Deddf Hawliau Dynol 1998
Crëwyd y Ddeddf Hawliau Dynol 1998 gan Senedd Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, er mwyn i'r gyfraith gydymffurfio â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (CEHD). Rhoddwyd iddi gydsyniad brenhinol ar y 9fed o Dachwedd, 1998, ac roedd yn llwyr weithredol erbyn 2ail Hydref, 2000. Ymhlith effeithiau'r ddeddf y mae rhoi dyletswydd ar lysoedd i ddehongli deddfau eraill os yw'n bosib er mwyn cydymffurfio â'r CEHD. Os nad ydyw hynny'n bosib, nid oes gan farnwyr mo'r dewis i wrthod y ddeddf wreiddiol. Yn yr achos hwn, mae'n rhaid i farnwyr ddatgan nad ydynt yn cydymffurfio â'r CEHD, sydd yn galluogi'r gweinidog perthnasol i'w newid.
Enghraifft o'r canlynol | Deddf Gyhoeddus Gyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig |
---|---|
Iaith | Saesneg |
Dyddiad cyhoeddi | 1998 |
Prif bwnc | human rights in the United Kingdom |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Strwythur y Ddeddf
golyguAdrannau 2 a 3
golyguGorfodir llysoedd gan adran 3 i ystyried penderfyniadau blaenorol gan lys Ewropeaidd Hawliau Dynol yn achosion Prydeinig. Effaith adran 3 ydyw mynnu y dehongla llysoedd ddeddfau seneddol, os ydyw'n bosib, er mwyn cydymffurfio â'r hawliau a roddir gan y CEHD. Er na ddyweda'r adrannau hyn y dylai llysoedd drin penderfyniadau blaenorol Ewropeaidd fel cynseiliau, awgrymir y syniad hwn gan gyfuno gofyniadau'r ddeddf.
Adrannau 4 a 10
golyguOs nad ydyw'n bosib dehongli deddf i gydymffurfio â'r CEHD mewn achos, gorfodir i lysoedd yn lle ddatgan nad ydynt yn cydymffurfio yn ôl adran 4. Wedyn hynny, y mae adran 10 yn galluogi i'r gweinidog perthnasol ddiwygio'r ddeddf er mwyn cydymffurfio. Serch hynny, ni fyddai'r datganiad yn effeithio ar ganlyniad yr achos hwnnw.