Pride (ffilm 2014)

Ffim Brydeinig o 2014 a ysgrifennwyd gan Stephen Beresford ac a gyfarwyddwyd gan Matthew Warchus ydy Pride. Cafodd ei dangos am y tro cyntaf yn yr adran Pythefnos y Cyfarwyddwyr yng Ngŵyl Ffilm Cannes yn 2014,[1][2] lle enillodd y wobr Queer Palm.[3]

Pride
Cyfarwyddwr Matthew Warchus
Cynhyrchydd James Clayton
Christine Langan
Cameron McCracken
Ysgrifennwr Stephen Beresford
Serennu Bill Nighy
Imelda Staunton
Dominic West
Cerddoriaeth Christopher Nightingale
Sinematograffeg Tat Radcliffe
Golygydd Melanie Oliver
Castio Fiona Weir
Dylunio Simon Bowles
Cwmni cynhyrchu Calamity Films
Dosbarthydd CBS Films (2014) (UDA)
Pathé (2014) (DU)
Senator Film (2014) (Yr Almaen)
BBC Films (2014) (DU)
Dyddiad rhyddhau 12 Medi 2014
Amser rhedeg 120 munud
Gwlad Cymru, Lloegr
Gwobrau Queer Palm yng Ngŵyl Ffilmiau Cannes
Iaith Saesneg

Adrodda'r ffilm y digwyddiadau hanesyddol pan gododd criw o ymgyrchwyr LHDT arian ar gyfer y teuluoedd a effeithiwyd gan Streic y Glowyr yn 1984. Arweiniodd hyn at ddechreuadau'r ymgyrch Lesbiaid a Hoywon yn Cefnogi'r Glowyr.[4] Roedd Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn y Deyrnas Unedig yn amharod i dderbyn cefnogaeth yr ymgyrchwyr am eu bod yn poeni am effaith cael perthynas agored gyda grŵp hoyw, felly penderfynodd yr ymgyrchwyr roi'r arian a godwyd i bentref glofaol bychan yng Nghwm Dulais yng Nghymru - gan greu perthynas glos rhwng dwy gymuned tra gwahanol. Roedd y berthynas rhyngddynt yn wahanol i unrhyw beth a welwyd yn flaenorol ond bu'n llwyddiannus.[4]

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu