Agor y brif ddewislen

Cribyn, Ceredigion

pentref yng Ngheredigion

Pentref bychan yn ne Ceredigion yw Cribyn, a leolir tua 7 milltir i'r gogledd o Lanbedr Pont Steffan i'r de o bentrefi Troed-y-rhiw, Mydroilyn a Dihewyd.

Cribyn, Ceredigion
Math Pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Ceredigion Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.139°N 4.162°W Edit this on Wikidata
Cod OS SN521511 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Elin Jones (Plaid Cymru)
AS/au Ben Lake (Plaid Cymru)
Erthygl am le yng Ngheredigion yw hon. Gweler hefyd Cribyn (gwahaniaethu).

Gorwedd Cribyn ar lan Afon Granell, un o ledneintiau Afon Teifi, yn y bryniau sy'n gorwedd rhwng Dyffryn Aeron i'r gogledd a Dyffryn Teifi i'r de. Mae'r pentrefi bychain cyfagos yn cynnwys Capel Sant Silin a Llanwnen.

Sefydlwyd un o'r ychydig gapeli Undodaidd yng Ngheredigion yn y pentref yn 1790 gan Dafydd Davis Castellhywel ac Evan Davies, Cwmbedw.

Sefydlwyd ysgol gynradd Cribyn gan Gwilym Butler-Wilkins yn 1876. Heddiw mae'n ysgol gynradd gyfrwng Cymraeg.

Cynrychiolir y pentref yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Elin Jones (Plaid Cymru) a'r Aelod Seneddol yw Ben Lake (Plaid Cymru).[1][2]

EnwogionGolygu

Ganwyd y bardd Daniel Evans (Daniel Ddu o Geredigion) yn ffermdy Maes Mynach, ar lan yr afon Granell ger Cribyn, ym 1792. Ceir cyfeiriadau at yr ardal mewn rhai o'i gerddi.

CyfeiriadauGolygu

  1. Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: