Swffïaeth
Agwedd gyfriniol o Islam yw Swffïaeth neu taṣawwuf (Arabeg: تصوّف) sy'n canolbwyntio ar ysbrydolrwydd Islamaidd, defodaeth, asgetigiaeth ac esoterigiaeth.[1][2][3][4][5] Gelwir dilynwr y traddodiad hwn yn ṣūfī (صُوفِيّ). Gelwir Swffïaeth yn aml yn enwad Islamaidd, ond mae'n gywirach i'w disgrifio fel dimensiwn neu agwedd o'r crefydd.[6]
Beddrod Abdul Qadir Gilani, Baghdad, Irac | |
Enghraifft o'r canlynol | mudiad crefyddol, way of life, ffordd o fyw |
---|---|
Math | obedience in Islam, Islamic activity |
Rhan o | worship in Islam |
Cysylltir gyda | rahma, love for God in Islam |
Olynwyd gan | wasil |
Lleoliad | Y Byd Mwslemaidd, ledled y byd, world |
Prif bwnc | dhikr, Dua, Sabr |
Yn cynnwys | Wird, Warid, ḥāl, maqam, Lataif-e-sitta |
Gweithredwr | Sufi |
Sylfaenydd | Muhammad |
Enw brodorol | التَّصَوُّفُ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fe'i diffiniwyd fel "cyfriniaeth Islamaidd",[7][8] "mynegiant cyfriniol o'r ffydd Islamaidd", "dimensiwn mewnol Islam",[9][10] "ffenomen o gyfriniaeth o fewn Islam",[11] y "prif amlygiad a'r crisialu pwysicaf a mwyaf canolog" o arferion cyfriniol yn Islam,[12] a "mewnoli a dwysáu ffydd ac arferion Islamaidd".[13]
Cyfeirir at Ymarferwyr Swffïaeth fel "Swffisiaid" (o صُوفِيّ , ṣūfīy), ac yn hanesyddol roedd yn perthyn i "urdd" a elwir yn tariqa (lluosog: ṭuruq) - cynulleidfaoedd wedi'u ffurfio o amgylch wali meistr mawr a fyddai'r olaf mewn cadwyn o athrawon olynol a allant olrhain eu llinach hyd at Muhammad.
Mae athrawiaethau a sefydliadau Swffïaeth yn ategu fframwaith sylfaenol arferion Islam. Er bod Swffïaeth yn cadw at y gyfraith Islamaidd yn llym ac yn perthyn i wahanol ysgolion cyfreitheg a diwinyddiaeth Islamaidd, maent wedi'u huno gan eu gwrthwynebiad i gyfreithlondeb sych. Mae ffocws pwysig addoliad y Swffiaid yn cynnwys dhikr, yr arfer o gofio Duw.[14]
Daeth Swffïaeth i'r amlwg yn gynnar yn hanes Islam, yn rhannol fel adwaith yn erbyn bydolrwydd Califfiaeth Umayyad cynnar (661–750),[15] a chwaraeodd Swffïaeth ran bwysig yn hanes Islam trwy eu gweithgareddau cenhadol ac addysgol.
Er gwaethaf dirywiad cymharol Swffïaeth yn y cyfnod modern, mae wedi parhau i chwarae rhan bwysig yn y byd Islamaidd, ac mae hefyd wedi dylanwadu ar wahanol fathau o ysbrydolrwydd yn y Gorllewin.[16][17]
Diffiniadau
golyguMae'r gair Arabeg tasawwuf (yn llythrennol: bod neu ddod yn Swffi), a gyfieithir yn gyffredinol i'r Gymraeg fel 'Swffïaeth', yn cael ei ddiffinio'n gyffredin gan awduron y Gorllewin fel 'cyfriniaeth Islamaidd'. Mae'r term Arabeg sufi wedi cael ei ddefnyddio mewn llenyddiaeth Islamaidd gydag ystod eang o ystyron, gan gefnogwyr a gwrthwynebwyr Swffïaeth.[18] Roedd testunau Clasurol Swffïaeth, a bwysleisiodd ddysgeidiaeth ac arferion penodol y Corân a'r sunnah (dysgeidiaeth ac arferion enghreifftiol y proffwyd Islamaidd Muhammad), yn rhoi diffiniadau o tasawwuf a ddisgrifiodd nodau moesol ac ysbrydol ac a oedd yn gweithredu fel offer add. . Yn lle hynny, defnyddiwyd llawer o dermau eraill a oedd yn disgrifio rhinweddau a rolau ysbrydl mewn cyd-destunau mwy ymarfero. [18]
Mae rhai ysgolheigion modern wedi defnyddio diffiniadau eraill o Swffïaeth, megis "dwysáu ffydd ac ymarfer Islamaidd" a "phroses o wireddu delfrydau moesegol ac ysbrydol".
