Deddf Goruchafiaeth 1559
Deddf yn trosglwyddo awdurdod dros yr Eglwys a materion crefyddol oddi wrth y Pab i ddwylo Brenin neu Frenhines Lloegr oedd Deddf Goruchafiaeth 1559. Yn ôl ei thelerau, daeth y frenhines Elisabeth yn Llywodraethwr Goruchaf ar Eglwys Loegr, a bu raid i bawb a gymerai swydd cyhoeddus neu grefyddol gymryd Llw Goruchafiaeth yn tyngu teyrngarwch iddi. Cymerodd le Deddf Goruchafiaeth 1534 oedd wedi cael ei diddymu ym 1554 gan Mari Tudur. Diffiniodd yn fwy benodol ystyr gyfreithiol heresi.
Enghraifft o'r canlynol | deddf Llywodraeth Lloegr |
---|---|
Dyddiad cyhoeddi | 1558 |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |