Locomotif Fairlie

Dyfeiswyd y 'locomotif Fairlie gan Robert F Fairlie, peiriannydd o'r Alban ym 1864. Mae gan y locomotif 2 foeler ac mae dau ben y locomotif yr un fath, felly does dim angen troi'r locomotif ar ddiwedd ei siwrnai. Mae o'n gymalog, sydd yn fantais ar reilffyrdd troellog, ac mae pŵer y locotif yn cael ei rhannu gan pob un o'r olwynion. Wrth gario'r dŵr a glo ar y locomotif, maen nhw cyfrannu at pŵer y locomotif.

Fairlie yn Otago
Merddin Emrys
Mountaineeradeiladwyd ym 1866 ar gyfer Rheilffordd Castell Nedd ac Aberhonddu
Taliesin
Mason Janus, 1877
Fairlie Toronto a Nipissing 0-6-6-0 rhif 9 Shedden Adeiladwyd gan gwmni Avonside, Bryste ym 1871
Locomotora de Montaña Fairlie, Veracruz, tua 1903
Fairlie Dosbarth FF, Rwsia, adeiladwyd ym 1884

Ar y llaw arall, mae anfanteision. Does dim llawer o le i gario dŵr a glo; buasai cerbyn ar wahan yn cario mwy, ond dydy cynllun y locomoif ddim yn caniatáu'r fath cerbyd. Carir stêm at yr olwynion gan bibellau hyblig, ac oedd yn broblemau efo tyllau. Ac yn olaf, mae bogïau ar fathau eraill o locomotifau yn eu sedflydlu nhw; hebddyn nhw, mae locomotifau Fairlie, rhedeg yn arw ar y cledrau.

Adeiladwyd locomotifau Fairlie cynnar ar gyfer Rheilffordd Castell Nedd a Brycheiniog a'r Rheilffyrdd Queensland, Awstralia, ond doedden nhw ddim yn llwyddiannus iawn.[1]

Defnydd ar Reilffordd Ffestiniog

golygu

Erbyn 1869, roedd y Rheilffordd Ffestiniog mor brysur, bod rhaid ystiried dwblu'r traciau, a phasiwyd deddf i ganiatáu dwblu. Ond ym 1869, adeiladwyd y 'double Fairlie' Little Wonder ar gyfer y rheilffordd. Roedd yr injan mor bwerus, doedd dim angen dwblu'r traciau[2]. Wedyn gwerthwyd locomotifau ar draws yr Ymerodraeth Brydeinig, i Rwsia ac i'r Unol Daleithiau. Cafodd Rheilffordd Ffestiniog caniatád i adeiladu'r locomotifau heb daliad i'r cwmni Fairlie er mwyn eu hysbysebu nhw. Erbyn heddiw, mae'r rheilffordd wedi cael sawl locomotif Fairlie:-

locomotifau dwbl

golygu

locomotifau sengl

golygu

[3]

Defnydd arall

golygu

Defnyddiwyd locomotifau Fairlie'n llwyddiannus ar Ferrocaril Mexicano, rhwng Dinas Mecsico a Veracruz. Defnyddiwyd 49 o locomotifau 0-6-0 + 0-6-0, pob un yn pwyso 125 tunnell hyd at drydaneiddio'r lein yn y 1920au.

Cafodd 'Single Fairlie' dim ond un boeler. Cadwyd y syniad o fogie cymalog, ond efo bogie heb bŵer hefyd. Roed hi'n bosibl cario mwy o ddŵr a glo uwchben y bogie arall, neu hyd yn oed ychwanegu cerbyd arall ar eu cyfer nhw. Oedd gan William Mason drwydded i adeiladu locomotifau Fairlie, ac adeiladodd o 146 'Mason bogies', ei fersiwn o'r 'Single Fairlie' yn yr Unol Daleithiau.[1]

Cyfeiriadau

golygu