Cyflwynwyd y term Swffïaeth (Sufism) yn wreiddiol i ieithoedd Ewropeaidd yn y 18g gan ysgolheigion Dwyreiniol, a oedd yn ei weld yn bennaf fel athrawiaeth ddeallusol a thraddodiad llenyddol a oedd yn groes i'r hyn a welent fel undduwiaeth Islam. Mewn defnydd ysgolheigaidd modern mae'r term yn disgrifio ystod eang o ffenomenau cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol a chrefyddol sy'n gysylltiedig â Swffïaeth.
Geirdarddiad
golyguYmddengys mai ystyr gwreiddiol sufi oedd "un sy'n gwisgo gwlân (ṣūf)", ac mae'r Gwyddoniadur Islam yn diystyru rhagdybiaethau etymolegol eraill. Yn draddodiadol, cysylltid dillad gwlân ag asgetigau a chyfrinwyr. Gwrthododd Al-Qushayri ac Ibn Khaldun bob posibilrwydd heblaw ṣūf ar sail ieithyddol.
Gellir cymharu hyn gyda'r enwau 'y Brodyr Duon' a'r 'Brodyr Llwydion', sef mynachod yng Nghymru a gwledydd eraill a elwid ar ôl lliw'r gwlân a wisgant.
Mae esboniad arall yn olrhain yr enw i'r gair ṣafā (صفاء), sydd yn Arabeg yn golygu "purdeb". Cyfunwyd y ddau esboniad gan y Sufi al-Rudhabari (m. 322 AH), a ddywedodd, " Y Swffi yw yr hwn sy'n gwisgo gwlan ar ben purdeb."[19][20]
Llyfryddiaeth
golygu- Babou, Cheikh Anta (2007). "Sufism and Religious Brotherhoods in Senegal". The International Journal of African Historical Studies 40 (1): 184.
- Chittick, William (2007). Sufism: A Beginner's Guide. Oneworld Publications. ISBN 978-1-78074-052-2.
- Chodkiewicz, Michel (1995). The Spiritual Writings of Amir ʿAbd al-Kader. SUNY Press. ISBN 978-0-7914-2446-9.
- Chopra, R.M. (2016). SUFISM (Origin, Growth, Eclipse, Resurgence). New Delhi: Anuradha Prakashan. ISBN 978-93-85083-52-5.
- Ernst, Carl W. (2010). "Muḥammad as the Pole of Existence". In Brockopp, Jonathan E. (gol.). The Cambridge Companion to Muhammad. Cambridge University Press. tt. 123–138. ISBN 9781139828383.
- Fitzpatrick, Coeli; Walker, Hani (2014). Muhammad in History, Thought, and Culture. ABC-Clio. ISBN 978-1-61069-177-2.
- Gamard, Ibrahim (2004). Rumi and Islam: Selections from His Stories, Poems, and Discourses, Annotated & Explained. SkyLight Paths Publishing. ISBN 978-1-59473-002-3.
- Glassé, Cyril (2008). The New Encyclopedia of Islam. Rowman & Littlefield Publishers. ISBN 978-0-7425-6296-7.
- Guénon, René (2001). Insights Into Islamic Esoterism and Taoism. Sophia Perennis. ISBN 978-0-900588-43-3.
- Mbacké, Khadim; Hunwick, John O. (2005). Sufism and Religious Brotherhoods in Senegal. Markus Wiener Publishers. ISBN 978-1-55876-342-5.
- Rahimi, Sadeq (September 2007). "Intimate Exteriority: Sufi Space as Sanctuary for Injured Subjectivities in Turkey". Journal of Religion and Health (Springer) 46 (3): 409–421. doi:10.1007/s10943-006-9073-2. JSTOR 27513026. https://archive.org/details/sim_journal-of-religion-and-health_2007-09_46_3/page/409.
- Schimmel, Annemarie (2013). Mystical Dimension of Islam. Noura Books. ISBN 978-979-433-797-4.
- Schmidle, Nicholas (December 2008). "Pakistan's Sufis Preach Faith and Ecstasy". Smithsonian Magazine. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-01-22.
