Anws
Un o organau'r system dreulio mewn pobl ac anifeiliaid yw'r anws (o'r Lladin anus ("cylch"), drwy'r Saesneg).[1] Agorfa ar ben ôl y llwybr ymborth ydyw, a'i bwrpas yw ysgarthu, sef allwthio o'r corff y gwastraff lled-solet a gynhyrchir wrth dreulio bwyd. Gall ysgarthion, yn dibynnu ar yr anifail, gynnwys mater anhreuliadwy megis esgyrn,[2] olion bwyd megis seliwlos neu lignin wedi i'r corff dynnu'r holl faetholion ohono, tocsinau, ac endosymbiontiaid meirw neu ormodol megis bacteria'r stumog a'r coluddyn.

1: Y geg 2: Taflod 3: Gwacter 4: Tafod 5: Dannedd 6: Chwarennau poer 7: Is-fantol 8: Is-dafod 9: Parotid 10: Isfantol 11: Oesoffagws (y llwnc) 12: Iau (Afu) 13: Coden fustl 14: Dwythell y bustl 15: Stumog | 16: Pancreas 17: Pibell bancreatig 18: Coluddyn bach 19: Dwodenwm 20: Coluddyn gwag 21: Ilëwm 22: Coluddyn crog 23: Coluddyn mawr 24: Colon traws 25: Colon esgynnol 26: Caecwm 27: Colon disgynnol 28: Colon crwm 29: Rectwm 30: Anws |
Un agen yn unig, a elwir cloaca, sydd gan amffibiaid, ymlusgiaid, ac adar ar gyfer troethi ac ysgarthu, cyfathrach rywiol, a dodwy. Cloaca sydd hefyd gan famaliaid yr urdd Monotremata (yr hwyatbig a theulu'r ecidna), nodwedd o bosib a etifeddir gan yr amniotau cynharaf drwy linach y therapsidau. Medda'r bolgodogion ar un twll ar gyfer ysgarthu baw a throeth, a gwain ar wahân gan y fenyw ar gyfer atgenhedlu (cyplu â'r gwryw ac esgor ar epil). Yn achos y mamaliaid hynny sy'n cario'r ffetws yn y groth ac yn ei fwydo drwy'r brych, mae'r fenyw yn meddu ar dair agen wahanol ar gyfer ysgarthu (anws), troethi (wrethra), ac atgenhedlu (gwain), a'r gwryw yn meddu ar anws i ysgarthu ac wrethra a chanddi dwy biben ar wahân i droethi ac alldaflu.
Cam pwysig yn esblygiad anifeiliaid amlgellog oedd datblygiad yr anws. Ymddengys iddo ddigwydd dwywaith, yn esblygiad y Protostomia a'r Deuterostomia fel ei gilydd.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ anws. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 30 Mawrth 2017.
- ↑ Chin, K.; Erickson, G.M. (1998-06-18). "A king-sized theropod coprolite". Nature 393 (6686): 680. doi:10.1038/31461. http://www.nature.com/nature/journal/v393/n6686/abs/393680a0.html. Summary at Monastersky, R. (1998-06-20). "Getting the scoop from the poop of T. rex". Science News (Society for Science &) 153 (25): 391. doi:10.2307/4010364. JSTOR 4010364. http://www.sciencenews.org/pages/sn_arc98/6_20_98/fob2.htm. Adalwyd 2017-03-30.
Bioleg | Anatomeg | System dreulio |
Ceg | Ffaryncs | Oesoffagws | Stumog | Cefndedyn | Coden fustl | Afu | Dwodenwm | Coluddyn gwag | Ilëwm | Coluddyn mawr | Caecwm | Rectwm | Anws |