Der fliegende Holländer
Opera gan Richard Wagner yw Der fliegende Holländer (Cymraeg: "Yr Holandwr Hededog"),[1] WWV 63. Mae'n opera Almaeneg ei hiaith, gyda cherddoriaeth a'r libreto gan Richard Wagner. Thema ganolog yr opera yw adbryniant drwy gariad. Arweiniodd Wagenr y perfformiad cyntaf yn y Königliches Hoftheater Dresden yn 1843.
Math o gyfrwng | gwaith drama-gerdd |
---|---|
Iaith | Almaeneg |
Dyddiad cyhoeddi | 19 g |
Genre | opera |
Cymeriadau | Yr Holandwr, Daland, Senta, Erik, Mary, llywiwr Daland, morwyr o Norwy |
Libretydd | Richard Wagner |
Lleoliad y perff. 1af | Semperoper Dresden |
Dyddiad y perff. 1af | 2 Ionawr 1843 |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Lleoliad y gwaith | Norwy |
Cyfansoddwr | Richard Wagner |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Hawliodd Wagner yn ei hunangofiant Mein Leben (1870) cafodd ei ysrydoli i gyfansoddi'r opera yn dilyn taith ar draws fôr stormus a wnaeth o Riga i Lundain ym mis Gorffennaf a Awst 1839. Yn ei Fraslun Hunangofiannol (1843), fe wnaeth Wagner gyfaddef defnyddiodd stori Heinrich Heine yn ei ailadroddiad o'r chwedl yn ei nofel dychanol (1833) Aus den Memoiren des Herrn von Schnabelewopski (Cofiannau Mr von Schnabelewopski).[2]
Mae'r gwaith yn dangos cynigion cynnar yn arddullion oepra Wagner a fyddai yn cymeriadu ei operâu hwyrach. Yn Der fliegende Holländer mae Wagner yn dfenyddio nifer o leitmotifau (yn llythrennol 'motifau arweiniol') sydd yn ymwneud gyda chymeriadau a themau. Mae'r leitmotifau yn cael eu cyflwyno yn yr agorawd, sy'n dechrau gyda motiff y cefnfor neu'r storm, cyn symud i fotiffau yr Iseldirwr a Senta.
Ysgrifennodd Wagner yr opera yn wreiddiol i gael ei berfformio heb egwyl - esiampl o'i ymdrechion i dorri gyda thraddodiad, ac erbyn heddiw mae rhai tai opera yn dewis dilyn yr esiampl hon, ac eraill yn ei berfformio fersiwn tair-act.
Hanes cyfansoddi
golyguAr ddechrau blwyddyn 1839, cafodd Richard Wagner, dyn 26 oed, ei gyflogi fel arweinydd yn Theatr y Llys yn Riga. Fe wnaeth ei ffordd o fyw afradlon ac ymddeolaeth ei wraig fel actores, Minna Planer, wedi achosi iddo gasglu dyledion mawr nad oedd yn gallu ad-dalu. Ar y pryd roedd Wagner yn ysgrifennu Rienzi, gan greu cynllun i ffoi ei gredydwyr yn riga, dianc i Baris trwy Lundain a gwneud ei ffortiwn an lwyfannu Rienzi ar lwyfan Paris Opéra. Er hyn, roedd y cynllun yn fethiannus: cafodd ei basbort ei dal gan ryr awdurdodau ar ran ei gredydwyr, roedd angen iddo a Minna teithio'n anghyfreithlon dros yr arfordir Prwseg, ac yn ystod y daith fe gollodd Minna ei babi. Gan fyrddio llong Thetis, lle wnaeth y capten caniatáu eu mynediad heb basbortau, cafodd eu taith ei aflonyddu gan stormydd a moroedd uchel. Roedd yn rhaid i'r llong cymryd lloches yn fjord Norwyeg yn Tvedestrand, ac fe wnaeth taith a oedd i fod i grymryd wyth dirwnod barhau am dair wythnos, yr holl ffordd o Riga i Lundain.
