Ymerodraeth yr Almaen

1871–1918

Gwladwriaeth yng Nghanolbarth Ewrop oedd Ymerodraeth yr Almaen, Caiseriaeth yr Almaen neu yr Almaen Imperialaidd (Almaeneg: Deutsches Kaiserreich), a elwir hefyd yr Ail Reich, a fodolai o uno'r Almaen yn Ionawr 1871 hyd at gwymp y frenhiniaeth yn Nhachwedd 1918. Yn ystod y cyfnod hwn, datblygodd yr Almaen yn un o bwerau mawrion Ewrop, a chanddi lywodraeth ganolog gref a nerth economaidd a milwrol sylweddol.

Ymerodraeth yr Almaen
Delwedd:Wappen Deutsches Reich - Reichsadler 1889.svg, Wappen Deutsches Reich - Reichswappen (Grosses).svg
ArwyddairGott mit uns Edit this on Wikidata
Mathgwlad ar un adeg Edit this on Wikidata
PrifddinasBerlin Edit this on Wikidata
Poblogaeth41,058,792, 49,428,470, 64,925,993, 67,790,000 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ionawr 1871 Edit this on Wikidata
AnthemHeil dir im Siegerkranz Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Almaeneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Pwerau Canolog Edit this on Wikidata
Arwynebedd540,858 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaYmerodraeth Rwsia, Awstria-Hwngari, Ffrainc, Y Swistir, Denmarc, Yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, Lwcsembwrg Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52°N 13°E Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholReichstag Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
Ymerodwr Almaenaidd Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethWilhelm I o'r Almaen, Friedrich III, ymerawdwr yr Almaen, Wilhelm II Edit this on Wikidata
Map
Crefydd/EnwadProtestaniaeth Edit this on Wikidata
Arianmarc yr Almaen, Papiermark Edit this on Wikidata

Wedi buddugoliaeth Teyrnas Prwsia yn Rhyfel Ffrainc a Phrwsia (1870–71), unwyd yr amryw diriogaethau Almaenig dan arweiniad Otto von Bismarck, Gweinidog Llywydd Prwsia a Changhellor Cydffederasiwn Gogledd yr Almaen. O ganlyniad i Gytundebau Tachwedd 1870, ymunodd uchel ddugiaethau Baden ac Hessen-Darmstadt a theyrnasoedd Württemberg a Bafaria â Chydffederasiwn y Gogledd ar 1 Ionawr 1871. Bellach, yr oedd holl wladwriaethau Almaeneg Ewrop—ac eithrio Awstria, y Swistir, a Liechtenstein—wedi eu huno. Cyhoeddwyd proclamasiwn i gydnabod Wilhelm I, Brenin Prwsia, yn Ymerawdwr yr Almaen ar 18 Ionawr 1871. Daeth y cyfansoddiad newydd i rym ar 16 Ebrill 1871, gan newid enw'r cydffederasiwn i Ymerodraeth yr Almaen.

Gwladwriaeth ffederal dan frenhiniaeth gyfansoddiadol oedd yr ymerodraeth, gyda grym wedi ei rannu rhwng yr ymerawdwr (neu'r caiser), y cyngor ffederal (y Bundesrat), a'r senedd (y Reichstag). O dan arweinyddiaeth y Canghellor Bismarck (1871–90), canolbwyntiodd y llywodraeth ar integreiddio'r tiriogaethau Almaenig a datblygu economi'r holl ymerodraeth i greu gwlad unedig, gryf. Cyflwynwyd nifer o ddiwygiadau, gan gynnwys sefydlu cyfundrefn fancio genedlaethol a mabwysiadu arian cyfred cyffredin, y Reichsmark.

Tyfodd economi'r ymerodraeth yn gyflym, ac erbyn diwedd y 19g yr Almaen oedd un o brif bwerau economaidd Ewrop. Yr oedd diwydiant a thechnoleg yn enwedig o gryf, gyda chanolbwynt ar weithgynhyrchu trwm gan gynnwys dur, cemegion, a pheiriannau. Datblygodd yr Almaen hefyd sector amaethyddol bwysig, yn enwedig yn y dwyrain. Er gwaethaf y ffyniant economaidd, wynebodd yr Almaen heriau cymdeithasol a gwleidyddol, yn enwedig y rhaniadau rhwng rhanbarthau'r wlad a gwrthdaro'r dosbarthau. Rheolwyd y llywodraeth gan yr uchelwyr a'r ceidwadwyr, a oedd yn gwrthwynebu diwygiadau democrataidd.

O ran cysylltiadau rhyngwladol, wynebodd Ymerodraeth yr Almaen densiynau gyda'i chymdogion, yn enwedig Ffrainc a Rwsia. Gwaethygwyd y sefyllfa gan bolisi tramor ymosodol yr Almaen, gan gynnwys ei hymdrechion i ennill trefedigaethau tramor i gystadlu ag ymerodraethau eraill Ewrop a chynyddu ei llynges i herio'r Llynges Frenhinol. Yr Almaen oedd un o'r Pwerau Canolog yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914–18). Ysgogwyd miwtinïau yn y lluoedd arfog pan oedd yr Almaen ar fin golli'r rhyfel, a lledaenodd y terfysgoedd ar draws y wlad, gan achosi cwymp y frenhiniaeth a datganiad Gweriniaeth yr Almaen yn Nhachwedd 1918.

Gwladfeydd golygu

Darllen pellach golygu

  • Katja Hoyer, Blood and Iron: The Rise and Fall of the German Empire 1871–1918 (Cheltenham: The History Press, 2021).