Cau allan chwarel Dinorwig 1874
Roedd cau allan chwarel Dinorwig 1874 yn anghydfod llafur yn chwarel Dinorwig ym mis Mehefin 1874.[1]
Ar Ebrill 27 1874, cafodd cyfarfod ei gynnal yn nhafarn y Queen’s Head yng Nghaernarfon, mewn ymateb i anfodlonrwydd cynyddol ymysg y chwarelwyr, yn enwedig gweithwyr Chwarel y Penrhyn a Chwarel Dinorwig. O ganlyniad sefydlwyd Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru. Roedd nifer o berchnogion y chwareli yn amharod i dderbyn bodolaeth yr undeb
Pleidlais
golyguAr 18 Mehefin, 1874 roedd y ‘dydd Gosod’ pwysig, pan ofynwyd i chwarelwyr Dinorwig ddewis rhwng yr undeb a’u gwaith. Yn y dyddiau a ddilynodd, dewisodd 2,200 o chwarelwyr yr undeb, ac 11 i'r gwrthwyneb. Cafodd tua 2,200 o chwarelwyr eu cloi allan o chwarel Dinorwig ym mis Mehefin, ond ar ôl pum wythnos cytunodd y rheolwyr i dderbyn bodolaeth yr undeb.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Elin Wyn Owen (19 Mehefin 2024). Cau Allan Dinorwig yn 1874 yn “rhan bwysig o hanes Cymru sy’n cael ei esgeuluso”. Golwg360.