Eisteddfod Ryngwladol Llangollen

gwyl ryngwladol a leolir yn Llangollen

Cynhelir Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn Llangollen yn yr haf am wythnos bob blwyddyn, gan ddechrau fel rheol ar ddydd Mawrth a gorffen ar y Sul.

Eisteddfod Ryngwladol Llangollen
Enghraifft o'r canlynoldigwyddiad blynyddol, gŵyl gerddoriaeth, eisteddfod Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1947 Edit this on Wikidata
LleoliadLlangollen Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthSir Ddinbych Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://international-eisteddfod.co.uk/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn ystod yr wythnos mae pobl o bob cwrdd o'r byd yn mynd yno i gystadlu yn y cystadleuthau cerddoriaeth a dawns. Ceir cystadleuwyr o tua hanner cant o wledydd yn cymryd rhan. Cynhelir gorymdaith liwgar ar ddechrau'r wythnos, gyda cystadleuwyr yn eu gwisg genedlaethol neu draddodiadol, a cheir dawnsio a chanu a chwarae cerddoriaeth gwerin o bob math tra'n cerdded trwy strydoedd Llangollen.

Mae yr eisteddfod wedi rhoi cychwyn i yrfaoedd nifer o berfformwyr a ddaeth yn enwog yn ddiweddarach; er enghraifft dywedodd Luciano Pavarotti mai perfformio yma gyda chôr o Modena a roddodd ysgogiad iddo i ddod yn ganwr proffesiynol. Un arall a enillodd yma ar gychwyn ei yrfa oedd y tenor Rhys Meirion.

Rhan o orymdaith yr eisteddfod, 2006

Ffrae arwyddair yr Eisteddfod

golygu

Arwyddair Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yw:

Byd gwyn fydd byd a gano,
Gwaraidd fydd ei gerddi fo.

arwyddair a sgwennwyd gan y bardd T. Gwynn Jones yn 1946, ychydig fisoedd wedi sefydlu'r eisteddfod yn 1945. Mae i'r gair 'gwyn' nifer o ystyron, wrth gwrs, ee pur ac fe'i defnyddir yn aml yn y Beibl ee y Gwynfydau, lle gellir ei gyfieithu i blessed. Gwelir yr arwyddair ar dlysau, gwaith celf ac arteffactau amryiol yr Eisteddfod ers 75 mlynedd.[1] Prif sylfaenydd yr Eisteddfod oedd y cerddor W. S. Gwynn Williams, a chyfeiria'r arwyddair, ar lefel ysgafn ond clyfar, at y ffaith honno.

Fodd bynnag, ar 17 Mawrth 2023, cyhoeddodd Cynhyrchydd Arbennig yr Eisteddfod, sef y Saesnes Camilla King, i un o'u partneriaid gwyno gan y gellir, yn eu barn nhw, gamddehongli'r ystyr - yn llythrennol - i olygu'r lliw gwyn, yn hytrach na dymuniad o sancteiddrwydd. Dywedodd y bydd yr Eistedfod yn newid yr arwyddair. Cafwyd ton o wrthwynebiad i benderfyniad yr Eisteddfod.

Ar 11 Ebrill 2023 gwnaeth Bwrdd yr Esiteddfod dro pedol, a phenderfynwyd cadw'r arwyddair.[2]

Dolen allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan yr Eisteddfod Ryngwladol; adalwyd 2 Ebrill 2023.
  2. Gwefan BBC Cymru; adalwyd 13 Ebrill 2023.