Mynydd Damavand
(Ailgyfeiriad o Demavand)
Mynydd uchaf Iran a'r Dwyrain Canol yw Mynydd Damavand (Perseg: دماوند ; Kuh-e Damavand), a elwir hefyd yn Demavand neu Donbavand weithiau. Mae'n llosgfynydd tawel gyda lle arbennig ym mytholeg a llên gwerin Persia. Wedi'i leoli yng nghanol cadwyn Mynyddoedd Alborz (neu Elborz/Elburz), ger copaon Varārū, Sesang, Gol-e Zard a Mīānrūd, Damavand yw'r copa uchaf yn y Dwyrain Canol a'r llosgfynydd uchaf yn Asia gyfan. Gorwedd y mynydd ger arfordir deheuol Môr Caspia, yn Swydd Āmol, talaith Māzandarān.
Math | mynydd, stratolosgfynydd, atyniad twristaidd, tirnod |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Volcanic Seven Summits |
Sir | Sir Amol |
Gwlad | Iran |
Uwch y môr | 5,610 metr |
Cyfesurynnau | 35.9553°N 52.1092°E |
Manylion | |
Amlygrwydd | 4,667 metr |
Rhiant gopa | Elbrus |
Cadwyn fynydd | Alborz |
Statws treftadaeth | Tentative World Heritage Site |
Manylion | |