Defnyddiwr:Twm Elias/Ymadroddion Cymraeg
Rhestr o ymadroddion byd natur
Rydan ni’n defnyddio pob mathau o ymadroddion, diarhebion a dywediadau am fyd natur yn hollol naturiol yn ein hiaith bob dydd. Maent yn ddefnyddiol iawn i wneud ryw bwynt neu’i gilydd drwy gymhariaeth â ryw greadur, boed o ran ei olwg, ei gymeriad neu ei ymddygiad. Mae’r cymhariaethau hyn yn lliwio a bywiogi ein sgwrs a phob tro y crybwyllir y creadur dan sylw mae’n creu darlun yn y meddwl yn syth – sy’n gwneud y peth yn llawer mwy byw a chofiadwy. Gall yr ymadroddion hyn fod yn drawiadol, yn ddoniol ac yn wreiddiol iawn ar adegau.
Dyma rai enghreifftiau:
- Aderyn – rhywun a lwyddodd drwy gyfrwysdra: “yn dipyn o dderyn”
- ‘adar o’r un lliw ehedant i’r un lle’.
- ‘gwell aderyn mewn llaw na dau mewn llwyn’.
- aderyn brith: rhywun â chefndir amheus
- Alarch – yn wyn fel alarch.
- yn osgeiddig fel alarch.
- Anifail – am rhywun creulon: “mae o’n anifail o ddyn”, yn anifeilaidd.
- Arth – yn gryf fel arth
- am le chwyslyd a drewllyd: “fatha cesail arth”.
- Asyn – asyn gariodd yr Iesu i Jeriwsalem.
- Barcud – dywedir bod gan rywun craff ei olwg ‘lygad barcud’.
- Brân – yn ddu fel y frân.
- yn dennau fatha brân.
- am rywun sy’n canu’n aflafar: “fatha brân”.
- yn syth yr ehed y frân.
- am sgwennu bler: ‘sgwennu traed brain’ neu ‘bagle brain’ (Ceredigion). Dywedir hyn hefyd i ddisgrifio’r ysgrif Tsineaidd.
- y frân wen. Hon fyddai’n achwyn am ddrygioni plant: ‘ryw hen frân wen dd’wedodd wrtha i’.
- ‘gwyn y gwel y frân ei chyw’.
- ‘mae ’na frân i frân yn rhywle’
- Bustach – pan fo rhywun yn gweithio’n galed i ddim pwrpas dywedir ei fod yn ‘bystachu’ (yn gymhariaeth â bustach, sef llo gwr’w wedi ei gweirio, yn ceisio’n aflwyddianus i rhoi gwasanaeth i fuwch).
- Buwch – am ddynes anhylaw neu annifyr: “yr hen fuwch!”
- pan fo’r jwg llefrith yn wag dywedir: ‘mae’r fuwch yn hesb’
- pan fo peswch dyfn ar rywun: “ydy’r hach arnat ti d’wad?” (Clynnog). Yr hach (husk) yw
peswch dyfn iawn ar wartheg.
- Bwch – rhywun yn edrych yn sarrug, “fatha bwch”.
- Bytheaid – helgwn, pac o helgwn. ‘Roedden nhw fel bytheaid ar ei ôl o’/ am ei waed o fel bytheaid’
- Cacwn – yn flin fatha cacwn / wedi gwylltio’n gacwn
- Camel – dywediad gan rywun â syched mawr: “mae nhafod i fatha cesail camal” (Waunfawr)
– rhywun sychedig: ‘yn yfed fel camel’.
- Cath – wrth ei bodd yn cael ei dandwn, “yn fwythus fatha cath”.
– yn mynd fel cath i gythraul. – yng Ngheredigion ‘cwrci’ yw’r enw am gath wr’w ac mae’n ddywediad am ddyn sydd ag enw am hel merchaid: “hen gwrci yw e”. – dywediad arall o Geredigion: “mae’n rhatach cadw cath na llygod.”
- Ceffyl – “ishio bod yn geffyl blaen”.
