David Lloyd George (locomotif)

locomotif stêm ar Reilffordd Ffestiniog

Roedd David Lloyd George y pedwerydd locomotif adeiladwyd gan Gymni’r Rheilffordd Ffestiniog yng Ngweithdy Boston Lodge. Mae’r enw ‘David Lloyd George’ ar un ochr y locomotif a ‘Dafydd Lloyd George’ar yr ochr arall. 12 yw rhif y locomotif. Cwblhawyd y locomotif ym 1992, i losgi olew. Erbyn hyn, mae’n ddefnyddio glo.[1]

David Lloyd George
Enghraifft o'r canlynolLocomotif Fairlie, narrow gauge locomotive Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1992 Edit this on Wikidata
Lled y cledrau1-foot 11½-inch track gauge Edit this on Wikidata
GweithredwrRheilffordd Ffestiniog Edit this on Wikidata
GwneuthurwrGweithdy Boston Lodge Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Ym 1989, cafodd y rheilffordd grant o’r Rhaglen INCA. Bwriadwyd rhoi boeler newydd ar Merddin Emrys neu Iarll Merioneth ond penderfynwyd adeiladu locomotif Fairlie Dwbl newydd. Roedd y cynllun yn yn newydd, ond yn seiliedig ar gynllun gwreiddiol Spooner, er gyda boelers taprog, tipyn bach yn fyrrach na’r boelers gwreiddiol. Datblygwyd cynllun y boeler gan Bob Meanley o weithdy locomotif Tyseley, ac wedi adeiladu gan gwmni Bloomfield, Tipton. Mynnodd yr arolygwr boeler fod y boeler i gyd wedi weldio, yn wahanol i foelers Fairlie cynt.[2] Mae corff y locomotif yn debyg i Merddin Emrys a Livingston Thompson. Ond mae un o’r tanciau y dal olew yn hytrach na ddŵr.[3] Dechreuodd David Lloyd George ei waith yng Gorffennaf 1992 er doedd o ddim yn orffenedig, oherwydd problemau gyda Merddin Emrys. Doedd dim to ar y cab a phaentiwyd y locomotif yn ddu. Paentiwyd o’n goch gyda llinellau yn hwyrach ym 1992 a chafodd ei enw ym mis Ebrill 1993.[4]

Ailadeiladu cyntaf a defnyddio’n llai

golygu

Roedd y locomotif yn effeithiol iawn dros ei ddeg mlynedd gyntaf. Cafodd atgyweiriad yn 2002, yn cynnwys tiwbiau newydd i’r boeler. Wedyn defnyddiwyd y locomotif yn llai, oherwydd oedran ei fogis, a hefyd fod o’n defnyddio oil tra oedd glo’n rhatach. Adeiladwyd bogis newydd yn 2012 gyda falfau piston.[5]

Ailadeiladu eto, a newid i ddefnydd glo

golygu

Cafodd y boeler tiwbiau newydd eto, elfen dra-poethwr newydd a bocs mwg newydd. Nweidwyd y locomotif i ddefnyddio glo, a chrewyd lle ychwanegol i gadw glo ar ben y tanciau. Ailadeiladwyd y locomotif erbyn 2014 gyda simneiau talach, paentiwyd yn llwyd, ac ail-ddechreuodd ei waith ym mis Mai. Paentiwyd y locomotif yn goch yn 2015.[6]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Festipedia
  2. Gwefan Festipedia
  3. Payling, David (2017). Fairlie Locomotives of North Wales. Harbour Station, Porthmadog: Ffestiniog and Welsh Highland Railways. ISBN 978-0-901848-14-7
  4. Gwefan Festipedia
  5. Gwefan Festipedia
  6. Gwefan Festipedia