David Jones (Davydd Hael o Dowyn)

Un o Gymry Llundain a chymwynaswr i achosion a sefydliadau Cymreig

Un o Gymry Llundain oedd David Jones (17688 Ebrill 1837) a chymwynaswr i achosion a sefydliadau Cymreig ei gyfnod.

David Jones
FfugenwDavydd Hael o Dowyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru

Fe’i ganed yn y Caethle, fferm ar gyrion Tywyn Meirionnydd, yn 1768, yn fab i David a Bridget Jones, a'i fedyddio yn Eglwys Cadfan ar 24 Awst y flwyddyn honno.[1] Aeth i Lundain yn ei fabandod a byw yno weddill ei oes. Roedd yn rhugl ei Gymraeg a dywedid bod ganddo’r casgliad gorau o lyfrau Cymraeg a Chymreig yn y ddinas.

Gweithiodd am oddeutu deugain mlynedd fel swyddog yn yr ‘Engrossing Office’ yn Nhŷ’r Cyffredin. Roedd yn enwog am ei haelioni wrth ei gyd-Gymry ac fe gefnogai unrhyw achos neu sefydliad a hyrwyddai fuddiannau’r wlad.[2] Ar ei farwolaeth, dywedodd cylchgrawn The Spectator ei fod yn enwog drwy Gymru dan yr enw ‘Davydd Hael o Dowyn’.[3]

Ymaelododd â chymdeithas y Gwyneddigion yn 1819, gan ddod yn aelod o’i chyngor.[4]

Bu David Jones farw ar 8 Ebrill 1837 yn ei gartref yn 20 Adam Street, Adelphi yn Ninas Westminster. Roedd yn 68 mlwydd oed. Fe'i claddwyd yn eglwys Ioan Efengylydd, Westminster, ar 12 Ebrill 1837.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. Cofnodion Plwyf Eglwys Cadfan, Tywyn, Meirionnydd.
  2. "Died". The Cambrian. 22 Ebrill 1837.
  3. "Births, Marriages and Deaths". The Spectator 10: 347. 1837. https://www.google.co.uk/books/edition/The_Spectator/5zA_AQAAIAAJ?hl=en&gbpv=1&dq=%22davydd+hael%22&pg=PA347&printsec=frontcover.
  4. Leathart, William Davies (1831). The Origin and Progress of the Gwyneddigion Society of London, Instituted M.DCC.LXX. London: Hugh Pierce Hughes. t. 108.
  5. Register of Burials in the Parish of St John the Evangelist, Westminster, in the County of Middlesex (1833–38), t. 148.