Defnyddiwr:Jason.nlw/Neges Heddwch

Pob flwyddyn ers 1922 mae plant Cymru wedi anfon Neges Heddwch ac Ewyllys da ar draws y byd. Datblygwyd y neges I ymateb I ddigwyddiadau cyfoes, ac yn aml yn derbyn ymatebion o gwledydd eraill. Mae'r broses o anfon neges ar ran bobl ifanc Cymru i bobl ifanc yng ngweddill y byd wedi bod yn ysgogi ac yn ysbrydoli gweithgarwch dyngarol a rhyngwladol. Ers 1955 mae Urdd Gobaith Cymru sydd wedi bod yn cyfrifol am darlledu'r neges.[1]

Mae'r neges wedi ei hysgrifennu gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc - Efa Gruffudd Jones[2]

Hanes golygu

Mae'r Neges Heddwch ac Ewyllys da yn cael ei rhannu ar y 18fed o Fai, dyddiad y gynhadledd heddwch gyntaf yn yr Hag yn 1899. Danfonwyd y Neges Heddwch ac Ewyllys da gyntaf ar ffurf cod Morse trwy'r Swyddfa Bost am y tro cyntaf ar Fehefin 28ain 1922, gan Y Parch Gwilym Davies o Gwm Rhymni.[1] Ac wedi eI gyhoeddi'n ddi-dor ers hynny. Yn 1922 ymatebodd cyfarwyddwr gorsaf radio Tŵr Eiffel ym Mharis y neges trwy ei ail ddanfon o'r twr Eiffel[3]. Yn 1924 derbynwyd ymateb gan Archesgob Uppsala ac un wrth gweinidog addysg gwlad Pwyl. Darlledwyd ar y BBC World Service am y tro Cyntaf ym 1924[4], mae erbyn hyn yn cael ei gyfieuthu i dros 30 o ieithoedd ac yn cael ei arddangos ar y we. Rhoddywd cyfrifoldeb o gyhoeddi'r neges yn flynyddol i Urdd Gobaith Cymru yn 1950au. Mae'n cael ei ysgrifennu'n flynyddol gan pobl ifanc ardal Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Cafwyd 736 o ymatebion i Neges Heddwch ac Ewyllys Da'r Urdd ym 1938. Daeth 124 o'r ymatebion yma o'r Unol Dalaethiau, a 304 o 'Roumania'.

Neges rhyngwladol golygu

Ni chafwyd ymateb i'r neges gyntaf yn 1922 er i gyfarwyddwr gorsaf y Twr Eiffel ddanfon y neges yn ei flaen. Fodd bynnag ymhen 10 mlynedd roedd 68 o wledydd wedi ymateb i neges bobl ifanc Cymru. Mae rhain yn gofnodion pwysig o farn bobl ifanc o'r gwledydd hyn ac mae casgliad cynhwysfawr o'r ymatebion ar gael yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru Dewis a chydwybod yw prif thema'r neges heddwch ac ewyllys da yn 2016, a buodd Ysgol Maes Garmon wrthi yn ei lunio a'i greu. Gellir lawrlwytho'r neges mewn amryw o ieithoedd ar draws y byd, a'r urdd sydd y tu ol i gynllunio'r neges

Dyma rai o ymatebion o dramor i'r negeseuon rannwyd yn ryngwladol -

  • 1946 - Yr Almaen: “It is years since we have heard from the Welsh Children. How it grew dark! We should like to hear from you again.”
  • 1958 - Yr Ariannin: “Mae’r gobeithion ar ieuenctid y byd, ac rydym ninnau ar y cyd gyda chi, am wireddu’r gobeithion hyn.”
  • 1972 - Gweriniaeth Siec: “Rhaid i ni uno yn gwrthwynebu grym y cenhedloedd mawr sy’n dymuno gwaredu’r byd o’r holl ieithoedd, diwylliannau a chenhedloedd ‘gwirion a disynnwyr o fach’.”[5]

Dolenu allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 The Story of the Urdd (1922-1972), tud 212-213
  2. Efa Gruffud Jones, Prif Weithredwr Urdd Gobaeth Cymru - Erthygl BBC Cymru
  3. The Story of the Urdd (1922-1972), tud 23
  4. Hanes y Neges - Gwefan yr Urdd
  5. http://www.cymrudrosheddwch.org/wfp/erthygl.html?id=59