Deobandi
Mudiad Islamaidd yw'r Deobandi. Tarddodd yn Dar al-Ulum (ysgol neu goleg crefyddol) Deoband yng ngogledd yr India ym 1867 gan ddilynwyr Sayyid Ahmad Reza Khan Barelwi. Addysgid Mwslimiaid mewn modd ceidwadol y ffydd, gan bwysleisio'r hadith a thraddodiad cyfreithiol yr Hanafi a ffurf gymedrol ar Swffïaeth. Lledaenodd y Deobandiaid ar draws India a Phacistan. Ers y 1920au mae mudiad rhyngwladol y Tablighi Jamaat yn parháu safbwynt anwleidyddol y Deobandiaid gwreiddiol. Trodd rhai yn y mudiad yn wleidyddol ac yn wrth-Orllewinol yn sgil rhaniad India a Phacistan ym 1947. Datblygodd tueddiadau eithafol o rengoedd y Deobandi gan grwpiau sy'n proffesu Islamiaeth megis Jamiatul Ulama-i Islam ym Mhacistan a'r Taleban yn Affganistan.[1]
Enghraifft o'r canlynol | enwad crefyddol, mudiad crefyddol |
---|---|
Crefydd | Swnni |
Rhan o | Swnni |
Dechrau/Sefydlu | 1867 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |