachwedd 2019.
- ↑ "Llawysgrifau Dewi Dawel, - Llyfrgell Genedlaethol Cymru Archifau a Llawysgrifau". archives.library.wales. Cyrchwyd 2019-11-09.
- ↑ "BBC - De Orllewin - Teilwriaid Bro'r Lloffwr". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2019-11-09.
- ↑ "CWMDU TALLEY - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1892-02-26. Cyrchwyd 2019-11-09.