Defnyddiwr:Twm Elias/Cymylau

Cymylau – cyfoeth yr enwau Cymraeg

Ni ddylsem ryfeddu at bwysigrwydd y tywydd ym mywydau beunyddiol ein cyndeidiau ar hyd y canrifoedd. Wedi'r cyfan onid oedd pobl, cyn yr oes beirianyddol fodern, yn ddibynol iawn ar y tywydd – am eu bywoliaeth os yn amaethwyr a hyd yn oed am eu bywydau os yn forwyr neu bysgotwyr y glannau? Roedd medru darllen arwyddion y tywydd, boed o'r cymylau a chyfeiriad y gwynt neu o fyd natur, yn bwysig iawn felly, a 'does dim rhyfedd bod gennym gymaint o gyfoeth o ddywediadau am y tywydd. Cyhoeddwyd bron i 2,700 ohonynt yn y gyfrol Am y Tywydd yn 2008, a dim ond crafu'r wyneb wna hynny.[1]

Gan mai at ddefnydd gwlad y bwriadwyd y mwyafrif o ddywediadau tywydd, a thrwy eu hir ymarfer ar lafar gwlad, magodd llawer ohonynt lithrigrwydd a chymeriad arbennig iddynt eu hunain. Maent yn gryno, yn gofiadwy, yn ddisgrifiadol ac, yn aml, â dogn helaeth o wreiddioldeb ac weithiau hiwmor yn ogystal. Mae dywediadau tywydd yn elfen bwysig o'n llên – llên gwerin yn hytrach na llenyddiaeth ffurfiol efallai, ond, fel mae dihareb yn gostrel doethineb, gall dywediad neu rigwm tywydd gostrelu dealltwriaeth ddofn o'n hamgylchedd – dealltwriaeth sy'n ddefnyddiol iawn ar gyfer trefnu rhai mathau o waith neu weithgareddau yn yr awyr agored.

Isod cyflwynir ddywediadau sy'n ymwneud â chymylau:

Gall cymylau fod yn ddelweddau cyfleus i liwio'n hiaith :

  • 'â'i ben yn y cymylau' – am rhywun sydd â'i feddwl ymhell i ffwrdd.
  • 'tan gwmwl' – pan fo rhywun wedi pechu.
  • 'yn y niwl' (cofiwch mai cwmwl isel yw niwl) – cyflwr o annealltwriaeth.
  • 'chwalu niwl efo ffon' – gwneud rhywbeth i ddim pwrpas.
  • 'mae ochr oleu i bob cwmwl du' – dihareb yn ogystal â sylw ar gymylau.

Mae'r pennill canlynol yn ddihareb hefyd, yn d'weud bod tystiolaeth y byd go iawn yn sicrach na theori llyfr:

Mae moroedd a mynyddau
A mil o hen gymylau
Yn dangos y tywydd yn llawer gwell
Na llonaid cell o lyfrau.[2]

Ceir hefyd lawer o ddywediadau am y cymylau fel arwyddion tywydd. Dyma rai sy'n gyffredinol eu natur:

  • Awyr dywyll neu gymylog yn clirio i gyfeiriad y gwynt – daw tywydd teg (Llanuwchllyn)
  • Cymylau'n iselhau i gyfeiriad y gwynt – glaw ar ei ffordd (Nefyn)

Mae arwyddion eraill yn gysylltiedig â mathau penodol o gymylau. Gall cymylau fod yn amrywiol iawn eu ffurfiau a gallant newid yn hawdd o un math i'r llall fel y newidia tymheredd, pwysedd a lleithder yr awyr. Gall eu huchder uwchben y ddaear ddylanwadu hefyd ar eu ffurf a'r modd y maent yn newid. Ers dwy ganrif bellach dosbarthwyd cymylau yn ôl eu ffurfiau a'u huchder a chydnabyddir o leiaf ddeg prif deulu ohonynt a nifer o amrywiaethau o fewn pob teulu[3]:

MathauGolygu

Dyma enwau neu ddisgrifiadau o'r mathau o gymylau a geir ar lafar yn y Gymraeg:

CumulusGolygu

Cymylau bychan gwyn gwlanog yw cumulua (neu cwmwlws) a welir ar gefndir o awyr las ac a elwir, yn addas iawn, yn 'gymylau tywydd braf'. Enwau eraill arnynt yw 'cymylau defaid' am eu bod yn weddol grwn a gwasgaredig – yn debyg i braidd yn pori'r llechweddau. Oherwydd eu diniweidrwydd, mae'n debyg, cawsant eu cyffelybu yng Ngwynedd â'r Seintiau: 'Seintiau tywydd braf' dros Ynys Môn (o Waunfawr) a 'Seintiau Aberdyfi' dros Fae Ceredigion (o Gricieth). Ond hawdd iawn y gall y diniwed newid ei natur. Pan gyfyd gwyntoedd stormus o'r de orllewin â'r cymylau bychain yn carlamu ar draws yr awyr o'r cyfeiriad hwnnw fe'u gelwir yn 'feirch y ddrycin' a 'merlod Hafnant' yn ardal Ysbyty Ifan, sy'n gyfeiriad at Fynydd Hafnant ym mhen ucha'r cwm. Os ydynt yn cynyddu ac ymledu gallant fod yn un o'r arwyddion cyntaf bod glaw ar ei ffordd. Enw arnynt yn ardal y Bala pan maent yn dechrau ymddangos yw 'cymylau pennau cŵn'. Os parhânt i gynyddu a phentyrru deuant i edrych fel blodfresych mawr bolddu ac ymhen ychydig oriau yn gymylau terfysg. Ceir dywediad am hynny o ogledd Ceredigion: 'Pen ci bore o wanwyn, uchel gynffon buwch cyn nos.' Yr 'uchel gynffon buwch' yn cyfeirio at y gwartheg yn 'stodi, neu'n rhedeg â'u cynffonnau'n syth i'r awyr, fel y gwnânt ar dywydd trymaidd cyn storm o felt a thrannau yn yr haf.

Pan fydd yr awyr y tu cefn neu uwchben y Cumulus bychain yn dechrau llenwi â haenau o gymylau llwydion, bydd cysgod y cymylau uchel yn troi'r rhai isel yn dywyll iawn. Disgrifir hynny yn yr enwau: 'cŵn duon Dinbych' (Penmachno) am gymylau bach duon ddeuant cyn storm, tra ym Môn ceir y disgrifiad: 'defaid duon dan do' am gymylau bychain yn symud o dan nenfwd llwyd yr haenau uwch.

StratusGolygu

Haen isel sydd, pan yn cyffwrdd â'r ddaear, yn ffurfio 'niwl'. Ceir llu o enwau a disgrifiadau lleol ar wahanol fathau o niwl:

  • Yn ardal Ffestiniog gelwid niwl yn 'gyfaill y gweithiwr' gan rai am y gellid dianc adre'n gynnar o'r gwaith heb i neb sylwi.

Mae i niwloedd y pedwar tymor eu cymeriad eu hunnain:

  • 'Niwl yr hydref – gwas y llwydrew' (Meirionnydd)
  • 'Niwl y gaeaf – gwas yr eira' (Rhosllannerchrugog). Ceir amrywiad ar hwn o Ruthun: 'dod o flaen ei feistr wna gwas yr eira'
  • 'Niwl y gwanwyn – gwas y gwynt' (Llŷn) neu '… – gwaeth na gwenwyn' (Ceredigion)
  • 'Niwl yr haf – tywydd braf'.

Weithiau, ar fore braf o haf bydd niwl trwchus o'r môr yn gorchuddio'r arfordir, gan ymestyn tua milltir i'r tir. 'Niwl tes' yw'r enw arno yn Llŷn; 'niwl y glannau' yng Ngheredigion a 'niwlen wres' yn y de. Ond ceir cyfeiriadau llawer llai parchus ato hefyd yn Aberystwyth a threfi glannau môr eraill pan fydd twristiaid yno yn diodde ei gysgod a hithau yn haul tanbaid ychydig i'r tir. Mewn rhai mannau bydd niwl tes o'r glannau yn cael ei wthio i fyny cwm cul nes ei fod yn llifo drwy'r bwlch i'r ochr arall, lle y bydd yn diflannu'n gyflym. Enghraifft adnabyddus o hyn yw niwl o Nant Gwrtheyrn yn llifo'n rhimyn main gwyn dros y bwlch uwchben Llithfaen. Dywedir amdano bod 'Robin Nant yn smocio' ac mae'n arwydd o dywydd braf.

Gall niwl ffurfio dros y tir hefyd, sef 'niwl dyffryn' all fod yn fath o niwl tes neu darth yn ffurfio dros lyn neu afon yn yr haf, neu o ganlyniad i aer oer yn cronni yng ngwaelod dyffryn yn y gaeaf.

