Defnyddiwr:Rhyswynne/Amgueddfa Atgofion

Prosiect 'Amgueddfa Atgofion' - llythyr at Fenter Iaith Sir Ddinbych golygu

Mae Menter Iaith Sir Ddinbych ar fîn penodi swyddog am 18 mis i redeg proseict treftadaeth o'r enw Amgueddfa Atgofion yn ymwneud âg amaethyddiaeth.

  • Bydd pobl ifanc yn derbyn hyfforddiant ar sut i gasglu atgofion a chadw lluniau ar gyfrifiaduron, gan gydweithio â ffermwyr lleol - y rhai hŷn yn enwedig.
  • Mae'r Gymraeg a thafodiaith yr ardaloedd yn rhan annatod o'r cynllun.
  • Diben y cydweithio fydd cadw cofnod manwl o'r hen ffordd o fyw a defnyddio atgofion personol a hen luniau i greu archif o'r 1940au hyd at heddiw.
  • Bydd lluniau ac atgofion yn cael eu casglu mewn cyfres o ddigwyddiadau fel yn ocsiwn Ffermwyr Rhuthun, Amgueddfa Llangollen, Oriel Corwen, stondin Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol yn Sioe Dinbych a Fflint ac yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych yn 2013.

Mae'n swnio fel rhywbeth gyda chyfle i gydweithio. Dw i wedi cysylltu gyda nhw yn awgrymu hyn.--Ben Bore (sgwrs) 12:50, 8 Hydref 2012 (UTC)

[Ewch i'r dudalen sgwrs i drafod ac i weld unrhyw ddatblygiadau pellach.]

Annwyl Gill Stephen a Gerallt Lyall

Deallaf o erthygl ddiweddar ar wefan y BBC (ail o Hydref) eich bod ar fîn dechrau prosiect yn casglu lluniau ac atgofion gan ffermwyr yr ardal.

Rwyf yn un o gyfranwyr gwirfoddol gwefan y Wicipedia Cymraeg, sef gwyddoniadur ar-lein ble y gall unrhyw un gyfrannu tuag ato. Mae'r Wicipedia Cymraeg ei hiaith yn cynnwys dros 37,000 o erthyglau hyd yn hyn ac mae Amgueddfa Atgofion yn swnio fel rhywbeth ble gallwn gydweithio er budd y ddau brosiect.

Manteision i brosiect Amgueddfa Atgofion:

  1. Hyd yn oed os ydych yn bwriadu creu gwefan i gyd fynd a'r proseict, mae manteision hefyd o uwchlwytho unrhyw ddelweddau neu ffeiliau sain at y Wicipedia Cymraeg, neu'n well fyth at wefan o'r enw Wikimedia Commons, sef cronfa anferthol o ddelweddau, ffeiliau sain a fideos.

  2. Yn wahanol i wefan gyffredin, nid oes cyfyngder ar faint o gynnwys y gallwch ei uwchlwytho.

  3. Mae'n sicrhau bydd unrhyw waith rydych yn ei gasglu ar gael ar-lein am amser hir hyd yn oed ar ôl i'r prosiect ddod i ben. Hynny yw, os yw'r priosiect yn rhedeg am 18 mis, a bod ganddoch gyllid i gynnal y wefan am 2-3 blynedd arall, beth ddigwyddith i'r cynnwys wedyn?

  4. Er y byddai'r delwddau hyn yn rhan o archif anferthol wedyn, mae modd eu categareiddio fel bod popeth sy'n cael ei gyfrannu gan Amgueddfa Atgofion yn ymddangos mewn un man.

  5. Bydd darparu'r delweddau yn dod a chyheoddusrwydd i'ch prosiect. Gan fod cyfartaledd o 2.5 miliwn o dudalennau Wicipedia Cymraeg yn cael eu hagor pob mis, byddai'r niferoedd a fyddai'n gweld yr Amgueddfa Atgofion yn cynyddu'n aruthrol.

  6. Fel hyn, fe ddaw eraill i wybod am eich proseict ac fe allem ddod o hyd i luniau eraill o ddiddordeb (e.e. mae dros 300 delwedd yn barod yn y categori Agriculture in Denbighshire (http://commons.wikimedia.org/wiki/Category:Agriculture_in_Denbighshire).

  7. Cymorth gan fwy o wirfoddolwyr. Fel y nodwyd uchod, unwaith y daw cyfrannwyr Wicipedia i glywed am eich prosiect, mae'n ddigon posib y cynnigan nhw ddeunyddiau y gall fod o ddefnydd i'ch prosiect, unai drwy eich cyfeirio at gynnwys sy'n bodoli'n barod (e.e. categori Amaeth yng Nghymru: http://cy.wikipedia.org/wiki/Categori:Amaeth_yng_Nghymru) neu drwy ymchwilio a chreu cynnwys ar eich rhan.

  8. Cyhoeddusrwydd. Oherwydd dull Wicipedia o ddosbarthu erthyglau, mae modd byddai recordiad sain o hen ffermwyr yng Nghlawddnewydd yn trafod injan ddyrnu yn cael ei ddefnyddio wedyn mewn sawl erthygl wahanol (e.e. Cynaefu, Tafodiaith, Clawddnewydd ayyb).

  9. Hyfforddiant: Gallwn gynnig hyfforddiant i'r swyddog a fydd yn gweithredu'r proseict ac i unrhyw wirfoddolwyr eraill ar sut i lwytho cynnwys ar wefan Wicipedia.

Manteision i'r Wicipedia:

  1. Byddai'r gwahanol straeon yr ydych yn ei gasglu yn ychwanegu ar ddimensiwn Cymreig y gallwn ei roi i erthygal amaethyddol.

  2. Eto, byddai unrhyw ddelweddau yr ydych yn eu hychwnaegu yn golygu fod modd i ni arddangos esiamplau Cymreig o fewn erthyglau yn hytrach na dibynnu ar ddelweddau o weithgareddau amaethydiaeth o wledydd eraill.

Hyd yn oed os nad ydych o'r farn y bydd ychwnaegu cynnwys ar y Wicipedia neu'r Wikimedia Commons yn ddefnydd effeithiol o amser swyddog y prosiect a'i wirifoddolwyr, a fyddech chi'n ystyried rhyddhau unrhyw ddarn o waith/sganiadau delweddau/recordiadau a ffeiliau sain i'r parth cyhoeddus (hy Wikipedia Commons)? Byddai hyn yn golygu na fyddai unrhyw rwystrau hawlfraint wedyn a fyddai'n atal gwirfoddolwyr Wicipedia rhag uwchlwytho'r cynnwys eu hunain. Mae'r Cynulliad, bellach, yn rhyddhau pob un o'u ffotograffau ar drwydded Wikipedia Commons.

Oes oes unrhyw gwestiynnau gyda chi ynglŷn â'r uchod, baswn i'n fwy na hapus i'w trafod.

Yn gywir

XXXXX (ar ran Y Wicipedia Cymraeg) a YYYYY