Defnyddiwr:Rhyswynne/Amgueddfa Atgofion
Prosiect 'Amgueddfa Atgofion' - llythyr at Fenter Iaith Sir Ddinbych
golyguMae Menter Iaith Sir Ddinbych ar fîn penodi swyddog am 18 mis i redeg proseict treftadaeth o'r enw Amgueddfa Atgofion yn ymwneud âg amaethyddiaeth.
- Bydd pobl ifanc yn derbyn hyfforddiant ar sut i gasglu atgofion a chadw lluniau ar gyfrifiaduron, gan gydweithio â ffermwyr lleol - y rhai hŷn yn enwedig.
- Mae'r Gymraeg a thafodiaith yr ardaloedd yn rhan annatod o'r cynllun.
- Diben y cydweithio fydd cadw cofnod manwl o'r hen ffordd o fyw a defnyddio atgofion personol a hen luniau i greu archif o'r 1940au hyd at heddiw.
- Bydd lluniau ac atgofion yn cael eu casglu mewn cyfres o ddigwyddiadau fel yn ocsiwn Ffermwyr Rhuthun, Amgueddfa Llangollen, Oriel Corwen, stondin Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn Sioe Dinbych a Fflint ac yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn 2013.
Mae'n swnio fel rhywbeth gyda chyfle i gydweithio. Dw i wedi cysylltu gyda nhw yn awgrymu hyn.--Ben Bore (sgwrs) 12:50, 8 Hydref 2012 (UTC)
[Ewch i'r dudalen sgwrs i drafod ac i weld unrhyw ddatblygiadau pellach.]
Annwyl Gill Stephen a Gerallt Lyall Deallaf o erthygl ddiweddar ar wefan y BBC (ail o Hydref) eich bod ar fîn dechrau prosiect yn casglu lluniau ac atgofion gan ffermwyr yr ardal. Rwyf yn un o gyfranwyr gwirfoddol gwefan y Wicipedia Cymraeg, sef gwyddoniadur ar-lein ble y gall unrhyw un gyfrannu tuag ato. Mae'r Wicipedia Cymraeg ei hiaith yn cynnwys dros 37,000 o erthyglau hyd yn hyn ac mae Amgueddfa Atgofion yn swnio fel rhywbeth ble gallwn gydweithio er budd y ddau brosiect. Manteision i brosiect Amgueddfa Atgofion:
Manteision i'r Wicipedia:
Hyd yn oed os nad ydych o'r farn y bydd ychwnaegu cynnwys ar y Wicipedia neu'r Wikimedia Commons yn ddefnydd effeithiol o amser swyddog y prosiect a'i wirifoddolwyr, a fyddech chi'n ystyried rhyddhau unrhyw ddarn o waith/sganiadau delweddau/recordiadau a ffeiliau sain i'r parth cyhoeddus (hy Wikipedia Commons)? Byddai hyn yn golygu na fyddai unrhyw rwystrau hawlfraint wedyn a fyddai'n atal gwirfoddolwyr Wicipedia rhag uwchlwytho'r cynnwys eu hunain. Mae'r Cynulliad, bellach, yn rhyddhau pob un o'u ffotograffau ar drwydded Wikipedia Commons. Oes oes unrhyw gwestiynnau gyda chi ynglŷn â'r uchod, baswn i'n fwy na hapus i'w trafod. Yn gywir XXXXX (ar ran Y Wicipedia Cymraeg) a YYYYY |