Dehongliad statudol

Yn ystod achosion lle nad yw ystyr y ddeddf yn eglur, gall barnwr ddefnyddio'r hyn a elwir yn ddehongliad statudol (Saesneg: statutory interpretation). Mae'r barnwr yn ceisio dehongli'r statud a cheisio darganfod bwriad y Senedd wrth greu'r ddeddf.

Dehonglir statudau er mwyn darganfod bwriad y Senedd

RheolauGolygu

Ar gyfer dehongliad statudol, mae Deddf Dehongliad 1978 yn rhoi ychydig o ddisgresiwn i farnwyr wrth geisio dehongli'r ddeddf. Rhoddir tair rheol er mwyn ceisio dehongli yr hyn yr oedd y Senedd am ei gyflawni.

Rheol lythrennolGolygu

Fel yr awgrymir gan yr enw, mae'r barnwr yn dehongli'r ddeddf gair am air. Gall hyn achosi anhegwch mewn rhai achosion. Er enghraifft yn achos Whitley v Chapell (1868).

Rheol euraiddGolygu

Os yw'r rheol lythrennol yn achosi canlyniad annheg, mae gan farnwr yr hawl i newid ystyr ambell i air. Wrth ystyried achos R v Allen (1972), gwelir y rheol euraidd ar waith.

Rheol drygioniGolygu

Ambell waith, mae'r rheol lythrennol a'r rheol euraidd yn dal i roi canlyniad anheg. Os digwydd hynny, gall y barnwr ddefnyddio'r rheol drygioni er mwyn ceisio dehongli gwir fwriad y senedd. Fel y gwelir gydag achos Smith v Hughes (1960).

OfferGolygu

Wrth ddehongli statud, mae hefyd gan farnwyr nodiadau esboniadol er mwyn eu helpu gyda'r dehongliad. Mae'n rhaid hefyd i farnwyr ystyried Deddf Hawliau Dynol 1998 er mwyn hybu tegwch, a sicrhau nad yw'r canlyniad yn torri hawliau'r diffynnydd.

HansardGolygu

Adroddiad o drafodaethau y Senedd yw Hansard. Gall barnwyr gyfeirio at Hansard er mwyn eu helpu i ddehongli'r statud.