Derec Llwyd Morgan
academydd Prydeinig
Bardd Cymraeg a beirniad llenyddol yw Derec Llwyd Morgan (ganed 15 Tachwedd 1943). Mae'n enedigol o bentref Cefn-bryn-brain, Sir Gaerfyrddin. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman, Rhydaman, Coleg Prifysgol Cymru, Bangor a Phrifysgol Rhydychen. Bu'n ddarlithydd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth o 1969 hyd 1975, pan symudodd i'r Adran Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Bangor. Dyrchafwyd ef yn Ddarllenydd (1983–1989). Bu'n Athro’r Gymraeg ac yn bennaeth Adran y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth hyd 1995, pan benodwyd ef yn Brifathro’r Coleg. Ymddeolodd yn 2004.[1]
Derec Llwyd Morgan | |
---|---|
Ganwyd | 15 Tachwedd 1943 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru |
Mae ef hefyd yn Gymrawd Cychwynnol o Gymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn Aelod o’r Cyngor cychwynnol.
Cyhoeddiadau
golygu- Y Tan Melys (Llyfrau'r Dryw, 1966)
- Yr Aelwyd Hon: Diweddariadau o Hen Farddoniaeth Gymraeg (Llyfrau'r Dryw, 1970)
- Gwna yn Llawen, Wr Ieuanc (Gomer, 1978)
- (gol.) Bro a Bywyd: Kate Roberts 1891-1985 (Cyhoeddiadau Barddas, 1981)
- Pobl Pantycelyn (Gomer, 1986)
- Cefn y Byd (Gomer, 1987)
- Meddwl a Dychymyg Williams Pantycelyn (Gomer, 1991)
- Y Beibl a Llenyddiaeth Gymraeg (Gomer, 1998)
- Y Diwygiad Mawr (Gomer, 1999)
- Tyred i'n Gwaredu: Bywyd John Roberts, Llanfwrog (Gwasg y Bwthyn, 2010)
- Y Brenhinbren: Bywyd a Gwaith Thomas Parry, 1904-1985 (Gomer, 2015)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Awduron Cymru - Derec Llwyd Morgan. Llenyddiaeth Cymru.