Roedd profiad Wagner yn Paris hefyd yn drychinebus. Ni lwyddodd i gael gwaith fel arweinydd, ac nid oedd yr Opéra yn fodlon i gynhyrchu Rienzi. Roedd rhaid i'r tuelu Wagner byw mewn tlodi, gan gael eu gorfodi i fyw ar roddion gan ffrindiau a'r incwm bach roedd Wagner yn gallu gwneud drwy ei ysgrifennu ar gyfer erthyglau cerddoriaeth a chopïo sgoriau. Setlodd Wagner ar syniad oepra un-act ar thema'r Iseldirwr Hededog, a gobeithiodd y gallai ei berfformio cyn bale yn yr Opéra.
Fe wnaeth taith trwy'r riffiau Norwyeg greu argraff anghygoel ar fy nychymyg; fe wnaeth chwedl yr Iseldirwr Hededog, a wnaeth y morwyr wirio, dod â lliwio rhyfedd a nodedig a dim ond fy anturiaethau môr oedd yn gallu gwneud.[3]
Ysgrifennodd Wagner ddrafft rhyddiaith cyntaf y stori yn Paris ym mis Mai 1840, gan seilio'r stori ar ddychan Heinrich Heine Aus den Memoiren des Herrn von Schnabelewopski (Cofiannau Mr von Schnabelewopski), wedi'i arraffu yn Der Salonyn 1834. Yn stori Heine, mae'r adroddwr yn gwylio perffomiad drama ffuglennol ar thema y capten môr sydd wedi'i felltithio i hwylio am byth am gabledd. Mae heinrich yn cyflwyno'r cymeriad fel Iddew Crwydrol y cefnforoedd, gan ychwanegu'r dyfeis a defnyddir gan Wagner yn yr opera a'i operâu hywrach: mae'r Iseldirwr ond yn gallu cael ei achub gan gariad dynes ffyddlon. Yn fersiwn Heine, cyflwynir hyn fel hiwmor eironig; er hyn, fe gymrodd Wagner y thema yn llythrennol, ac yn ei ddrafft, mae'r ddynes yn ffyddlon tan ei marwolaeth.[4][5]
Erbyn diwedd mis Mai 1841, fe gwlbhaoedd Wagner y libreto, neu'r poem, fel oedd yn well iddo ei alw. Dechreuodd waith ar gyfansoddi ym mis Mai i Orffennaf y flwddyn yn gynharach, 1840, pan ysgrifennodd balad Senta, cân y Morwyr Norwyeg yn act 3 ('Stuermann, lass die Wacht!') a'r gân drychiolaaeth criw yr Isedirwr yn yr un olygfa.[6] Cawson nhw eu cyfansoddi ar gyfer clyweliad yn Opéra Paris, ynghyd â braslun o'r plot. Gwerthodd Wagner y plot i Gyfarwyddwr yr Opéra, Léon Pillet, am 500 franc, ond nid oedd gallu ei argyhoeddi roedd y gerddoriaeth yn werthfawr.[7] Ysgrifennodd Wagner weddill Der fliegende Holländer yn ystod haf 1841, gan ysgrifennu'r aorawd yn olaf, ac erbyn mis Tachwedd 1841, roedd trefniant i'r gerddorfa y sgôr wedi'i gweblhau. Er roedd y sgôr wedi'i drefnu i gael ei chwarae drwyddo mewn act sengl, yn hwyrach fe rhannodd y gwaith i mewn i dair act. Wrth wneud, ni wnaeth newid y gerddoriaeth yn sylweddol, ond torrodd ar draws trawsnewidiadau a chafodd eu creu i lifo heb seibiant.
