Gwilym Davies
gweinidog (B), hyrwyddwr dealltwriaeth ryngwladol; sylfaenydd Neges Heddwch Plant Cymru
Gweinidog gyda'r Bedyddwyr o Gymru oedd Gwilym Davies CBE (24 Mawrth 1879 – 26 Ionawr 1955),[1] a dreuliodd lawer o'i oes yn ceisio gwella cysylltiadau rhyngwladol wrth gefnogi gwaith Cynghrair y Cenhedloedd a'i olynydd, y Cenhedloedd Unedig. Fo hefyd oedd y dyn cyntaf i ddarlledu yn Gymraeg, ar Ddydd Gŵyl Dewi 1923.[2]
Gwilym Davies | |
---|---|
Ganwyd | 24 Mawrth 1879 |
Bu farw | 26 Ionawr 1955 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gweinidog yr Efengyl |
Priod | Mary Elizabeth Ellis |
Gwobr/au | CBE |
Deallai Gwilym Davies grym y dechnoleg newydd a llwyddodd i ysgogi danfon Neges Heddwch ac Ewyllus Da (a ddaeth maes o law o dan adain Urdd Gobaith Cymru) ar y tonfenni radio ar 28 Mehefin 1923.[3][4]
Roedd yn enedigol o Fedlinog, Merthyr Tudful ble roedd ei dad, D. J. Davies, hefyd yn weinidog gyda'r Bedyddwyr.
Roedd yn briod â Mary Elizabeth Ellis a oedd yn un o arweinwydd Apêl Heddwch Menywod Cymru yn 1923 ac 1924.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "The Rev. G. Davies – A worker for world peace". The Times. 27 Ionawr 1955. t. 10.
- ↑ Davies, Gwilym (1879–1955). Y Bywgraffiadur Ar-lein. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 4 Gorffennaf 2013.
- ↑ bywgraffiadur.cymru; Y Bywgraffiadur Cymreig; Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- ↑ https://www.casgliadywerin.cymru/items/502465