Cadwyn o fynyddoedd uchel yng ngogledd Iran sy'n ymestyn ar draws y wlad o'r ffin ag Armenia i'r gogledd-orllewin i ben deheuol Môr Caspia ac sy'n cyrraedd wedyn hyd at y ffin ag Affganistan a Tyrcmenistan yw'r Alborz (Perseg: البرز), a drawslythrennir fel Alburz neu Elburz weithiau hefyd. Gorwedd Mynydd Damavand, y mynydd uchaf yn Iran a'r Dwyrain Canol, yn y gadwyn hon.

Alborz
Mathcadwyn o fynyddoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolllain Alpid Edit this on Wikidata
GwladIran Edit this on Wikidata
Arwynebedd155,970 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr5,610 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau36.07583°N 51.79611°E Edit this on Wikidata
Hyd600 cilometr Edit this on Wikidata
Map
Copaon yng nghanolbarth yr Alborz
Yr Alborz yn nhalaith Semnan
Mynydd Damavand
Azad Kuh

Ffurfia cadwyn yr Alborz fur rhwng glannau Môr Caspia i'r gogledd a llwyfandir Qazvin-Tehran i'r de. Gyda lle o tua 60–130 km, mae ei rhannau uchaf yn y de yn sych gyda dim ond ychydig o goed, ond mae'r llethrau gogleddol, sy'n derbyn glawogydd o'r gogledd, yn wyrdd a choediog.

Mae sgïo a mynydda yn boblogaidd ac mae canolbarth y gadwyn yn denu nifer o ymwelwyr, yn enwedig o'r dinasoedd mawr fel Tehran, sy'n gorwedd yn agos i Fynydd Damavand, a Semnān.

Mae gan y copaon hyn ran bwysig ym mytholeg Zoroastriaeth.

Copaon

golygu

Mynyddoedd Canolbarth yr Alborz

golygu
Mynydd Uchder(m)
Damavand 5671
Kholeno 4385
Azad Kuh 4375
Nazer 4350
Paloon Gardan 4250
Koloon Bastak 4200
Sarakchal 4150
Varevasht 4100
Kharsang 4100
Tochal 3960
Mehrchal 3920
Atas hkuh 3850
Shah Neshin 3850
Binalud 3211
Sharbak 1694

Mynyddoedd Gorllewinol yr Alborz

golygu
Mynydd Uchder(m)
Sialan 4250
Shah Alborz 4200
Khashechal 4180
Naz 4100
Kahar 4050

Gweler hefyd

golygu