- Sells, Michael (1996). Early Islamic Mysticism: Sufi, Qurʼan, Miraj, Poetic and Theological Writings. Paulist Press. ISBN 978-0-8091-3619-3.
- Shah, Idries (1964–2014). The Sufis. ISF Publishing. ISBN 978-1784790035.
- Shah, Idries (1970). The Way of the Sufi. E.P. Dutton.
- Zarrabi-Zadeh, Saeed (2016). Practical Mysticism in Islam and Christianity: A Comparative Study of Jalal al-Din Rumi and Meister Eckhart. Routledge Sufi Series. Routledge. ISBN 978-1-13-810012-1.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ ANJUM, TANVIR (2006). "Sufism in History and its Relationship with Power". Islamic Studies 45 (2): 221–268. ISSN 0578-8072. JSTOR 20839016. https://www.jstor.org/stable/20839016.
- ↑ Sebottendorff, Baron Rudolf von (2013-01-17). Secret Practices of the Sufi Freemasons: The Islamic Teachings at the Heart of Alchemy. Simon and Schuster. ISBN 978-1-62055-001-4.
- ↑ Alan Godlas, University of Georgia, Sufism's Many Paths, 2000, University of Georgia
- ↑ Nuh Ha Mim Keller, "How would you respond to the claim that Sufism is Bid'a?", 1995. Fatwa accessible at: Masud.co.uk
- ↑ Zubair Fattani, "The meaning of Tasawwuf", Islamic Academy. Islamicacademy.org
- ↑ (Saesneg) Islam: Sufism. BBC. Adalwyd ar 5 Mawrth 2013.
- ↑ Milani, Milad (2012). "The Cultural Products of Global Sufism". In Cusack, Carol; Norman, Alex (gol.). Handbook of New Religions and Cultural Production. Brill Handbooks on Contemporary Religion. 4. Leiden: Brill Publishers. tt. 659–680. doi:10.1163/9789004226487_027. ISBN 978-90-04-22187-1. ISSN 1874-6691.
- ↑ Martin Lings, What is Sufism? (Lahore: Suhail Academy, 2005; first imp. 1983, second imp. 1999), p.15
- ↑ Titus Burckhardt, Art of Islam: Language and Meaning (Bloomington: World Wisdom, 2009), p. 223
- ↑ Seyyed Hossein Nasr, The Essential Seyyed Hossein Nasr, ed. William C. Chittick (Bloomington: World Wisdom, 2007), p. 74
- ↑ Martin Lings, What is Sufism? (Lahore: Suhail Academy, 2005; first imp. 1983, second imp. 1999), p.12: "Mystics on the other hand-and Sufism is a kind of mysticism-are by definition concerned above all with 'the mysteries of the Kingdom of Heaven'".
- ↑ Compare: Nasr, Seyyed Hossein (2007). Chittick, William C. (gol.). The Essential Seyyed Hossein Nasr. The perennial philosophy series. Bloomington, Indiana: World Wisdom, Inc. t. 74. ISBN 9781933316383. Cyrchwyd 2017-06-24.
Sufism is the esoteric or inward dimension of Islam [...] Islamic esoterism is, however [...] not exhausted by Sufism [...] but the main manifestation and the most important and central crystallization of Islamic esotericism is to be found in Sufism.
- ↑ Chittick 2007.
- ↑ A Prayer for Spiritual Elevation and Protection (2007) by Muhyiddin Ibn 'Arabi, Suha Taji-Farouki
- ↑ G. R Hawting (2002). The First Dynasty of Islam: The Umayyad Caliphate 661-750. Taylor & Francis. ISBN 978-0-203-13700-0.
- ↑ Howell, Julia. "Sufism in the Modern World". Oxford Islamic Studies Online.
- ↑ Sedgwick, Mark (2012). "Neo-Sufism". In Hammer, Olav; Rothstein, Mikael (gol.). The Cambridge Companion to New Religious Movements. Cambridge University Press.
- ↑ 18.0 18.1 Chittick, William C. (2009). "Sufism. ṢūfĪ Thought and Practice". In Esposito, John L. (gol.). The Oxford Encyclopedia of the Islamic World. Oxford: Oxford University Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-06-03. Cyrchwyd 2022-01-23.
- ↑ The Naqshbandi Sufi Tradition Guidebook of Daily Practices and Devotions, p. 83, Muhammad Hisham Kabbani, Shaykh Muhammad Hisham Kabbani, 2004
- ↑ "Sufism in Islam". Mac.abc.se. Archifwyd o'r gwreiddiol ar April 17, 2012. Cyrchwyd 13 August 2012.