De Winton
Cwmni o beirianwyr yng Nghaernarfon, Gwynedd, oedd De Winton & Co (1854-1901). Roedd y cwmni yn arbenigo mewn cynhyrchu trenau ager ac offer peiriannol arall ar gyfer diwydiant llechi Cymru.
Math | busnes |
---|---|
Sefydlwyd | 1854 |
Daeth i ben | 1901 |
Pencadlys | Caernarfon |
Sefydlwyd y cwmni ger y cei llechi yng Nghaernarfon gan Owen Thomas yn y 1840au. Yn ddiweddarach aeth i bartneriaeth a Jeffreys Parry de Winton, a datblygodd y cwmni fel yr Union Foundry. Yn 1870 adeiladodd De Winton beiriannau newydd i Chwarel Dinorwig, yn cynnwys yr olwyn ddŵr fwyaf yn y Deyrnas Unedig, dros 50 troedfedd ar ei thraws. Gellir gweld y peiriannau i gyd a'r olwyn ddŵr yn Amgueddfa Lechi Cymru ger Llanberis.
Heblaw offer ar gyfer y chwareli llechi, roeddynt yn cynhyrchu offer i adeiladwyr llongau, yn cynnwys peiriannau ar gyfer llongau. Roeddynt hefyd yn cynhyrchu peiriannau ager sefydlog.