– ‘anodd tynnu cast o hen geffyl’. – yn gry’ fel ceffyl / ceffyl gwedd. – yn by’ta fel ceffyl. – y ceffyl benthyg gaiff ei weithio galetaf. – disgrifiad o rywun yn chwerthin yn uchel: “yn gwehyrru”
- Ceiliog – fatha ceiliog ar ben doman.
– mi gana ceiliog ar ei domen ei hun. – am ddyn yn cael dipyn o lwyddiant efo’r marched: “yn dipyn o hen geiliog”. – am rywyn sy’n canmol ei lwyddiant ei hun: “i be mae hwn yn dwad i fa’ma i glochdar”. – am rywun sy’n meddwl ei fod yn well nag ydi o: “y ceiliog dandi!” – pan fydd rhywun sy’n meddwl ei hun neu yn or-hyderus wedi cael gwers go chwerw am rywbeth dywedir ei fod wedi cael ‘torri ei grïb’. – am y byddai ceiliog du yn cael ei aberthu i greu swyn ddrwg gan wrach, dywedid: Na chad o gylch dy dŷ Gath wen na cheiliog du.
- Ceit – enw yn tarddu o ‘Kite’, Barcud. Yn enw dilornus (Ceredigion) am rywun sy’n manteisio ar
rywun arall: “y ceit / ’ma fe rêl ceit”. Yn tarddu o arfer y barcud o gipio cywion ieir oddiar y ddaear.
- Ci – ‘ciaidd’ yn ddisgrifiad o ymosodiad milain a chreulon.
– am ddyn go drachwantus: “dipyn o hen gi ydi o”, hwrgi. – ‘fel ci bach’ yn ddisgrifiad o ddyn sy’n llwyr dan fawd ryw ferch ac yn mwynhau bod felly. – ‘y ci a grwydra a gaiff’. – gwneud rhywbeth dibwrpas / gwastraffus: ‘cadw ci a chyfarth dy hunnan’ – yn sgleinio fatha ceilliau ci. – yn sal fel ci. – rhywun yn dal ati er gwaetha popeth: “mae o fatha daeargi”. – pan fo golwg lechwraidd, euog ar rywun dywedir ei fod: “fatha ryw hen gi lladd defaid”. – ‘yr hen straelgi’: dywediad/gair o Glynnog yn tarddu o strae-gi (ci crwydr) yn golygu rhywun llechwraidd sy’n gwneud drygioni yn y dirgel. Ystyr tebyg sydd i ‘rhechgi’ am rywun llwfr sy’n dial yng nghefn rhywun yn lle ei wynebu.
- ci rhech, ci anwes bychan. Daw’r syniad am bwrpas y fath gi o’r ddelwedd o ddynes
ffroenuchel efo ci anwes bychan ar ei braich: petae hi yn rhoi rhech gallai roi’r bai ar y ci!
- pan ddaeth criw o ferched o Fynytho i Blas Tan y Bwlch un tro am sgwrs a byffet, mi
gliriwyd y bwyd yn llwyr. Minnau’n gofyn i un wraig oedd â phlat lwythog iawn: “Rargian, ’dyn nhw ddim yn y’ch bwydo chi yn Mynytho ’cw?” Ei hateb oedd: “boliad ci a bery dridiau”.
- ceir pennill o Lŷn yn gwarafun y syrthni / diogi ar ôl bwyta cinio mawr:
O na bawn i fel hen gi, Yn b’yta ’mwyd a ffwrdd a fi; Yn lle fy mod i fel hen fochyn Yn b’yta ’mwyd a gorwadd wedyn.
- Colomen – yn symbol o heddwch a phurdeb.
**ar y llaw arall, am ferch anwadal a thrafferthus: “yr hen g’loman”.
- Cranc – “mae o rêl cranc”, h.y. ddim yn barod i gydweithredu.
- Creyr glas – am rywun tal a main: “ryw greyr glas o foi”.
- Cudyll – am rywyn yn edrych yn sarrug arnoch ond heb dd’eud dim: “yn sbïo fatha cudyll”.
