Esboniadaeth
Damcaniaeth a methodoleg dehongli ac egluro testunau, yn enwedig ffynonellau crefyddol ac athronyddol, yw esboniadaeth.[1]
Esboniadaeth Feiblaidd
golyguDefnyddai amryw o ddulliau ac egwyddorion esboniadol drwy'r oesoedd gan Iddewon a Christnogion i ddehongli'r Beibl a cheisio egluro ei ystyr a'i wirionedd. Crefyddau sydd yn hawlio datguddiad dwyfol yw Iddewiaeth a Christnogaeth, a noda'r traddodiad Iddewig-Gristnogol gan yr "hanes sanctaidd" a draddodir yn y Beibl. Ymhlith llyfrau'r Beibl mae ysgrifeniadau o sawl fath sydd yn adlewyrchu ar yr hanes hwn, gan gynnwys proffwydoliaeth, barddoniaeth, dihareb, llên ddoethineb, a llythyron. Y testunau hyn sydd yn gosod sail i'r rhan helaethaf o esboniadaeth Feiblaidd. Tadau'r Eglwys oedd y cyntaf i ddadansoddi ac egluro'r Beibl Cristnogol, a chawsant enw awdurdodol ym milflwydd gynta'r ffydd ac effaith bwysig hyd heddiw. Gelwir astudiaeth y Tadau yn batristeg.
Er bod credinwyr yn cytuno taw "gair Duw" ydy'r Beibl, nid ydynt oll yn cyd-weld ystyr a neges eu testunau sanctaidd. Yn ogystal mae dilynwyr o grefyddau eraill ac agnostigiaid ac anffyddwyr wedi rhoi golwg ar y Beibl a rhoi eu barn. Mae'r gwahaniaethau rhwng cynnwys y canon Beiblaidd gan wahanol eglwysi a statws dadleuol ambell testun, megis yr Apocryffa, yn bwnc llosg. Mae iaith y Beibl yn peri problem hefyd, ac mae ysgolheigion yn ymdrechu i ddysgu'r Hebraeg, Hen Roeg, ac Aramaeg er mwyn iddynt ddarllen llyfrau'r Beibl yn eu hieithoedd gwreiddiol. Trwy feirniadaeth ieithegol, maent yn dadansoddi gramadeg, geirfa ac arddull y testunau; trwy feirniadaeth lenyddol, y math o lenyddiaeth a'r awduron tybiedig; a thrwy beirniadaeth traddodiad, maent yn defnyddio'r testunau Beiblaidd yn ogystal â ffynonellau hanesyddol eraill i olrhain y traddodiad llafar a datblygiad yr ysgrifeniadau canonaidd.
Pedwar prif draddodiad o esboniadaeth sydd gan gredinwyr: llythrennol, moesol, alegorïaidd, ac anagogaidd. Yn ôl esboniadaeth lythrennol, mae'r Beibl yn ffynhonnell ddiamau ac anffaeledig, ac felly diwinyddiaeth ac ymarferiad ffwndamentalaidd yw'r unig fodd dilys o fod yn gredinwr. Arddelai'r fath esboniadaeth gan ffigurau amryfal, o Babyddion pybyr megis Tomos o Acwin i ddiwygwyr Protestanaidd megis Luther a Calvin. Dulliau anlythrennol o ddehongli'r Beibl yw beirniadaeth foesol ac alegorïaidd. Un ffurf ar esboniadaeth alegorïaidd yw'r dehongliad teipolegol, sydd yn cysylltu'r cymeriadau a straeon yn yr Hen Destament gyda phobl a digwyddiadau yn y Testament Newydd. Defnyddiwyd y fath esboniadau gan Philo, Iddew yn oes Iesu, ac Origen, Cristion yn y 3g. Mae credinwyr eraill, gan gynnwys y Cabalyddion Iddewig a'r Mairolegwyr Cristnogol, wedi ymdrin â'r Beibl drwy esboniadaeth anagogaidd neu gyfrinddeongliadol sydd yn darllen ystyron cyfrin yn ei gynnwys.[2]
Yn y 19g, dechreuodd nifer o ysgolheigion dynnu ar archaeoleg, ymchwil hanes a chymharu crefyddau wrth ystyried yr hanes a geir yn y Beibl, gan ffurfio'r dulliau a elwir beirniadaeth hanesyddol. Mae darganfyddiadau o destunau hynafol, yn bennaf Sgroliau'r Môr Marw a llyfrgell Nag Hammadi yng nghanol yr 20g, wedi annog ysgolheigion a diwinyddion Iddewig a Christnogol i ail-ystyried y canon Beiblaidd. Mae athronwyr wedi dehongli'r Beibl o safbwyntiau dirfodaeth ac adeileddaeth.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ esboniadaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 8 Ebrill 2018.
- ↑ (Saesneg) Hermeneutics. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Ebrill 2018.