Ffurf draddodiadol Gymreig o ddawns yw clocsio[1][2] sy'n cynnwys esgidiau clocsio a symudiad ergydiol y traed a symudiadau athletaidd. Fe'i gwneir yn nodweddiadol i gerddoriaeth draddodiadol Gymreig a thra'n gwisgo gwisg draddodiadol Gymreig, ond nid bob amser.

Clocsio
Closiwr unigol, Eisteddfod Bodedern, 2017.
Enghraifft o'r canlynolmath o ddawns Edit this on Wikidata
MathDawnsio Gwerin, clocsio Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata
Gweler hefyd: Dawns Gymreig

Hanes y draddodiad

golygu

Traddodiad di-dor yw'r ddawns stepio Gymreig a berfformiwyd yn nodweddiadol gan weithwyr y chwareli llechi a ffermwyr. Byddai dawnswyr yn aml yn cystadlu â'i gilydd i brofi pwy oedd â'r dawnsio, y stamina a'r athletiaeth fwyaf trawiadol. Mae clocsio Cymreig hefyd yn cynnwys "triciau" sy'n ei wneud yn unigryw o'i gymharu â mathau eraill o ddawnsio stepio fel dawnsio Gwyddelig, dawnsio Albanaidd a chlocsio Seisnig. Gall y triciau hyn gynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i; snwffian cannwyll fflam gan ddefnyddio gwadnau pren yr esgidiau, stepio tobi (cicio coesau allan mewn safiad sgwat tebyg i ddawnsio Cosac) a llamu uchel i'r awyr fel neidio dros dro.[3]

Mae'r ffilmig ramantus Clog Dance o 1959 yn adrodd yr arferai llongwyr Porthmadog glocsio rhwng gwaith ar harbwr cei'r dref. Mae'r ffilm yn sôn am adfywiad clocsio gan ddangos y grefft o ddawnsio a'r grefft o greu'r esgidiau trwy lygaid 'Gwyneth Thomas', dynes mewn oed sy'n cofio clocsio yn ei hieuenctid. Mae'n nodi fel mai fel unigolion yr arferid clocsio ond i Gwyneth Thomas

feithrin dawnsio fel grŵp er mwyn gweld pwy oedd y dawnswyr gorau. Yn y ffilm mae'r parti dawns clocsio yn mynd i gystadlu yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen. Er mai ffuantus yw'r ffilm, mae'n rhoi peth syniad o ddawnsio'r cyfnod.[4]

Techneg

golygu

Nid yw clocsio yn golygu dawnsio tra'n gwisgo clocsiau. Mae clocsio yn golygu cynhyrchu amrywiaeth o synau cryfach neu ysgafnach a chymysgedd o rythmau gan ddefnyddio'r ddwy droed, sy'n dangos deheurwydd y camu. Mae clocsiwr dawnus yn gallu gwneud amrywiaeth o synau trwy ddefnyddio gwahanol rannau o'r glocsen sy'n cynnwys bysedd traed, sawdl ac ochrau'r glocsen yn erbyn ei gilydd neu wrthrychau eraill. Gellir gwneud clocsio ar bren a llechi gyda neu heb gyfeiliant.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Clocsio". www.welshfolkdance.org.uk. Cyrchwyd 2022-02-06.
  2. "Gwerin, Arferion Dawnsio".
  3. "BBC Wales - Music - Folk and traditional - Clog dancing in Wales". www.bbc.co.uk. Cyrchwyd 2022-02-06.
  4. "Clog Dance (1959)". BFI. 1959.