Deadhorse
Cymuned ar Lethr y Gogledd yn Alaska, yr Unol Daleithiau (UDA), ger arfordir y Cefnfor Arctig, yw Deadhorse. Mae'r dref fechan yn cynnwys yn bennaf gyfleusterau ar gyfer gweithwyr y cwmnïau sy'n gweithio meysydd olew Bae Prudhoe gerllaw. Gellir cyrraedd Deadhorse ar hyd Traffordd Dalton o Fairbanks, neu drwy faes awyr Deadhorse ei hun.
Math | cymuned heb ei hymgorffori |
---|---|
Poblogaeth | 25 |
Daearyddiaeth | |
Sir | North Slope Borough |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Uwch y môr | 49 troedfedd |
Cyfesurynnau | 70.2206°N 148.4567°W |
Mae'r cwmnïau sy'n defnyddio Deadhorse yn gwasanaethu Bae Prudhoe a meysydd olew eraill, ynghyd â'r System Pibell Olew Traws-Alaska (TAPS) sy'n cludo olew o Fae Prudhoe i Valdez yn ne canolbarth Alaska. Mae pob adeilad yn Deadhorse wedi ei adeiladu ar welïau gro artiffisial ac yn cael eu cludo yno fel unedau parod mewn awyrennau neu ar hyd y Draffordd.
Ceir rhywfaint o le i dwristiaid aros yn y dref. Fel rheol maent yn cyrraedd Deadhorse a Bae Prudhoe ar fysiau twristaidd o Fairbanks ar hyd Traffordd Dalton, taith ddau ddiwrnod gydag arosfa dros nos yn Coldfoot. Yn yr haf caiff ymwelwyr fynd i weld y Cefnfor Arctig pan fo'r ia sy'n ei orchuddio fel arall wedi toddi, a hefyd caent brofi'r haul canol nos diolch i leoliad Deadhorse uwchlaw Cylch yr Arctig. Mae'r diwrnod haf yn parhau am 63 diwrnod yn Deadhorse (h.y. heb i'r haul fachlud).