Mynydd yn glir a niwl yn y glyn
Tywydd ffein a geir 'r ôl hyn. (Cwm Tawe)
Mae'r niwl glas sy' rhwng y bryniau
'N dangos na ddaw glaw am ddyddiau. (Buellt).

Yn ardal Buellt gelwir y niwl hwn yn 'nudden las'[4]

Ffurf arall i'r cwmwl Stratus yw capiau ar y mynyddoedd. Gall y rhain ffurfio pan fydd awyr laith yn codi dros fryn neu fynydd ac am fod yr aer yn oeri wrth godi bydd yr anwedd dŵr ynddo yn troi'n niwl neu gwmwl. Mae'n un o'r arwyddion tywydd mwyaf adnabyddus a cheir ugeiniau o fersiynnau ohonno. Un rhigwm sy'n cyfleu'r ystyr cyffredinol yw:

Os oes coel ar bennau'r moelydd
Buan daw yn chwerw dywydd.[5]

Ceir llawer o rigymau a dywediadau yn cyfeirio at foelydd a mynyddoedd penodol:

Pan fo'r Eifl yn gwisgo'i chap
Does fawr o hap am dywydd. (Arfon ac Eifionydd)

Yng Ngwynedd, yn lle'r Eifl yn y rhigwm hwn, gellir ffeirio'r Garn (Garn Fadrun), y Moelwyn, yr Aran, y Foel (yn ardal Waunfawr) a llawer mwy:

Os bydd cap ar ben Moel Hebog
Mae hi'n siwr o law cynddeiriog. (Llanfrothen)
Pan mae'r Frenni yn gwisgo cap
Fe ddaw yn law chwap. (Penfro)
Pan fyddo Mynydd Caera'
A'i gap yn cuddio'i gopa
O niwlyn tew, – am hynny taw
Mae ynddi wlaw mi brofa.[6]
Pa welir pen Moelgeilia
Yn gwisgo clog y bora,
Odid fawr cyn canol dydd
Bydd ar ei grudd hi ddagra.[7]
  • Niwl ar y Rhinog, hin ddrycinog (Meirionnydd)
  • Niwl ar yr Aran, glaw yn bur fuan (y Bala)
  • Niwl ar ben y Trawle, glaw cyn y bore (Tregaron)

Ac mewn cywair mwy modern:

  • Mast teledu Blaen-plwyf â'i ben mewn cwmwl – arwydd glaw (Llanfarian). Dywedir yr un peth am fastiau teledu eraill hefyd.

StratocumulusGolygu

Haen isel o gymylau sydd, fel arfer, yn ffurfio rhwng tua 2,000 a 6,500 troedfedd yw Stratocumulus. Mae'n ffurfio pan fydd llawer o gymylau Cumulus unigol yn ymuno i greu haen sydd fwy neu lai yn ddi­-dor, gydag ambell fwlch bychan yma ac acw. Dywedir:

  • Yr awyr yn llenwi – mae'n hel am law (cyffredin)

AltocumulusGolygu

Ffurfia'r altocumulus yn haenau torredig rhwng tua 6,500 a 18,000 troedfedd a cheir sawl math ohonynt. Un o'r ffurfiau mwyaf cyffredin yw nifer fawr o gymylau bychain crwn sydd bron â chyffwrdd ei gilydd, fel praidd o ddefaid yn llenwi'r awyr:

  • Cymylau fel defaid Jeriwsalem – cawodydd (Cwm Gwendraeth)
  • Defaid Jacob – cawodydd (Cwm Tawe). Defaid Jacob am eu bod yn ddeuliw, sef yn dywyll ar eu hochr gysgodol a gwyn yn wyneb yr haul.

Gwasgarir y cymylau Altocumulus un ai yn ddi-batrwm fel praidd o ddefaid yn weddol glos at ei gilydd, neu yn rhesi cyfochrog taclus a ddisgrifir fel 'defaid yn dilyn eu llwybrau'. Gall y cymylau hyn ddwysáu nes i'r defaid unigol yn y rhesi glosio a chyffwrdd ei gilydd a chreu llinellau neu resi amlwg, tebyg i'r patrwm rhesog o grychau a welir ar dywod y traeth ar drai. Bryd hynny fe'u gelwir, yn 'draeth awyr' neu 'awyr draeth'. Ar yr uchder canolig hwn (6,500' – 18,000') bydd y llinellau yn weddol fras o'u cymharu â math tebyg ei olwg o draeth awyr a welir yn llawer uwch yn yr awyr (Cirrocumulus) sydd, oherwydd ei uchder, â'i resi yn ymddangos yn gul.

