Agor y brif ddewislen

Alaska

talaith yn Unol Daleithiau America

49fed talaith yr Unol Daleithiau (UDA) yw Alaska neu yn Gymraeg Alasga.[1] Fe'i derbyniwyd i'r undeb ar 3 Ionawr 1959. Yn 2000 roedd poblogaeth y dalaith yn 626,932.

Alaska
Anchorage from Earthquake Park.jpg
State Seal of Alaska.svg
Arwyddair North to the Future Edit this on Wikidata
Math Taleithiau'r Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
En-us-Alaska.ogg Edit this on Wikidata
Prifddinas Juneau Edit this on Wikidata
Poblogaeth 738,432 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 3 Ionawr 1959 (Alaska Statehood Act) Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraeth Mike J. Dunleavy Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC−09:00, UTC+14:00, Hawaii–Aleutian Time Zone, America/Anchorage Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg, Tlingit, Inupiat, Yupik languages, Alutiiq, Aleut, Dena'ina, Deg Xinag, Holikachuk, Koyukon, Upper Kuskokwim, Gwich’in, Tanana languages, Tanacross, Hän, Ahtna, Eyak, Haideg, Tsimshian Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Arwynebedd 1,717,856 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr 580 metr Edit this on Wikidata
Gerllaw Y Cefnfor Tawel Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Yukon, British Columbia, Ocrwg Ymreolaethol Chukotka Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 64°N 150°W Edit this on Wikidata
US-AK Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredol Government of Alaska Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaethol Alaska Legislature Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Governor of Alaska Edit this on Wikidata
Pennaeth y Llywodraeth Mike J. Dunleavy Edit this on Wikidata

Daeth pobl i Alaska gyntaf dros Pont Tir Bering. Yn raddol cyfaneddwyd hi gan lwythau Esgimo fel yr Inupiaq, yr Inuit a'r Yupik, a brodorion Americanaidd fel yr Aleut. Mae'r cofnod ysgrifenedig cyntaf yn awgrymu i'r Ewropeaid cyntaf gyrraedd Alaska trwy Rwsia.

DaearegGolygu

Mae toreth o ynysoedd a 54,720 km (34,000 milltir) o draethau yn Alaska, gan gynnwys Ynysoedd Aleutia. Ceir ar yr ynysoedd hyn lawer o losgfynyddoedd megis Mount Shishaldin ar Ynys Unimak, sy'n codi 3,048 o fetrau (10,000 o droedfeddi) uwchlaw'r môr ac a welir yn mygu'n achlysurol. Credir mai dyma'r côn mwyaf perffaith yn y byd o ran siap, hyd yn oed yn berffeithiach na Mount Fuji yn Japan. Mae'r mwclis o losgfynyddoedd yn llifo i'r tir mawr lle gwelir Mount Spurr i'r gorllewin o Anchorage. Cred y daearegwyr fod rhanbarth eitha eang o dir sy'n cynyddu'n ddyddiol o ran maint, gelwir yr ardal yma'n Wrangellia ac mae'n cwmpasu sawl talaith arall a rhan o Ganada.

Ceir un o'r llanw mwya'n y byd ym Mraich Turnagain i'r de o Anchorage - gall y gwahaniaeth uchder rhwng y llanw a'r trai yn y rhan hon o'r byd fod cymaint â 10.7 m (35 troedfedd).

Mae gan y wlad dros dair miliwn o lynnoedd. Ceir rhew parhaol (neu permaffrost) yn gorchuddio 487,747 km2 (188,320 milltir) o dir yn y gogledd a'r de-orllewin. Mae rhewlifoedd yno hefyd: dros 41,440 km2 (16,000 milltir sgwâr) o'r tir. Un o'r rhewlifoedd mwyaf yw Rhewlif Bering ger Yukon, sydd ar ei ben ei hun yn gorchuddio dros 5,827 km2 (2,250 millt sg) o dir. Ceir tua 100,000 rhewlif i gyd: hanner cyfanswm y byd!

Dinasoedd AlaskaGolygu

1 Anchorage 291,826
2 Juneau 31,275
3 Fairbanks 31,535
4 Sitka 8,986
5 Ketchikan 8,050
6 Nome 3,598
7 Ruby 169
8 Wales 145

CyfeiriadauGolygu

Dolen allanolGolygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Alaska. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.