Eiconograffeg

(Ailgyfeiriad o Delw-arluniaeth)

Gwyddor symbolau, themâu, a chynnwys yn y celfyddydau gweledol yw eiconograffeg neu ddelw-arluniaeth. Mae'n crybwyll astudiaeth, adnabod, disgrifiad, dosbarthiad, a dehongliad delweddau, ac eithrio'r pethau hynny sydd yn nodweddion arddull yr arlunydd a ffurf y celfyddydwaith. Gellir ei hystyried yn ffurf weledol ar esboniadaeth.[1] Rhan o hanes celfyddyd yw eiconograffeg yn draddodiadol, a bellach mae'n berthnasol i feysydd eraill megis semioteg ac astudiaethau'r cyfryngau.

Cyhoeddwyd yr astudiaethau eiconograffig cynharaf yn yr 16g, ar ffurf catalogau o arwyddluniau llenyddol er defnydd arlunwyr, megis yr Iconologia (1593) gan Cesare Ripa. Datblygodd eiconograffeg ar y cyd ag archaeoleg yn y 18g, trwy astudiaeth themâu a nodweddion cofebion yr Henfyd. Yn y 19g, daeth eiconograffeg yn gysylltiedig â chelfyddyd Gristnogol yn hytrach na chelfyddyd hynafol. Ar droad y ganrif, ymddangosodd ysgol eiconograffig o hanesyddion celfyddyd, yn eu plith Émile Mâle ac Aby Warburg, mewn adwaith yn erbyn y beirniaid celf yn niwedd y 19g a oedd yn trafod ffurf ac nid cynnwys. Rhoddir yr enw eiconoleg ar y traddodiad hwn, sef "hanes y meddylfryd" o ran celfyddyd weledol drwy astudio'r cyd-destunau cymdeithasol, diwylliannol, ac hanesyddol. Yn yr 20g datblygodd eiconograffeg yn faes eang sydd yn cwmpasu celfyddyd seciwlar a chrefyddol, ac o bob cyfnod hanes, yn ogystal â chyfryngau gweledol newydd megis y sinema.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Peter Burke, "Iconography" yn The Fontana Dictionary of Modern Thought, golygwyd gan Alan Bullock ac Oliver Stallybrass (Llundain: Fontana, 1977), t. 296.