Deodoro da Fonseca

Milwr a gwleidydd o Frasil oedd Manuel Deodoro da Fonseca (5 Awst 182723 Awst 1892) a oedd yn Arlywydd cyntaf Brasil.

Deodoro da Fonseca
Ganwyd5 Awst 1827 Edit this on Wikidata
Marechal Deodoro Edit this on Wikidata
Bu farw23 Awst 1892 Edit this on Wikidata
Barra Mansa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBrasil Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Academia Militar das Agulhas Negras Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, person milwrol Edit this on Wikidata
SwyddArlywydd Brasil, governor of Rio Grande do Sul Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolAnnibynnwr Edit this on Wikidata
MamRosa Paulina da Fonseca Edit this on Wikidata
PriodMariana da Fonseca Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd Croes y De Edit this on Wikidata
llofnod

Ganwyd yn Alagoas yn fab i swyddog milwrol. Gwasanaethodd yn Rhyfel Paragwâi (1864–70), ac yn ddiweddarach cafodd ei ddyrchafu'n gadfridog. Cyrhaeddodd rheng maeslywydd ym 1884, ac ym 1886 daeth yn gadlywydd ac yn bennaeth gweinyddol ar dalaith Rio Grande do Sul.

Fe arweiniodd wrthryfel milwrol ar 15 Tachwedd 1889 i ddymchwel yr Ymerawdwr Pedro II a sefydlu gweriniaeth. Gwasanaethodd yn swydd arlywydd dros dro hyd 24 Chwefror 1891, pan gafodd ei ethol yn arlywydd gan y cynulliad cyfansoddiadol. Ceisiodd rheol fel unben drwy ordinhad, ond cafodd ei orfodi i ymddiswyddo ar 24 Tachwedd 1891.