Yn ei ddrafft gwreiddiol, fe wnaeth Wagner lleoli'r opera yn yr Alban, ond newidiodd y lleoliad i Norwy yn fuan cyn llwyfaniad y cynhyrchiad cyntaf yn Dresden, ac arweiniodd ei hunain yn Ionawr 1843.[8]
Yn ei draethawd 'Cyfathrebiad i Fy Ffrindiau' yn 1851, halwiodd Wagner roedd Der fliegende Holländer yn cynrychioli dechrau newydd iddo: "O fan hyn mae fy ngyrfa fel bardd yn dechrau, a fy ffarwel fel dyfeisydd testunau-opera". Erbyn heddiw, yr opera yw'r gynharaf o weithiau Wagner i gael ei berfformio yng Ngŵyl Bayreuth, ac yn dynodi dechrau canon Wagner.
Cymeriadau
golyguCymeriad | Llais |
---|---|
Yr Iseldirwr | bas-bariton |
Senta, merch Daland | sorpano |
Daland, capten môr Norwyeg | bas |
Erik, heliwr | tenor |
Mary, nyrs Senta | contralto |
Llywiwr Daland | tenor |
Morwyr Norwyeg, criw yr Iseldirwr, menywod ifanc |
Offeryniaeth
golyguSgoriwyd Der fliegende Holländer ar gyfer yr offerynnau canlynol:
- piccolo, 2 ffliwt, 2 obo (yn dybli cor anglais), 2 glarinet, 2 fasŵn
- 4 corn Ffrengig, 2 drwmped, 3 thrombôn, tiwba bas
- timpani
- telyn
- Ffidl I a II, feiola, soddgwrth, bas dwbl
Ar lwyfan:
- 3 piccolo, 6 corn, tam-tam, periant gwynt
Crynodeb
golyguLleoliad: ar arfordir Norwy
Act 1
golyguWrth deithio yn ôl i'w famwlad, mae'r capten môr Daland yn cael ei orfodi i ffeindio lloches mewn porthladd yn sandwike, de Norwy. Mae'n cadw'r llywiwr i fel gwarchotgi ac mae ef a'r morwyr yn gadael. (Cân y llywiwr: Mit Gewitter und Sturm aus fernem Meer - "Gyda thymestl a storm ar foroedd pell"). Mae'r llywiwr yn cwympo i gysgu. Mae llong fwganaidd y tu ôl yn cael ei wthio yn erbyn llong Daland gan y môr ac mae'r haearnau yn dal y ddwy long at ei gilydd. Mae dyn croen golau, wedi'i wisgo mewn du gyda gwyneb barfog yn dod i'r tir. Mae'n galaru oherwydd ei ffawd. (Aria: Die Frist ist um, und abermals verstirchen sind sieben Jahr - "Mae'r amser wedi dod ac mae saith blwyddyn wedi mynd heibio eto"). Oherwydd fe wnaeth unwaith arddeisyf ar Satan, mae bwgan y capten wedi'i felltithio i hwylio'r moroedd heb seibiant. Fe ddaeth ag angel telerau ei achubiaeth: pob saith blwyddyn y byddai'r tonnau yn ei wthio i lan y môr; os gallai ffeindio gwraig ffyddlon iddo fe gaiff ei ryddhau o'r felltith.
Yn fuan, deffra Daland ac yn dod wyneb yn wyneb gyda'r dieithryn. Mae'r diethryn yn clywed bod gan Daland ferch heb ei phriodi o'r enw Senta, ac mae'n gofyn am ei phriodi, gan gynnig cist trysor fel anrheg. Wedi'i temtio gan yr aur, mae Daland yn cytuno i'r briodas. Maer gwynt yn chwythu tua'r de ac mae'r ddwy long yn hwylio am gartref Daland.
Act 2
golyguMae grŵp o ferched lleol yn canu a throelli yn nhŷ Daland. (Corws troelli: Summ und brumm, du gutes Rädchen – "Chwyrndro a chyrlio, olwyn dda"). Mae Senta, merch Daland, yn arsyllu ar lun golygus o'r Iseldirwr chwedlonol ar y wal; mae'n dymuno ei achub. Yn erbyn ewyllys ei nyrs, mae'n canu i'w ffrindiau stori yr Iseldirwr, am sut glywodd Satan iddo dyngu llw a'i gymryd yn ddifrifol. Mae hi'n gwenud addewid i'w achub gyda ei ffyddlondeb.
