David Thomas (Dewi Hefin)
bardd Cymreig (Dewi Hefin) (Dewi Hefin)
Bardd o Gymru oedd David Thomas (4 Mehefin 1828 - 9 Mawrth 1909).
David Thomas | |
---|---|
Ffugenw | Dewi Hefin |
Ganwyd | 4 Mehefin 1828 Llanwenog |
Bu farw | 9 Mawrth 1909 Cribyn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd |
Cafodd ei eni yn Llanwenog yn 1828 yn fab i John Thomas (saer) a Margaret ei wraig. Cafodd ei fedyddio yn Eglwys Llanwenog ar 2 Ionawr 1829 [1]. Cofir Thomas yn bennaf am ei gyfraniadau I gyfnodolion Cymreig ei gyfnod, ac am gyhoeddi pedair cyfrol o farddoniaeth:
- Y Blodau (1854)
- Blodau Hefin (1859)
- Blodau'r Awen (1866)
- Blodau Hefin (1883).
Am nifer o flynyddoedd bu'n athro a phrifathro nifer o ysgolion yng Ngheredigion ac mae llawer o enwogion Sir Aberteifi yn ddyledus iawn i'w hyfforddiant cyn i ysgolion bwrdd ddod i fodolaeth.[2]
Cafodd Dewi Hefin a Mary ei wraig 6 o blant, merch a phum mab. Roedd dau o'r meibion yn feistri ysgol, un yn glerigwr, un arall yn arolygydd ysgol, a'r pumed yn dilledydd.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Cofrestr Bedydd Plwyf Llanwenog David Thomas 2 Ion 1829". Family Search. Cyrchwyd 9 Chwefror 2020.
- ↑ "DEATH OF DEWI HEFIN - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1909-03-13. Cyrchwyd 2020-02-09.