Mae parallel.cymru yn wefan newydd am bobl i ddarllen erthyglau, straeon, barddoniaeth a chyfweliadau dwyieithog: Cymraeg a Saesneg ochr gan ochr.

Pam creu hi? Mae pobl yn profi’r Gymraeg ar gontinwwm o alluoedd gwahanol, ond y ffordd draddodiadol o gynhyrchu deunydd yw mewn dull deuol. Drwy gyflwyno deunyddiau darllen ochr wrth ochr, yn ‘parallel’, ac wedi’u graddoli yn ôl hyfedredd, gall siaradwyr a dysgwyr o bob gallu fwynhau darllen a chefnogi’u datblygiad i’r lefel nesaf.