S'mae. Creoch chi'r dudalen Ym pa flwyddyn cafodd castell dolbadarn ei adeiladu? Os edrychwch ar yr erthygl Saesneg, mae'n dweud mai rhywbryd cyn 1230 cafodd ei adeiladu. Dwi'n gobiethio bod hynny o gymorth, ond yn anffodus, does mo ffynhonnell a roddir yno am y ffaith honno, a nid wn i am ffynhonnell addas fy hun. Ond peth arall, ga i ofyn i chi i beidio â chreu tudalennau i ofyn cwestiynau yn unig - dylai pob tudalen ar y wici fod yn erthygl go iawn (heblaw'r rheini â geiriau arbennig o flaen eu teitlau), a chafodd eich tudalen newydd ei dileu felly. Ymwelwch â Wicipedia:Y Ddesg Gyfeirio yn ei le. Diolch. Peredur ap Rhodri 20:28, 14 Ebrill 2011 (UTC)