Dywediad cyffredin am y patrwm rhesog hwn, boed uchel neu isel, yw:

  • Traeth awyr – glaw drannoeth.

Altocumulus lenticularisGolygu

Perthynas agos i'r cymylau traeth awyr yw yr hyn a elwir yn gymylau gwynt (Altocumulus lenticularis). Maent yn hawdd i'w hadnabod am eu bod ar ffurf lens, cneuen almon neu bysgodyn – sy'n cyfri am eu henw llafar 'pysgod awyr'. Ffurfir cymylau lenticularis pan gaiff yr aer ei godi i'r entrychion gan wynt cryf dros fryn neu fynydd. Bydd y pysgod lenticularis yn ffurfio ar frig ton o aer yn uchel yn yr awyr a pheth pellter yng nghysgod neu y tu ôl i'r mynydd. Maent yn ymddangos fel eu bod yn aros yn eu hunfan ac i'w gweld yn weddol gyffredin mewn ardaloedd mynyddig fel Cymru. Am y gallant fod yn yn berffaith grwn, weithiau'n unigol ac weithiau'n glwstwr fel nifer o grempogau neu blatiau ar bennau ei gilydd, fe'u camgymerwyd, o bryd i'w gilydd, gan rai am soseri ehedog o'r gofod!

  • Cymylau pysgod awyr – storm ar ei ffordd (cyffredin)
  • Samons uwchben Bae Caernarfon – tywydd garw (Waunfawr)
  • Gleisiaid awyr – storm (Ceredigion). Gleisiad yw eog blwydd oed.

AltostratusGolygu

Nid yw'r cymylau hyn fel arfer yn fawr mwy na haenau llwydion sy'n dueddol o dewychu nes bo'r haul yn graddol ddiflannu wrth i'r awyr dywyllu a llenwi cyn glaw. Ceir sawl disgrifiad o'r modd y mae'r haul, neu'r lleuad yn y nos, yn diflannu'n raddol wrth i'r haenau dewychu:

  • Yr haul (neu'r lleuad yn y nos) yn boddi – glaw cyn bo hir (cyffredin)
  • Yr awyr yn ceulo – glaw yn fuan (Gwynedd)

Weithiau ceir patrwm arbennig i'r haenau Altostratus:

  • Os bydd 'caws a llath' ar y wybr, glaw yn agos (Llandysul)

Neu, ychydig funudau cyn iddi lawio gwelir ffurflau arbennig ar waelod y cymylau:

  • Clytiau tonnog – dyma'r ffurf a elwir yn Altostratus undulatus
  • 'Bronnau' yn crogi o waelod y cwmwl – dyma Altostratus mamma
  • Yr awyr 'yn dorrog' o law neu eira (gogledd Ceredigion). Cymylau boliog llawn glaw.

NimbostratusGolygu

Nimbostratus yw'r cwmwl glaw go iawn. Mae'n anodd cyfleu darlun addas o'r Nimbostratus heblaw mai haen ddi-ffurf ydyw sydd, yn ddieithriad, yn dod â glaw, eira, cenllysg neu hyd yn oed hen wragedd a ffyn.

CirrocumulusGolygu

Bydd Cirrocumulus yn ffurfio clytiau neu haen uchel o gymylau mân sydd, yn aml iawn, wedi eu gosod yn llinellau tebyg i batrwm traeth awyr (Altocumulus) ddisgrifiwyd eisoes. Dywed Myrddin Fardd amdanynt: 'Taen gymylau llwyd-wyn, un ffunud mewn ffurf ac ymddangosiad ag ôl tonau ar dywod-draeth wedi i'r môr fod yn ymdoni arno dan awel y gwynt, yr hwn yr ystyrid yn flaen-arwydd sicr, gan werin syml y dyddiau fu, fod ystorm gerllaw.[8]

Enwau eraill arnynt yw croen macrell (sy'n cyfateb i'r 'mackrel sky' Saesneg) a ffedog y ddafad yn y de. Maent yn aml yn arwydd bod ffrynt gynnes yn dynesu ac y bydd y tywydd yn dirywio nes ceir glaw ymhen rhyw hanner diwrnod.