- Cwningen – am ferch or-nwydus (‘ofer-sexd)’: “ma’ hi fatha gwningan”.
**‘bwyd cwningen’ am salad a bwydydd eraill mae fejiterian yn eu byta.
- Cyffylog – nid wrth ei big y mae prynnu cyffylog
- Cynrhon – am rhywun sy’n methu eistedd yn llonydd: “Oes gen ti g’nonod yn dy din d’wad?” (Llŷn)
- Cyw – wrth gyfarch rhywun annwyl: “helo cyw”.
**y plentyn ola i adael cartre: “cyw ola’r nyth”. **y cyw a fegir yn uffern, yn uffern y myn e fod. **paid a chyfri dy gywion cyn iddyn nhw ddeor.
- Chwadan – cerddediad dynes dew, fyr ei choesau: “fatha chwadan”.
- Chwanen – yn niferus iawn: “fatha chwain yn bob man”
**disgrifiad o rywbeth na wna lawer o argraff : ‘cic chwanen’ (Ceredigion)
- Dafad – “well imi dorri fy locsyn rhag imi fynd yn sownd yn y drain fatha ryw hen ddafad”.
**enw yn ardal Blaenau am ryw hen ddafad fler sy’ wedi hanner colli ei gwlân ydi ‘sgrymlan’ – sy’n enw da i ddisgrifio dynes fler: “yr hen sgrymlan”.
- Dryw – yn ddilornus am rywun bychan: “pwy ’di’r dryw yma?”
**am wneud rhywbeth diwerth neu na chaiff lawer o effaith: “fel piso dryw yn y môr.”
- Ebol – yn edrych yn ifanc a llawn bywyd: “fatha ebol blwydd” / “mae hi fel polas (eboles) ifanc”.
**‘ebol gwyllt wna farch gwych’.
- Eos – yn swynol fel eos.
- Ffurat – dywediad (o Bethesda) yn disgrifio’r blas afiach yng ngheg rhywun ar ôl bod ar ‘sesh
feddw’ am ddiwrnod neu ddau a heb llnau ei ddannedd: “ma’ ngheg i fatha twll din ffurat”.
- Ffwlbart – yn drewi fel ffwlbart.
**yn ddiog fel ffwlbart.
- Gafr – fel gafr ar darannau (= wedi cynhyrfu).
**yn drewi fel ryw hen fwch gafr. **yn rhedeg neu’n mynd yn gyflym ar draws creigiau: yn ‘gafrio’ / mynd fel gafr.
- Gast – dirmygus, am ferch: “Yr hen ast”.
- Geloden – yn dal gafael yn dyn: “fatha gelan”.
- Gwalch – aderyn ysglyfaethus sy’n dueddol o gipio adar bach neu gywion ieir. Am rhywun drwg
dywedir: “y gwalch!”. Gw. hefyd ‘ceit’.
- Gwenyn – yn ddiwyd fel gwenynen.
- Gwennol – ‘un wennol ni wna wanwyn’.
**yn mynd fel wennol (h.y., yn gyflym iawn)
- Gwybedyn – dihareb yn cyfleu rhinweddau amyneddgarwch: “Yn ara bach a fesyl tipyn, mae stwffio
bys i din gwybedyn” (dywediad o Hiraethog). **rywbeth tennau iawn: ‘trwch adain gwybedyn’.
- Gwylan – dywedir bod rhywun â’r dolur rhydd yn “pibo fel gwylan”.
- Hwch – yn cerdded yn fân ac yn fuan, fel trot yr hwch at y baedd.
**yn gam fatha piso hwch.
- Iâr – golwg druenus ar rywun – ‘fel iâr ar y glaw’, neu: ‘fel iâr dan drol’ (yn cysgodi rhag y glaw).
