Ffrwydryn a wneir o nitroglyserin yw deinameit, dynameit neu ddynamit.[1] Cafodd ei batentu gan y cemegydd Swedaidd Alfred Nobel ym 1867, a gymysgodd nitroglyserin gyda diatomit (cieselgwr) i greu defnydd sych ac yn fwy diogel i'w gyffwrdd na nitroglyserin hylifol. Mae'r solet hefyd yn siocleddfol ond yn hawdd ei danio. Yn ddiweddarach, defnyddiwyd mwydion coed yn lle diatomit, ac ychwanegwyd sodiwm nitrad i gryfhau'r ffrwydryn.[2]

Diagram o ffon ddeinameit:
  1. Diatomit neu ddefnydd amsugnol arall wedi ei drochi mewn nitroglyserin.
  2. Caen amddiffynnol sydd yn amlapio'r defnydd ffrwydrol.
  3. Capan tanio.
  4. Cebl drydan neu ffiws a gysylltir â'r capan tanio.

Cyfeiriadau golygu

  1.  dynameit. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 26 Awst 2017.
  2. (Saesneg) Dynamite. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Awst 2017.