Mae'r heliwr, Erik, cyn-gariad i Senta, yn ei chlywed; wrth i'r merched adael, mae'r heliwr sy'n dal i garu Senta, yn ei rhybuddio gan ddweud iddi ei freuddwyd lle ddychwelodd Daland gyda diethryn rhyfedd a wnaeth ei chario mas i'r môr. Mae Senta yn gwrando'n llawen, gan adael Erik yn dorgalonnus.
Mae Daland yn cyrraedd gyda'r dierthryn; mae ef a Senta yn sefyll yn erdrych ar ei gilydd mewn distawrwydd. Mae Daland bron wedi ei anwybyddu gan ei ferch, hyd yn oed pan gyflwyna'r Iseldirwr iddi fel y dyn sydd wedi dyweddïo iddi hi. Mae deuawd yn dilyn, sy'n cau'r act, ac mae Senta yn tyngu llw i'r Iseldirwr i aros yn ffyddlon iddo tan farwolaeth.
Act 3
golyguYn hwyrach yn y nos, mae'r merched lleol yn dod â bwyd a diod i ddynion Daland. Maent yn gwahodd y criw i'r llong fwganaidd i ddod i ddathly, ond maent yn methu. Mae'r merched yn gadael weid'u synnu; mae ysbrydion yn ymddangos ar y llong ac mae dynion Daland yn encilio mewn ofn.
Cyrrhaedda Senta, wedi'i dilyn gan Erik, sy'n ei cheryddu am ei adael, gan fe wnaeth unwaith ei garu a thyngu lw o ffyddlondeb iddo. Pan ddaw y diethryn sydd wedi bod yn gwrando, mae wedi gorlethu gyda anobaith, gan feddwl ei fod ar goll am byth. Mae'n galw ar ei ddynion, gan adrodd stori y felltith i Senta, ac yn datgan ei fod Der fliegender Holländer ("Yr Holandwr Hededog").
Unwaith y mae'r Iseldirwr yn hwylio, mae Senta yn taflu ei hunain mewn i'r môr, gan addo y byddai'n fyddlon tan y diwedd. Dyma yw ei achubaeth. Mae'r llong fwganaidd yn diflannu, a gwelir Senta a'r Iseldirwr yn esgynnu i'r nefoedd.[9]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Geiriadur yr Academi, s.v. "flying"
- ↑ Millington 1992, t.277
- ↑ Richard Wagner, An Autobiographical Sketch (1843), cyf. William Ashton Ellis, The Wagner Library . Saesneg gwreiddiol: "The voyage through the Norwegian reefs made a wonderful impression on my imagination; the legend of the Flying Dutchman, which the sailors verified, took on a distinctive, strange colouring that only my sea adventures could have given it."
- ↑ William Vaughan yn Richard Wagner: "Der fliegende Holländer", English National Opera Guide (Calder Publications; arg. newydd 1982), tt.27–32
- ↑ Daniel Albright, "The Diabolical Senta", The Opera Quarterly 21:3 (2005): 465–85
- ↑ Millington 1992, p. 278.
- ↑ Martin Gregor-Dellin, Richard Wagner: His Life, His Work, His Century (Llundain: Collins, 1983), t.106
- ↑ T. S. Grey, Richard Wagner, Der fliegende Holländer, Cambridge University Press 2000, pp. 2, 170
- ↑ Mae'r plot yn dod o waith Leo Melitz, The Opera Goer's Complete Guide (1921)
Ffynonellau
golygu- Barry Mullington, The Wagner Compendium: A Guide to Wagner's Life and Music (Llundain: Thames and Hudson, 1992)