'Sbo bod rhaid imi ddweud rhywbeth amdanaf i fy hun.

Rwy'n gweithio fel cyfieithydd proffesiynol. Gwnes i radd mewn Cymraeg a Gwyddeleg ym Mhrifysgol Cymru flynyddoedd maith yn ôl. Ers hynny rwyf wedi gweithio mewn sefydliad academaidd ac wedi bod yn athro hefyd. Mae gennyf i gasgliad eithaf mawr o gyfeirlyfrau ac rwy'n bwriadu defnyddio'r rhain, a'm gwybodaeth bersonol, i ychwanegu at nifer yr erthyglau sydd ar gael ar Wikipedia yn y Gymraeg. Byddaf i hefyd, os nad oes gwrthwynebiad, yn prawfddarllen gwaith pobl eraill er mwyn cywiro gwallau gramadegol a sillafu (nid wyf yn bwrw bai ar neb gan fod y fath wallau'n digwydd i bawb). Mae croeso i bobl eraill wneud yr un peth i'r erthyglau a ysgrifennaf innau.

Rwy'n byw yng Nghaerdydd, er nad wyf yn hannu o'r parthau hyn yn wreiddiol.