Pentref bychan yng nghymuned Cwarter Bach, Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Cefn-bryn-brain, weithiau Cefnbrynbrain a hefyd Cefn Bryn Brain. Saif ger ffîn ddwyreiniol Sir Gaerfyrddin, ychydig i'r gogledd o bentref mwy Cwmllynfell, gerllaw'r briffordd A4068.

Cefn-bryn-brain
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Gaerfyrddin Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.80658°N 3.824355°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auAdam Price (Plaid Cymru)
AS/auJonathan Edwards (Annibynnol)
Map

Mae'n ardal Gymraeg o ran iaith; roedd 83.29% o boblogaeth y gymuned yn medru rhywfaint o Gymraeg yn 2001.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Adam Price (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Jonathan Edwards (Annibynnol).[2]

Pobl o Gefn-bryn-brain golygu

Cyfeiriadau golygu