Iaith swyddogol
Iaith swyddogol yw iaith sy'n cael ei defnyddio trwy ddeddf gwlad mewn dogfennau swyddogol.
Does gan y DU ddim iaith swyddogol fel y cyfryw. Yng Nghymru nid yw'r Gymraeg a'r Saesneg yn ieithoedd swyddogol de jure ond maent yn ieithoedd swyddogol de facto gyda Deddf Iaith sy'n cyhoeddi eu bod i'w trin yn gyfartal.