New Welsh Review
Cylchgrawn llenyddol Cymreig, yn yr iaith Saesneg, yw'r New Welsh Review.
Enghraifft o'r canlynol | cyfnodolyn |
---|---|
Iaith | Saesneg |
Dechrau/Sefydlu | 1988 |
Rhagflaenwyd gan | The Anglo-Welsh Review |
Gwefan | http://www.exacteditions.com/read/newwelshreader |
Sefydlwyd ym 1988, gan olynu The Welsh Review (1939–1948), Dock Leaves, a The Anglo-Welsh Review (1949–1987). Hwn yw cylchgrawn llenyddol Saesneg mwyaf blaengar Cymru. Cyhoeddir erthyglau ar lenyddiaeth, y celfyddydau, cyfweliadau, adolygiadau, yn ogystal â straeon byrion a barddoniaeth.
Mae'r cyfranwyr wedi cynnwys Dannie Abse, Paul Muldoon, P. D. James, Emyr Humphreys, Leslie Norris, Gwyneth Lewis, Les Murray, Rachel Trezise, Niall Griffiths, Owen Sheers, Terry Eagleton, Edna Longley, Byron Rogers, Gillian Clarke a Paul Groves.[1]
Cyhoeddir y cylchgrawn yn Aberystwyth bob chwarter, gyda chymorth ariannol gan Gyngor Llyfrau Cymru. Caiff ei noddi hefyd gan Brifysgolion Aberystwyth, Morgannwg a Chaerdydd.
Golygyddion
golygu- 1988–1991 Belinda Humfrey
- 1991 Michael Parnell (bu farw)
- 1991–2001 Robin Reeves
- 2001–2002 Victor Golightly
- 2002–2008 Francesca Rhydderch[2]
- 2008–2011 Kathryn Gray
- 2011– Gwen Davies
Dolenni allanol
golygu- New Welsh Review Archifwyd 2021-11-13 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyhoeddwyr > New Welsh Review Ltd. Llenyddiaeth Cymru.
- ↑ Llyfrgell Genedlaethol Cymru > New Welsh Review Archive. Archifau Cymru. Adalwyd ar 17 Mehefin 2011.