**merch ddi-briod sy’n disgwyl babi: ‘wedi gori allan mae hi’. **lle crafa’r iâr y piga’r cyw
- Llo – am rywun di-glem: “Y llo! / y llo g’lyb / llo cors (= di-glem a styfnig hefyd)”
**canu’n ansoniarus: “clyw hwnna’n brefu”. **os ydi rhywun yn dal ymlaen i swnian, caiff yr ymateb: “paid a brefu! / taw a dy frefu”. **graffiti a welwyd ar waliau toiledau drwy Gymru yn 1969 adeg coroni neu arwisgo ‘Carlo’ yng Nghaernarfon oedd: “Câr lo, câr Carlo”!
- Llwdwn – oen myharen. Am rywun styfnig neu anodd ei drin: ‘y llwdwn diawl’.
- Llwynog – am rywun cyfrwys: “mae o’n dipyn o hen lwynog”.
**‘wnaiff llwynog byth hela yn rhy agos at ei gartref’.
- Llyffant – dilornus: ‘y llyffant diawl’.
**am rywun gafodd fflach o weledigaeth neu syniad da: ‘mae perl mewn pen llyffant’. **ceid hen goel gyfeiliornus bod ‘llyffant blwydd yn lladd y dyflwydd’. Hyn yn seiliedig ar yr argraff bod llyffint bychain (y blwydd) yn ymosod ar y rhai mwy (y dyflwydd) yn y pyllau yn y gwanwyn. Ond cydmaru mae nhw! Y rhai bach ydi’r gyrfod yn gafael yn dyn am y fenyw fawr. Pan o’n i’n hogyn drwg, byddai ’nhad yn gwaeddi arnaf: “y llyffant blwydd diawl!” **am rywun sy’n teimlo’n oer a llaith: “rwyt ti’n oer fatha llyffant”. **“yn llyffanta”, am rywun aflonydd yn ei wely dros nos (dywediad o Lŷn).
- Llygoden – am rywun ofnus: “fatha ll’godan”.
**am rywun wedi gwlychu at ei groen: “roedd o fatha ll’godan fawr”. **dihareb (o Gwm Pennant) yn rhybuddio rhag ceisio gwneud yr hyn sy’ y tu draw i’ch gallu: “gwae y llygoden a geisia biso fel caseg”!
- Llysywen – “R’odd hi fatha sliwan o dennau”.
**yn llithrig fel sliwan.
- Malwen – yn cyfeirio at arafwch diarhebol y falwen: “yn ara’ fatha malwan / fatha malwan mewn
côl tar / fatha malwan gloff”. **am gyllell hollol ddi-fin neu ddi-awch: ‘cyllell sbaddu malwoden’ (Ceredigion).
- March – “marcho” yn derm am y weithred rywiol (Ceredigion)
- Milgi – cyflym, ‘yn mynd fel milgi’.
**yn dennau fel milgi. **‘yn denna’ fatha milgi Jipshiwns – yn ddim byd ond coc a sennau’. (dywediad o Lŷn).
- Mochyn – am rywun budr (baw), yn fler neu’n b’yta’n fler: “yr hen fochyn / rêl mochyn”.
** yn hapus fel mochyn mewn ffos. ** efo arferion rhywiol budr neu afiach / yn ‘mocha’ efo genod. ** am rywun yn chwyrnu yn ei gwsg: “yn chw’rnu fatha mochyn”. ** yn gwaedu fel mochyn (h.y., pan fo’r mochyn yn cael ei ladd). ** yn sgrechian fel mochyn (eto, pan y’i lleddid). **yn gam fatha piso mochyn. **hyfryd meichiad pan fo gwynt (= ni fydd un sy’n cadw moch yn drewi pan fo gwynt)
- Morgrug – yn ddiwyd fel morgrug
- Mul / mwlsyn – yn ‘styfnig fatha mul’. Dywediad o Geredigion am rywun styfnig: “y mwlsyn”.
**am rywyn wedi styfnigo: ‘mae o wedi mulo’, ‘paid a mulo’. **disgrifiad o rywun yn gwneud sŵn aflafar: “yn nadu fatha mul”. **be sy’ i’w ddisgw’l gan ful ond cic? **cic galed : ‘cic fatha mul’. **am gwrw cryf: “ma’ gan hwn gic fatha mul”. Erbyn hyn ceir cwrw o’r enw Cic Mul.
