Deddfau Nuremberg

Cyfreithiau gwrth-Semitaidd yn yr Almaen Natsiaidd oedd Deddfau Nuremberg (Almaeneg: Nürnberger Gesetze). Fe'u cyflwynwyd ym 1935 yn rali flynyddol y Blaid Natsïaidd yn Nuremberg. Nodai'r deddfau mai Almaenwyr oedd pobl a oedd a phedwar mamgu neu dadcu "Almaenig neu o waed cyffelyb", tra bod Iddewon yn bobl a oedd a thri neu bedwar mamgu neu dadcu Iddewig. Galwyd person ag un neu ddau mamgu neu dadcu yn Mischling, o dras cymysg, neu "o waed cymysg". Rhwystrai Deddfau Nuremberg Iddewon rhag bod yn ddinasyddion a gwaharddasant briodas rhwng Iddewon ac Almaenwyr.

Dolenni allanol

golygu