De facto
- Mae de jure yn ailgyfeirio yma. Gweler hefyd De Facto (band).
Term Lladin sy'n golygu "mewn arfer"[1] (yn llythrennol, "o'r ffaith") ond heb gael ei gydnabod felly yn ôl y gyfraith yw de facto. Mae'n ymadrodd a ddefnyddir yn aml mewn cyferbyniaeth â therm Ladin arall, de jure (sy'n golygu "yn ôl y gyfraith") wrth gyfeirio at faterion sy'n ymwneud â'r gyfraith, llywodraeth neu statws cyfreithiol, sy'n bod oherwydd eu bod wedi eu creu neu ddatblygu felly heb ddeddfwriaeth i'w cyfreithlonni neu hyd yn oed yn erbyn y gyfraith fel y cyfryw. Mewn cyd-destun cyfreithiol pur, mae de jure yn golygu yr hyn y mae'r gyfraith yn ei ddweud, tra bod de facto yn golygu'r hyn sy'n digwydd yn ymarferol.
Gellir egluro hyn gydag enghreifftiau. Mewn gwleidyddiaeth ryngwladol, er enghraifft, gelwir llywodraeth tiriogaeth annibynnol sydd wedi torri'n rhydd o wladwriaeth arall ond heb gael ei chydnabod fel llywodraeth yn "llywodraeth de facto" y diriogaeth honno, sydd dal yn perthyn, "de jure", i'r llywodraeth gydnabyddedig (mae sefyllfa Transnistria mewn perthynas â Moldofa yn enghraifft gyfoes o hyn). Enghraifft arall yw statws Saesneg yn yr Unol Daleithiau. Er nad yw'n iaith swyddogol de jure — h.y. does 'na ddim byd yn y cyfansoddiad sy'n dweud hynny — yn ymarferol mae hi'n brif iaith neu iaith gyffredin de facto y wlad honno.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Morwood, James. A Dictionary of Latin Words and Phrases (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1998), t. 42.