  • Awyr draeth, glaw drannoeth (Llanfair Mathafarn Eithaf)
  • Cymylau traeth – glaw (Ystalafera)
  • Awyr fel croen macrell – gwynt a glaw ymhen chwech awr (Y Bermo)
  • Ffedog y ddafad – glaw cyn bo hir (ar lafar yn y de)

CirrusGolygu

Dyma gymylau sy'n hawdd iawn eu hadnabod. Maent fel blew hirion yn gorewdd i'r un cyfeiriad â'r gwynt fel arfer â'u blaenau un ai yn syth neu yn cyrlio at i fyny rywfaint. Y rhain yw'r cymylau uchaf gweladwy; yn wahanol i'r cymylau is, grisialau rhew yn hytrach na diferion bychan o ddŵr yw'r rhain.

Fe'u gelwir yn:

  • flew geifr (cyffredin)
  • gwallt y forwyn (Gwynedd)
  • rhawn y gaseg (Meirionnydd)
  • cynffon y gaseg wen (Llanrhaeadr, Dyffryn Clwyd)
  • cynffon ceffyl (Llŷn).

Maent yn aml yn arwydd bod ffrynt yn dynesu yn enwedig os bydd y blew yn graddol gynyddu ac yn ymuno gan newid i haen o Cirrocumulus neu draeth awyr. Bryd hynny gall y blew geifr fod yn arwydd da bod ffrynt yn dynesu, pryd y gellir disgwyl i'r glaw gyrraedd o fewn 12 – 18 awr.

  • Blew geifr, glaw geir (Gwynedd)
  • Gwallt y forwyn – tywydd ansefydlog (Llanllwni, Buellt, Llandyrnog, Meirionnydd)

Os nad yw'r blew geifr yn ymuno a thewychu gallant fod yn gysylltiedig â thywydd braf. Bryd hynny fe'u disgrifir fel:

  • clôs (trowsus) Gwyddelod yn y gwynt (Llŷn).

Cirro-StratusGolygu

Nid yw'r Cirro-stratus yn fwy na haen uchel o niwl tenau a di-ffurf sydd, oni bai am roi rhyw arlliw llwydwyn i lesni'r awyr, bron yn anweledig. Ond am fod hwn yn un o gymylau uchaf yr awyr bydd y gronynnau dŵr ynddo wedi rhewi yn risialau mân. O ganlyniad caiff goleuni'r haul ei hollti gan y grisialau i greu enfys a welir yn gylch o amgylch yr haul, yn enwedig pan fo'n lled isel yn yr awyr – rhyw ddwyawr cyn y machlud neu wedi'r wawr.

Gwelir yr un math o gylch o gwmpas y lleuad llawn yn ogystal er mai cylch gwyn a welir bryd hynny am nad yw adlewyrchiad y lleuad yn ddigon cryf i ffurfio lliwiau. Bydd y 'cylch pell' hwn i'w weld gryn bellter o'r haul neu'r lleuad, ar ongl o 22° neu led llaw agored â'r bawd a'r bysedd ar led. Mae'n wahanol i'r llewyrch lliwiau'r enfys a welir yn cyffwrdd â wyneb y lleuad yn arbennig ac a elwir yn gylch agos. Achosir y cylch agos hwn gan lwch yn uchel yn yr awyr ac mae, fel arfer, yn arwydd o dywydd braf. I wahaniaethu rhwng y ddau fath o gylch, y pell a'r agos, dywedir:

Cylch ymhell, glaw yn agos
Cylch yn agos, glaw ymhell. (cyffredin, de a gogledd)

Dywedir: 'Rhod ymhell...' yn y rhigwm hwn yn Ardudwy, a 'Cwmpas pell...' yng Ngheredigion.

Mae hwn yn arwydd eitha sicr – dros 90% cywir[9] – bod ffrynt gref, storm fel arfer, ar ei ffordd. Ceir ambell ddywediad sy'n cyfeirio at y cylch pell o amgylch y lleuad: Cylch am y lleuad Cawodydd cyn goleuad. (Edern)

Weithiau, yn hytrach na chylch crwn cyflawn am yr haul, gwelir pytiau bychain o enfys ar yr un lefel a'r haul ar bellter o 22° oddi wrtho. Gelwir y rhain yn 'gaseg ddrycin' (Llanbedrog); 'ci drycin' (Gwynedd a Môn).

