Defnyddiwr:Twm Elias/Chwanen

Llên Gwerin a Byd Natur

gan Twm Elias

Chwain   (7)

Natur grafogGolygu

Testyn go grafog y tro hwn, sef chwain neu ‘blacs’ fel y’u gelwid gan rai, oherwydd eu lliw tywyll mae’n rhaid.  Bu’r chwannen yn gydymaith i ddyn, a dynes, ers cannoedd o filoedd o flynyddoedd – ymhell cyn i’r ddynoliaeth ddatblygu yn y lle cyntaf. Mewn gwirionedd mae teulu’r chwannen wedi esblygu i fanteisio ar bron pob rhywogaeth o famal (heblaw morloi a morfilod) ac adar hefyd – ceir tua 60 o wahanol rywogaethau o chwain yn ynysoedd Prydain yn unig. Mae gan rai ohonynt fywydau digon difyr – wel, difyr i’r naturiaethwr neu chweinwr sy’n ymddiddori yn y math yna o beth, mae’n siwr.   Bydd chwain wenoliaid, er enghraifft, yn aros yn y nythod pan fydd yr adar yn ymfudo dros y gaeaf ac yn aros yn awchus am eu dychweliad yn y gwanwyn. Bydd chwain cwningod  yn amseru deoriad yr wyau i’r union adeg y bydd y cywion gwningod yn cael eu geni, rhag methu’r cyfle. Ac o son am amseru, mae wyau chwain cathod yn yn ymateb mor gyflym i sŵn traed cath yn cerdded nes y gallant ddeor, fel bo’r chwanen ifanc yn barod i neidio, cyn gynted a bo’r gath o fewn cyrraedd. Draenog ydi’r creadur mwya chweinllyd – ceir achosion o ddraenog yn cario hyd at 7,000 o chwain[1]. Y twrch daear sy’ â’r chwannen fwyaf: hyd at un wythfed o fodfedd. Ond yng ngogledd America y ceir y chwannen fwyaf o’r cyfan – yn chwarter modfedd!

Llên werinGolygu

Mae nhw’n dweud bod chwain yn greaduriaid mathemategol iawn: ‘…yn adio at eich annifyrwch, yn tynnu oddiar eich pleser, ’dach chi’n gorfod rhannu eich gwaed efo nhw ac mae’r diawliaid bach yn lluosogi fel y cythra’l!’[2]

Bu chwain pobl (Pulex iritans) yn gydymdeithwyr selog â ni ar hyd y canrifoedd ac er iddynt fynd yn bethau go brin erbyn hyn, diolch am hynny, maent yn sicr wedi gadael eu hargraff arnom.  Nid yn unig ar ffurf smotiau bach coch, coslyd, lle buon nhw’n gwledda ar ein gwaed ni, ond ar ein llên gwerin a’n llenyddiaeth yn ogystal. Dyma ychydig o enghreifftiau: Deialog rhwng dau was – yn y dyddiau pan fyddai gweision ffermydd yn aros yn y llofft stabl byddai rhai o wahanol ardaloedd yn cyd-letya. Mae’n debyg mai dyma ysgogodd y rhigwm gan un o Forfa Nefyn oedd wedi cael profiad go chweinllyd yn Aberdaron ryw dro, a’r ateb gafodd o gan was arall oedd yn digwydd dod o’r cyfryw le:

‘Aberdaron dirion, chwain a phigau hirion’ A’r ateb: ‘Aberdaron dirion deg; Morfa Nefyn – cau dy geg!’

Ceid rhai o chwain enwoca Cymru yn preswylio ym Marics Chwarel y Rhosydd sydd ar ben y bwlch uchel rhwng Cwm Croesor a Chwm Orthin yn yr hen Sir Feirionydd. Arferai dynion ifanc yn y 1930au aros yno yn ystod yr wythnos os oeddent yn dod o bell a mynd adre ddiwedd yr wythnos i fwrw’r Sul. A bwrw’r Sul fyddai hi hefyd – dim mynd adre am y ‘penwythnos’ rhwng nos Wenner a bore Llun, ond cychwyn adre bnawn Sadwrn i gael y Sul ar ei hyd a dychwelyn yn yr oriau mân fore Llun i gychwyn stem, neu ‘shift’, yn gnnar iawn.

Yn y gaeaf roedd yn arferiad i’r un oedd yn cyrraedd oddi ar ei stem i lithro i wely cynnes y sawl oedd  yn ymadael i’w waith. Golygai hynny bod y gwlau ar ddefnydd rownd y rïl – ac yn fagwrfa i chwain. Mae gan Ioan Brothen, fu’n preswylio yma am gyfnod, englyn enwog sy’n disgrifio’r profiad[3]

Hunnais a blin oedd hynny – yn fy oer
Annifyraf lety
A theimlo brath aml i bry
Ar waelod y budr wely.

Un arall fu’r preswylio yma ddechrau’r 1930au oedd Rol Williams, a dyma sut mae’n disgrifio’r croeso gawsai fore Llun pan gyrhaeddai’r Barrics i gadw’i ddillad a thipyn o fwyd at yr wythnos cyn mynd dan ddaear i’w waith: “…a fanno fyddan nhw, ar stepan drws yn aros amdanat ti, efo’u tafodau allan – ddim wedi cael diferyn o waed ers bora Sadwrn”[4]. Pan adroddais i’r uchod wrth griw Crwydriaid Crwbin ar ymweliad â’r safle beth amser yn ôl, sylw un ohonynt – Donald Williams Bancffosfelen, oedd: “Whain? Whain myn yffach i? Lligod mowr o’dd yn ein poeni ni yn y pylle glo! ”  


CyfeiriadauGolygu

  1. Bugs Britannica, Peter Marren a Richard Mabey (2010), tud. 147
  2. Owain Elias, Nebo (2012).
  3. Llinell neu Ddwy, Ioan Brothen (19..)
  4. Atgofion John Hughes y Wern, gol. Marian Elias (19..)