Deborah Kay Davies
awdur Cymreig
Llenor a bardd o Gymru yw Deborah Kay Davies.
Deborah Kay Davies | |
---|---|
Ganwyd | 20 g Pont-y-pŵl |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, bardd, darlithydd |
Ganwyd Davies ym Mhont-y-pŵl, Torfaen, a graddiodd o Brifysgol Caerdydd gyda M.A. mewn Ymarfer Addysgu ac Ysgrifennu Creadigol. Mae wedi dysgu Ysgrifennu Creadigol ym mhrifysgolion Caerdydd a Morgannwg.[1]
Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth Things You Think I Don't Know, gan Parthian Books yn 2006. Mae ei straeon byrion wedi cael eu cyhoeddi yng nghylchgronnau MsLexia, Planet a'r New Welsh Review ac wedi cael eu darlledu ar BBC Radio 4. Mae Davies wedi ennill cystadleuaeth Rhys Davies dair gwaith.[2]
Enillodd ei llyfr ffuglen gyntaf, sef casgliad o straeon byrion, Grace, Tamar and Laszlo the Beautiful, wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2009, a oedd yn werth £10,000.[3]
Gweithiau
golygu- Things You Think I Don't Know (Aberteifi: Parthian, 2005)
- Grace, Tamar and Laszlo the Beautiful (Aberteifi: Parthian, 2008)
- True Things About Me (Caeredin: Canongate, 2011)
- Reasons She Goes to the Woods (Llundain: Oneworld, 2014)
- Tirzah and the Prince of Crows (Llundain: Oneworld, 2018)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Authors: Deborah Kay Davies. Wales Online (22 Ebrill 2009). Adalwyd ar 21 Chwefror 2010.
- ↑ Deborah Kay Davies. Inpress. Adalwyd ar 21 Chwefror 2010.
- ↑ Alison Flood (16 Mehefin 2009). Debut author stunned by Wales book of the year award. The Guardian. Adalwyd ar 21 Chwefror 2010.