Derbyn myfyrwyr prifysgolion
Proses lle mae myfyrwyr yn cael eu derbyn i addysg uwch mewn prifysgolion yw derbyn myfyrwyr prifysgolion. Mae systemau'r broses yn amrywio o wlad i wlad, ac weithiau o sefydliad i sefydliad.
Yn y Deyrnas Unedig, mae ymgeiswyr yn llenwi ac anfon ceisiadau ar gyfer cyrsiau israddedig trwy system UCAS, tra bo ymgeiswyr uwchraddedig yn anfon ceisiadau yn uniongyrchol i brifysgolion. Mae gan y Brifysgol Agored bolisi drws agored.