Cumulonimbus – gelwir y cymylau mawr rhwysgfawr hyn sydd fel blodfresych tal bolddu yn 'gymylau terfysg'. Maent yn ffurfio pan fydd corff o aer yn cael ei gynhesu gan ddaear gynnes fel a geir ar dywydd poeth yn yr haf. Bydd hynny yn peri i gerrynt o aer ddechrau dringo a chreu cylchdro o awyr sy'n codi'n uchel i'r entrychion gan ffufio cymylau mawrion uchel Cumulonimbus. Yn rhannau uchaf y cymylau hyn bydd y defnynnau glaw yn rhewi'n genllysg a bydd y rheiny, yn eu tro, yn taro yn erbyn ei gilydd gan greu tensiwn trydanol rhwng gwaelod a phen y cwmwl. Bydd hynny, weithiau, yn ddigon i greu storm o fellt a tharanau. Ceir amryw o enwau lleol ar gymylau tal gwynion Cumulonimbus sy'n dueddol o ddod â glawogydd trymion ac yn aml fellt a tharanau yn ogystal. Enwau eraill arnynt yw cymylau t'ranau (cyffredin yn y gogledd); cymylau tyrfe (Cwm Tawe) a cymylau trawste (Dyffryn Teifi). Yng Ngwynedd a Môn fe'u cyffelybir â byddigion neu esgobion rhwysgfawr:

  • Byddigion Cricieth – arwydd o law trwm neu derfysg (Meirionnydd).
  • Esgobion Bangor yn eu gwenwisg – terfysg (Rhoshirwaun)
  • Esgobion Sir Feirionnydd, os ydynt i'r de (Mynydd Nefyn)
  • Esgobion Tyddewi, os ymhell dros y môr i'r de (Neigwl, Nefyn)
  • Ym Môn, ffurf wreiddiol iawn ar y dywediad hwn am gymylau terfysg yw:
  • Mae Esgobion Bangor wedi bod yn yfad eto – fe ddown nhw i biso am ein penna' ni cyn bo hir'.
  • Yr 'hen bersoniaid' oedd enw y dramodydd Wil Sam Jones, Rhos-lan arnyn nhw.

Ceir hefyd:Golygu

  • Cymylau gwyn Cricieth
  • Glaw mawr anferth. (Talwrn, Môn)
  • Heblaw am y mathau naturiol, uchod o gymylau ceir mathau eraill, artiffisial, yn ogystal a gellir dehongli eu ffurfiau hwythau fel arwyddion tywydd.
  • Llwybr awyren – pan fydd awyrennau jet yn hedfan yn uchel uwch ein pennau byddant yn gadael llwybr gwyn hir ar eu holau:
  • Llwybr awyren yn diflannu'n raddol – braf
  • Llwybr awyren yn aros ac yn ymledu – tywydd drwg ar ei ffordd
  • Mŵg neu stêm o drên neu gorn ffatri – erbyn hyn nid yw mŵg trên yn gyffredin onibai am yr ardaloedd lle ceir 'lein bach', e.e. Ffestiniog, Yr Wyddfa, Llanfair Caereinion ayyb
  • Mwg trên yn darfod yn gyflym – braf
  • Mwg trên yn chwyddo'n fawr ac yn aros yn hir cyn diflannu – glaw
  • Mwg trên yn fyr – braf
  • Mwg trên yn hir – glaw
  • Mwg (neu stêm o gorn ffatri) yn codi'n syth i'r awyr - braf

Ac mae'r cyfeiriad y plyga'r mwg neu stêm o'r corn ffatri yn dangos i pa gyfeiriad y chwytha'r gwynt.

CyfeiriadauGolygu

  1. Am y Tywydd (2008), Twm Elias
  2. Doethineb Llafar (1925), Evan Jones
  3. The Cloudspotter's Guide (2006), Gavin Pretor-­Pinney
  4. Papurau Evan Jones, Ty'n Pant, Llanwrtyd, Amgueddfa Werin Cymru
  5. Hen Benillion (1940), TH Parry-Williams
  6. Cyfres Llên Gwerin Morgannwg, gan Cadrawd yn Cyfaill yr Aelwyd (1881 - 94)
  7. Tribannau Morgannwg (1976), Tegwyn Jones
  8. Gwerin Eiriau Sir Gaernarfon (1907), Myrddin Fardd
  9. Red Sky at Night, Shepherd's Delight? (1981), Paul Marriot