- Myswynog / Swynog – buwch sydd wedi mynd yn rhy hen i genhedlu. Dywedir hefyd am wraig (nad
ydych yn ei hoffi) sydd yn rhy hen i gael plant: “I be wyt ti ishio poetsho efo ryw hen swynog fatha honna?”.
- Neidr – disgrifiad o ferch dennau feichiog: “fatha neidar wedi llyncu nionyn picl” (Pwllheli).
- Oen – defnyddir yr Oen fel symbol o Grist am ei ddiniweidrwydd ac am iddo gael ei aberthu.
**dihareb: “mor ddiniwed â’r oen”. **am rywun diniwed a llywaeth: “mae o fatha oen”. **yr oen yn dysgu’r ddafad i bori. **gwell oen fy hun na ŷch rhywun arall. **yn ddilornus am rywun gwirion neu hurt: “yn dipyn o goc oen / y coc oen diawl!”
- Paun – am rywyn rhodresgar: “yn rêl peunes”.
- Pioden – dywediad dilornus am rywun sy’n gecrus a thrahaus ac sy’ am feddiannu bob dim: “yr hen
biodan!” **am rywyn sy’n hoffi casglu pethau, yn enwedig ryw dlysau gloew: “fatha piodan”.
- Penci – (h.y. y pysgodyn, morgi) am rywun styfnig: “yr hen benci” (am fod pysgotwyr môr yn ei
gael yn drafferthus i’w dynnu o’u cewyll cimychiaid).
- Pry – dilornus: “pwy wyt ti’r pry diawl?!”
**rhywun yn dwad i geisio cael mantais: “yli hwn yn dwad, fatha pry at gachu”. **am rywun sy’n symud yn brysur iawn: “yn mynd o gwmpas y lle ’ma fatha pry tinlas”.
- Rhegen yr ŷd – aderyn cyffredin unwaith ond a ddiflanodd erbyn hyn. Roedd ganddo sŵn undonog
fyddai yn parhau am oriau drwy’r nos. Am rywun sy’n swnian yn ddi-ddiwedd dywedir: “Taw, rwyt ti fatha ryw raga rug!”
- Sarff – am rywun tywyllodrus / bradwrus: “yr hen sarff”.
- Sguthan – am ferch annifyr neu ddrwg: “yr hen sguthan”.
- Stalwyn – disgrifiad o ferchetwr: “mae o fatha stalwyn y Sir”. Arferai stalwyni gael eu llogi gan
Gymdeithasau Sirol hyd at ganol yr 20fed ganrif i wasanaethu cesyg y gwahanol fröydd.
- Tarw – mynd yn syth ar draws gwlad = ‘llwybr tarw’.
**pan dynwyd sylw adeiladwr o Langefni at rhywbeth yn crogi’n rhydd o’r sgaffaldiau ei ateb oedd: “mae cŵd tarw’n rhydd hefyd ysti, ond ddaw o byth i ffwrdd chwaith”.
- Twrci – wedi gwylltio nes bod ei wyneb yn goch: “wedi mynd yn goch fel tyrci”.
- Tylluan – llygaid mawr ‘fatha tylluan’.
- Wiwar – am rywun sy’n newid ei feddwl / meddwl bob munud. [Tra’n gyrru car, welsoch chi wiwar
lwyd yn mynd ’nol ac ymlaen ar y ffordd o’ch blaen a ddim yn neidio i’r gwrych tan yr eiliad ola?]: “y blydi wiwar!” (Bethesda).
Llyfryddiaeth
golyguYmadroddion Byd Natur; gan Twm Elias. Ymddangosodd yr erthygl hon gyntaf yn Llygad Barcud (Cylchgrawn Cymdeithas Ted Breeze Jones), rhifyn 23, Haf 2011, gyda ychwanegiadau yma.