Derbynnydd ar y top

Safle rhyw rhwng dau bartner ydy derbynnydd ar y top lle ceir cyfathrach rywiol. Os yw un yn ferch yna hi ydy'r derbyniwr (neu'r derbynnydd) a'r dyn yw'r rhoddwr. Gelwir y safle rhyw yma hefyd yn safle cowboi neu safle'r bais. Gall y rhoddwr roi ei bidyn naill ai yng ngwain neu ym mhen ôl y derbyniwr.

Derbynydd ar ben

Gall y partner sydd ar y top wynebu'r naill ffordd neu'r llall. Gelwir y safle ble mae'r derbyniwr yn wynebu traed y partner islaw yn dderbynnydd ar y top, o chwith.