Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020

Deddf gan Senedd Cymru

Mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 yn Ddeddf Senedd Cymru a gafodd gydsyniad brenhinol ar 1 Mehefin 2020 ac a ddaeth yn gyfraith ar 1 Mehefin 2020.[1] Manylwyd arni gyntaf ym Mehefin 2019 trwy gyfrwng Memorandwm Esboniadol.[2] Cafodd Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 ei basio gan y Senedd – a arferai gael ei galw yn Gynulliad Cenedlaethol Cymru – ar 17 Mawrth 2020 a bwriedir iddi gael ei rhoi ar waith yn 2022. Caiff hyn ei wneud cyn gynted ag y bydd yn bosibl yng ngoleuni’r pandemig Covid-19.

Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020
Enghraifft o'r canlynolDeddf Senedd Cymru Edit this on Wikidata
IaithSaesneg, Cymraeg Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Mae’r Bil yn cynnig cyflwyno newidiadau sy’n:

  • Gosod ystyriaethau ansawdd wrth galon pob rhan o’r GIG yng Nghymru,
  • Cryfhau llais dinasyddion ar draws gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, gyda Chorff Llais Dinasyddion newydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol (yn lle Cynghorau Iechyd Cymunedol);
  • Gosod dyletswydd gonestrwydd ar sefydliadau’r GIG, gan ei gwneud yn ofynnol iddynt fod yn agored ac yn onest pan fydd pethau’n mynd o’u lle; a
  • Chryfhau’r trefniadau llywodraethu ar gyfer Ymddiriedolaethau’r GIG, drwy gyflwyno rôl Is-gadeirydd ar gyfer pob Ymddiriedolaeth.

Yn 2018, nododd yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru nifer o argymhellion gan gynnwys rhai’n ymwneud â gwella ansawdd gwasanaethau ac integreiddio agosach rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r rhain yn elfennau allweddol yn ymateb Llywodraeth Cymru: Cymru Iachach: ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac yn cael eu hategu gan ddarpariaethau yn y Ddeddf.

Bydd gwelliannau parhaus i'r ansawdd yn allweddol i sicrhau bod system iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn barod ar gyfer y dyfodol, a'i bod yn rhoi gwerth am arian. Ac fe fydd sefydlu Corff Llais y Dinesydd, ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, yn sicrhau bod lleisiau dinasyddion yn cael eu clywed yn glir ac y gwrandewir arnynt. Bydd hyn yn helpu i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi’u llunio yn unol ag anghenion a dewisiadau unigolion.

Cyfeiriadau golygu

  1. llyw.cymru; Gwefan Senedd Cymru; adalwyd 4 Rhagfyr 2020.
  2. senedd.wales; Memorandwm Esboniadol; adalwyd 4 Rhagfyr 2020.

Dolenni allanol golygu