Deddfau Falk
Cyfres o fesurau deddfwriaethol a ddaeth i rym yn Nheyrnas Prwsia rhwng 1872 a 1879 oedd Deddfau Falk a gyflwynwyd gan y gweinidog Adalbert Falk yn ystod y Kulturkampf, cyfnod o wrthdaro rhwng llywodraeth Prwsia a'r Eglwys Gatholig. Pasiwyd y prif ddeddfau, a elwir Deddfau Mai (Almaeneg: Maigesetze), ym Mai 1873.[1]
Enghraifft o'r canlynol | deddfwriaeth |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1872 |
Gwladwriaeth | Teyrnas Prwsia, Ymerodraeth yr Almaen |
Penodwyd Falk yn Weinidog dros Faterion Crefyddol, Addysgol a Meddygol yn Ionawr 1872, a fe'i cyfarwyddwyd gan Otto von Bismarck, Prif Weinidog Prwsia a Changhellor yr Almaen, i oruchwylio'r Kulturkampf ("brwydr ddiwylliannol") ac i "ailsefydlu hawliau'r wladwriaeth mewn perthynas â'r eglwys". Aeth Falk ati i lunio rhaglen ddeddfwriaethol i wanychu awdurdod a dylanwad yr Eglwys Gatholig ac i atgyfnerthu grym y wladwriaeth, gan gynnwys cyflwyno priodas wladol orfodol, tanseilio dylanwad y glerigiaeth ym myd addysg, a chwtogi ar hawliau Catholigion.
Ym 1878, cafwyd rhwyg rhwng Bismarck a'r Blaid Ryddfrydol Genedlaethol—y brif garfan a oedd yn gefnogol o'r Kulturkampf—a doedd Falk ddim yn gallu cynnal ei safle am amser hir. Gwellodd cysylltiadau rhwng yr Almaen a'r Babaeth, ac ym Medi 1879 ymddiswyddodd Falk.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Alison Kitson (2001). Germany, 1858-1990: Hope, Terror, and Revival (yn Saesneg). Gwasg Prifysgol Rhydychen. t. 34. ISBN 9780199134175.