Deddie Davies

actores a aned yn 1938

Actores o Gymraes oedd Deddie Davies (ganwyd Gillian Davies, 2 Mawrth 193821 Rhagfyr 2016).

Deddie Davies
Ganwyd2 Mawrth 1938 Edit this on Wikidata
Pen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
Bu farw21 Rhagfyr 2016 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, canwr Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Davies ym Mhen-y-Bont ar Ogwr,. Fe'i hyfforddwyd yn RADA a roedd fwyaf cyfarwydd i wylwyr teledu am amryw o rannau comedi mewn llu o gyfresi, gan gynnwys The Rag Trade, That's My Boy a Chance in a Million.[1] Roedd hi fel arfer yn ymddangos mewn rhannau diniwed, hen ferchetaidd. Ymddangosodd hefyd mewn rhaglenni drama, megis The Bill, Upstairs, Downstairs a Grange Hill. Mae ei rolau ffilm yn cynnwys Nell, gwraig brwdfrydig Perks yn The Railway Children (1970) a The Amazing Mr Blunden (1972).

Ym mis Mai 2007 cafodd lwyddiant cerddorol annisgwyl fel aelod o grŵp pop henoed Y Zimmers. Roedd eu fersiwn nhw o "My Generation" yn tynnu sylw at gyflwr yr henoed, a gyrhaeddodd rhif 26 yn Siart Senglau y DU. Ers 2012, bu'n ymddangos fel Marj Brennig yn y gyfres deledu Stella sydd wedi ei leoli yng nghymoedd de Cymru.[2]

Bu farw ar 21 Rhagfyr 2016, yn 78 oed.[3]

Ffilmyddiaeth golygu

Teledu golygu

Blwyddyn Teitl Cymeriad Cynhyrchiad Nodiadau
2007 Sensitive Skin
Deddie BBC2 Cyfres 2
2012, 2014 Stella Marj Sky 1 Cyfres 1 & 3

Ffilm golygu

Blwyddyn Teitl Cymeriad Nodiadau
1970 The Railway Children Nell Perks
1972 The Amazing Mr Blunden Miss Meakin
1988 Consuming Passions Mrs Coot
2010 Bad Night for the Blues Dorothy Ffilm fer
2011 Swinging with the Finkels Menyw hŷn
2014 Pride Hen Wraig

Cyfeiriadau golygu

  1. Eddie Pedder (1985). Who's Who on Television, 3rd Edition. Michael Joseph. ISBN 0-907965-31-8.
  2. "Rhestr cast Stella". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-12-21. Cyrchwyd 2016-12-22.
  3. Kathryn Williams. Stella and The Railway Children actress Deddie Davies dies at the age of 78 (en) , 21 Rhagfyr 2016.

Dolenni allanol golygu